Neidio i'r prif gynnwy

Gall teithwyr rheilffordd ledled Cymru a’r Gororau edrych ymlaen at weld eu gwasanaethau rheilffordd yn cael eu trawsnewid

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Mehefin 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn dilyn proses gaffael fanwl o dan Reoliadau Contractau Cyfleustodau 2016, cyhoeddodd y Prif Weinidog Carwyn Jones heddiw (4 Mehefin) bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi contract i KeolisAmey i weithredu a datblygu gwasanaeth rheilffordd Cymru a’r Gororau a Metro De Cymru gan weithio mewn partneriaeth â sefydliad Trafnidiaeth Cymru.

Bydd y contract 15 mlynedd yn weithredol o 4 Mehefin, 2018 tan 16 Hydref, 2033, gyda KeolisAmey yng ngofal gwasanaeth rheilffordd Cymru a’r Gororau o 14eg Hydref, 2018 ymlaen, gan gymryd yr awenau gan Drenau Arriva Cymru.

Yn bartneriaeth rhwng y gweithredwr trafnidiaeth gyhoeddus rhyngwladol Keolis a’r cwmni sy’n arbenigo ar reoli asedau seilwaith, bydd KeolisAmey yn gweithio mewn partneriaeth â Thrafnidiaeth Cymru, gan redeg yr holl wasanaethau o dan frand Trafnidiaeth Cymru. 

Trafnidiaeth Cymru yw’r cwmni dielw sy’n sbarduno gweledigaeth Llywodraeth Cymru o rwydwaith trafnidiaeth safonol, diogel, integredig, fforddiadwy a hygyrch yng Nghymru.

Cyhoeddodd y Prif Weinidog, gyda’r Ysgrifennydd Trafnidiaeth Ken Skates, y contract newydd mewn digwyddiad arbennig yn y Ganolfan Hyfforddiant Rheilffordd yng Ngholeg y Cymoedd, Nantgarw, yng nghwmni Llywydd Keolis Jean-Pierre Farandou a Phrif Swyddog Gweithredol Amey Andy Milner.

Dywedodd y Prif Weinidog: 

“Mae hwn yn ddigwyddiad pwysig i drafnidiaeth yng Nghymru ac yn gychwyn ar bennod newydd i wasanaethau rheilffordd yn y wlad yma. 

“Fe aethon ni ati i gaffael yn wahanol y tro hwn. Blaenoriaethau’r teithwyr oedd wrth galon ein ffordd ni o feddwl ac fe roddwyd her i’r ymgeiswyr i gyd i roi sylw i’w pryderon am nifer y seddau ar drenau, amseroedd siwrneiau ac amledd gwasanaethau. Fe ddywedodd y teithwyr eu bod nhw eisiau prisiau fforddiadwy a threnau glanach a mwy newydd, ac rydyn ni wedi gweithio’n galed i sicrhau bod hyn yn cael ei adlewyrchu yn y contract rydyn ni’n ei lansio heddiw. 

“Dyma gyfle nid yn unig i greu system drafnidiaeth fodern a blaengar, ond i’w defnyddio hefyd fel adnodd pwysig i ddylanwadu ar fywyd y genedl o’n cwmpas ni. Mae hon yn garreg filltir yn natblygiad Cymru yn y dyfodol.”

Daw’r cyhoeddiad wrth i bwerau rheilffordd gael eu datganoli i Lywodraeth Cymru. Mae hyn yn dilyn trafodaethau manwl rhwng yr Adran ar gyfer Trafnidiaeth a Llywodraeth Cymru. Mae’r cytundeb yn ystyried bod llawer o’r gwasanaethau rheilffordd yn gweithredu ar ddwy ochr y ffin rhwng Cymru a Lloegr ac mae’n cynnwys mesurau i warchod yr holl deithwyr sy’n defnyddio’r llwybrau hyn. 

