Neidio i'r prif gynnwy

Mae Dyfed Steels – y cyflenwr a’r prosesydd annibynnol mwyaf yng Nghymru a’r de-orllewin – yn buddsoddi dros £4miliwn mewn cyfleuster gweithgynhyrchu newydd

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Chwefror 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Er gwaethaf yr argyfwng presennol sy’n cael effaith ar y diwydiant dur, mae’r Rheolwr-gyfarwyddwr David Thomas, sylfaenydd y busnes o Lanelli 41 mlynedd yn ôl, yn gwrthod llawer iawn o fusnes bob blwyddyn oherwydd diffyg capasiti.  

Trwy ychwanegu rhagor o werth i’w cynnyrch, mae Mr Thomas wedi sylwi ar gyfleoedd i ehangau, a chyda cymorth £750,000 gan Lywodraeth Cymru, bydd y buddsoddiad yn cael ei ddefnyddio ar ei safle yn Llanelli, yn hytrach na’i safleoedd eraill yn Lloegr. 

Mae Dyfed Steels yn bwriadu ail-ddatblygu adeilad drws nesaf i’w safle yn Llanelli yn ganolfan brosesu newydd i gynyddu capasiti, gallu ac effeithiolrwydd, a bydd yn buddsoddi bron i £3 miliwn mewn offer newydd ar gyfer twf y busnes, gan gynyddu llif o 10,000-15,000 tunnell y flwyddyn.

Meddai Ken Skates, Gweinidog yr Economi: 

“Mae Dyfed Steels yn gwmni cynhenid o Gymru sydd o bwysigrwydd sylweddol i economi Llanelli a’r Gorllewin.  Dyma 41af blwyddyn y cwmni, ac yn ystod y cyfnod hwnnw mae wedi sicrhau llwyddiant sylweddol heb gymorth y sector cyhoeddus.  Mae bellach yn gweithredu o fewn hinsawdd sy’n hynod anodd i’r diwydiant dur, ac rwy’n falch iawn bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi ei fuddsoddiad i ddiogelu eu cwmni yn Llanelli.

“Bydd y buddsoddiad mawr hwn gan fusnes cynhenid mewn diwydiant hynod bwysig yn diogelu a chreu swyddi newydd gwerth uchel ac yn helpu’r cwmni i gynyddu ei gapasiti a datblygu ei gyfran o’r farchnad mewn gwaith prosesu mwy proffidiol.

“Fel cwsmer amlwg i Tata a Celsa Steel, bydd yr ehangu hefyd yn cael effaith gadarnhaol ar y diwydiant dur ehangach yng Nghymru.” 

Meddai David Thomas y Rheolwr-gyfarwyddwr: 

“Rydym yn ddiolchgar iawn o’r cymorth a gafwyd gan Lywodraeth Cymru, pan ddaeth eu cymorth yn angenrheidiol yn ystod cyfnod o bryder mawr i’r Sector Dur ym Mhrydian.  Mae angen i Dyfed Steels Ltd barhau i fod yn gystadleuol er mwyn parhau â’i bresenoldeb amlwg o fewn marchnad heriol.  Byddwn bellach yn parhau i geisio sicrhau nid yn unig ddyfodol y busnes ond i annog twf, diogelu swyddi a chreu cynifer â phosib o gyfleoedd newydd am staff.  Rydym yn anelu at gynyddu ein capasiti cynhyrchu gyda’r cymorth ychwanegol hwn, gan ddenu cyfleoedd busnes newydd a pharhau fel busnes teuluol sefydlog sy’n datblygu yng Ngorllewin Cymru.”

Mae’r busnes yn gwasanaethu dros 2000 o gwsmeriaid ar draws amrywiol sectorau gan gynnwys amaethyddiaeth, adeiladu a pheirianeg ac yn cynnig ystod eang o wasanaethau prosesu o’r baryn symlaf i brosesu soffistigedig manwl iawn.  

Mae’n cyflogi 270 o bobl ar draws 10 o safleoedd ledled Prydain, sy’n cyflogi 173 yn ei brif swyddfa a’i ganolfan ddosbarthu yn Llanelli. Mae canolfannau hefyd yng Nghymru ym Mhort Talbot, Casnewydd a’r Drenewydd.