Mae gwaith gwerth £500,000 i ehangu Parc Busnes Broadaxe yn Llanandras wedi’i gwblhau gan Lywodraeth Cymru.
Mae dau blot eisoes wedi’u gwerthu, yn amodol ar gontract, i fusnes lleol sydd yn awyddus i ehangu, ac mae trafodaethau yn cael eu cynnal gyda busnesau ac unigolion lleol eraill sydd â diddordeb mewn sefydlu eu busnesau eu hunain yn y parc.
Roedd y gwaith ehangu’n dilyn ymholiadau gan nifer o gwmnïau, gan gynnwys busnesau yn Llanandras, a oedd yn awyddus i dyfu.
Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi:
“Y buddsoddiad hwn yw’r diweddaraf o nifer o ymyriadau rhagweithiol gan Lywodraeth Cymru i gefnogi busnesau mewn ardaloedd gwledig yng Nghymru sy’n dymuno ehangu.
“Fel Llywodraeth rydyn ni wedi ymrwymo i helpu busnesau i dyfu ac mae hyn yn golygu mai ni sy’n buddsoddi mewn safleoedd a seilwaith mewn sawl rhan o Gymru pan nad yw’r sector preifat yn fodlon gwneud.
“Rwyf am sicrhau bod manteision twf yn yr economi’n cael eu rhannu ar draws Cymru ac mae ehangu Parc Busnes Broadaxe yn cefnogi’r strategaeth hon. Rydyn ni’n gwybod bod argaeledd safleoedd ac adeiladau’n hanfodol wrth ddenu buddsoddiad newydd, cadw buddsoddiad presennol a chreu swyddi.”
Ychwanegodd iddo agor yr wythnos diwethaf gyfleuster newydd gwerth £1.8m a adeiladwyd gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod Zip-Clip yn gallu ehangu ei fusnes yn y Trallwng. Dywedodd hefyd fod Llywodraeth Cymru wedi dechrau’r gwaith ar seilwaith Parc Busnes Clawdd Offa yn y Trallwng a fydd yn sicrhau y gall Charlies Stores adeiladu pencadlys a chanolfan e-fasnachu newydd yno.
Cafodd prosiect Broadaxe ei gyflawni gan Jones Brothers (Henllan) Limited. Roedd y gwaith yn cynnwys adeiladu ffordd newydd a gosod gwasanaethau cysylltiedig ac mae hyn wedi sicrhau bod y safle 4 erw a chwe phlot datblygu â gwasanaethau ar gael i fusnesau.
Dywedodd Gareth Jones, Cyfarwyddwr Jones Bros (Henllan) Ltd:
“Rydym wedi gweithio yng Nghymru ers amser hir ac felly, yn naturiol, rydym yn falch iawn ein bod wedi cael cymryd rhan yn y gwaith o ddatblygu’r safle nodedig hwn drwy adeiladu ffordd y fynedfa a gosod y seilwaith a’r gwasanaethau cysylltiedig.
“Yn ddiweddar, rydyn ni wedi gweithio ar nifer o brosiectau parc busnes yn Sir Gaerfyrddin (Parc Bwyd Cross Hands a Pharc Manwerthu Trostre) yn ogystal â rhannau eraill o Gymru. Rydyn ni’n gobeithio y bydd y buddsoddiad hwn yn sicrhau’r un manteision economaidd a’r cyfleoedd gwaith ag a ddaeth yn sgil y prosiectau eraill.”