Dyma fanteision mawr contract newydd rheilffordd Cymru a’r Gororau: 

  • Bydd 600 o staff ychwanegol yn cael eu recriwtio i ddarparu’r gwasanaeth mewn sawl rôl a bydd 450 o brentisiaethau newydd (30 bob blwyddyn) yn cael eu creu dros oes y contract hefyd.
  • Bydd £1.9 biliwn yn cael ei fuddsoddi mewn gwella profiad teithio’r teithwyr, gan gynnwys £800 miliwn o fuddsoddiad mewn trenau, gan roi hwb o 65 y cant i allu’r gwasanaeth yn gyffredinol travel.  
  • Bydd pob trên yn cael ei newid erbyn 2023 gyda 95 y cant o’r siwrneiau ar drenau newydd sbon a hanner y rheiny’n cael eu hadeiladu yng Nghymru.
  • Bydd £194 miliwn yn cael ei fuddsoddi mewn moderneiddio pob un o’r 247 o orsafoedd a bydd pedair gorsaf newydd yn cael eu hadeiladu: Gabalfa, Heol Crwys, Sgwâr Loudoun a’r Flourish.  
  • Bydd gorsafoedd yn cael eu pweru 100 y cant gan ynni adnewyddadwy, gydag o leiaf 50 y cant o’r ynni hwnnw o ffynhonnell yng Nghymru. Dyma un o’r ffyrdd niferus y bydd y gwasanaeth newydd yn cyfrannu at gyflawni nodau polisi Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.   
  • Bydd buddsoddi mewn mentrau teithio llesol yn cynnwys gosod loceri newydd i feiciau a tharged i ennill achrediad Gorsaf Ddiogel i bob gorsaf.  
  • Bydd teithwyr yn dechrau gweld gwelliannau mewn lefelau gwasanaeth o fis Rhagfyr 2018 ymlaen, gyda mwy o gapasiti ar gledrau’r Cymoedd a gwasanaethau newydd rhwng Caer a Lerpwl.  
  • Erbyn diwedd 2023, bydd teithwyr yn gallu manteisio ar 285 o wasanaethau ychwanegol bob diwrnod o’r wythnos ledled Cymru (cynnydd o 29 y cant). Bydd hyn yn cynnwys gwelliannau i lein Glynebwy a Wrecsam - Bidston yn ogystal â lein y Cambrian a Chalon Cymru.            
  • Bydd hwb o 61 y cant i wasanaethau ar y Sul gyda 294 o wasanaethau ychwanegol ledled Cymru, gan greu gwasanaeth saith diwrnod yr wythnos go iawn.
  • Bydd tocynnau clyfar yn sicrhau bod y prisiau’n fwy hyblyg a bydd prisiau rhatach heb fod mewn oriau brig yn cael eu cyflwyno, gan gynnwys gostyngiadau ar brisiau yng Ngogledd Cymru ac oddeutu 50 y cant o orsafoedd y Cymoedd.
  • Hefyd bydd technoleg newydd yn helpu i sicrhau llai o darfu a gwella gwasanaethau. 
  • Fel ymateb i ofynion cwsmeriaid, bydd trenau amlach, amseroedd teithio llai a phrisiau mwy hyblyg yn gwneud teithio’n haws ac yn fwy cost-effeithiol.  
  • Bydd gwella capasiti a gwasanaethau hefyd yn helpu i sicrhau’r cyfleoedd datblygu economaidd gorau posib a ddarperir gan y gwasanaeth newydd, fel bod pobl yn gallu manteisio ar fwy o gyfleoedd cyflogaeth, a’r rheiny’n rhai gwell. 

Gan groesawu’r manteision i drafnidiaeth a’r economi yng Nghymru, dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet ar gyfer yr Economi a Seilwaith:   

“Dyma’r tro cyntaf i wasanaeth rheilffordd gael ei gaffael a’i ddyfarnu yng Nghymru, ar gyfer Cymru. Mae’n ganlyniad mwy na phedair blynedd o waith caled yn datblygu dull arloesol o weithredu ac yn ymateb i’r gwersi a ddysgwyd o fasnachfraint rheilffyrdd a darparu seilwaith ledled y DU yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

“Yn rhy aml yn ein hanes ni, rydyn ni wedi siarad am y modelau perchnogaeth ar gyfer rheilffyrdd, heb hefyd feddwl drwy bethau’n ddigon clir o ran beth roedden ni eisiau ei wneud gyda’r rhwydwaith ei hun. Nawr mae gennym ni gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i gywiro hyn.

“Fe fyddaf yn defnyddio’r bwrdd cyflawni trawslywodraethol rwyf wedi’i sefydlu drwy gyfrwng y Cynllun Gweithredu Economaidd newydd i weithio gyda sefydliad Trafnidiaeth Cymru, cydweithwyr gweinidogol ar draws y llywodraeth a phartneriaid fel Banc Datblygu Cymru a Thasglu’r Cymoedd i sicrhau ein bod yn manteisio i’r eithaf ar y cyfle am ddatblygiadau economaidd sydd o’n blaen.”

Ychwanegodd James Price, Prif Weithredwr Trafnidiaeth Cymru: "Dyma ddechrau taith gyffrous o drawsnewid a fydd yn gwella gwasanaethau rheilffyrdd yn ddramatig ledled Cymru a'i ffiniau ac rydym wedi rhoi anghenion ein cwsmeriaid wrth wraidd y trawsnewid hwn.

"Mae hyn yn fwy na buddsoddiad sylweddol mewn gwasanaethau rheilffyrdd, mae hefyd yn fuddsoddiad mewn ffyniant Cymru yn y dyfodol. Bydd pobl a chymunedau Cymru yn cael eu cysylltu'n well gan wasanaethau rheilffordd newydd a gwell, gan agor cyfoeth o gyfleoedd cyflogaeth, hamdden a chyfleoedd eraill. "

Meddai Jo Johnson, y Gweinidog Rheilffyrdd: 

"Mae hwn yn ddiwrnod hanesyddol i deithwyr oherwydd ei fod yn rhoi mwy o reolaeth ar wasanaethau trên rhanbarthol i mewn i ddwylo lleol ac yn fuddiol i ddefnyddwyr rheilffyrdd ar ddwy ochr y ffin.

"Rydym wedi cydweithio'n agos â Llywodraeth Cymru i sicrhau'r fargen orau a bydd y fasnachfraint newydd yn dod â gwasanaethau ychwanegol a buddsoddiad eithriadol. Rydym hefyd yn buddsoddi £125 miliwn er mwyn sefydlu gwasanaeth metro newydd sy'n cysylltu trefi a phentrefi ar draws De Cymru. "

Meddai Alistair Gordon, Prif Weithredwr Keolis UK: "Rydym wedi ein cyffroi gan y trawsnewid y byddwn yn ei wireddu yma yng Nghymru, gan weithio’n ochr yn ochr ag Amey unwaith eto ac mewn partneriaeth â Thrafnidiaeth Cymru.

"Am rhy hir mae'r rheilffyrdd yng Nghymru wedi dioddef oherwydd tan fuddsoddi ac, er bydd y newidiadau y mae angen inni eu gwneud yn cymryd amser, rydym yn creu platfform ar gyfer twf economaidd a ffyniant yn y dyfodol a fydd o fudd i Gymru gyfan nawr ac am genedlaethau i ddod.

"Mewn pum mlynedd, ni fyddem yn gallu adnabod y rheilffordd o'r hyn sydd ohoni heddiw, diolch i weledigaeth Llywodraeth Cymru. Allwn ni ddim aros i gychwyn y gwaith. "

Meddai Andy Milner, Prif Weithredwr Amey: 

"Gan adeiladu ar ein partneriaeth lwyddiannus gyda Keolis, sydd eisoes yn ein gweld yn darparu dau wasanaeth sy’n perfformio’n uchel - sef Metrolink Greater Manchester a Rheilffordd Ysgafn Docklands Llundain - rydym yn falch i ymgymryd â chontract Cymru a'r Gororau.

"Mae hwn yn gyfle gwych i ni ddefnyddio ein galluoedd ar y cyd i ddarparu gwasanaeth o’r radd orau i Gymru a'i chymunedau. Yn ogystal â chreu swyddi newydd a chyfleoedd prentisiaeth, byddwn yn canolbwyntio ar uwchraddio'r seilwaith presennol a chyflwyno trenau newydd i wella profiad teithwyr yn sylweddol.

"Rydym yn edrych ymlaen at weithio mewn partneriaeth gyda Thrafnidiaeth Cymru a fydd yn gweld pob trên yn cael ei adnewyddu'n gyfan gwbl, ac uwchraddio mawr.

"Rydym hefyd yn edrych ymlaen at weithio gyda'r dynion a menywod balch ac ymroddedig iawn sy'n rhedeg y rheilffordd yng Nghymru heddiw, a fydd yn ymuno â ni ar y daith gyffrous hon."