Mae dau brosiect mawr a ariennir gan gyllid yr UE i wella'r cyfleoedd sydd ar gael i bobl ifanc Cymru wedi cael eu cyhoeddi gan Mark Drakeford, Ysgrifennydd Cyllid Llywodraeth Cymru.
Bydd y prosiectau'n cynnig rhaglenni cymorth wedi eu haddasu'n arbennig ar gyfer yr unigolyn, a fydd yn cynnwys hyfforddiant, cyfleoedd i wirfoddoli a phrofiadau gwaith â thâl, i dros 9,000 o bobl dros y tair blynedd nesaf.
Yn ogystal, bydd £5.8m o gyllid yr UE yn cael ei roi tuag at y cyfanswm o £8.3m i ehangu’r Gronfa Cynhwysiant Gweithredol sy'n rhoi cyfleoedd i bobl ifanc rhwng 16 a 24 mlwydd oed y Gogledd, y Gorllewin a’r Cymoedd.
Meddai'r Athro Drakeford:
"Mae'n bleser cael cyhoeddi bod arian o’r UE yn cael ei roi i'r prosiectau hyn, a fydd yn arwain at wella sgiliau miloedd o bobl ifanc Cymru, a chynnig cyfleoedd newydd iddynt i’w helpu i wireddu eu potensial.
"Mae rhain yn brosiectau pwysig sy'n elwa o'r miliynau o bunnoedd mae Cymru'n eu cael gan yr Undeb Ewropeaidd. Mae’r arian hwn yn helpu pobl i gael gwaith neu i dderbyn hyfforddiant, yn cefnogi busnesau, yn gwella ein ffyrdd a'n seilwaith ac yn helpu i adfer cymunedau.
"Dyma pam ei bod yn hanfodol pwyso ar Lywodraeth y DU i gadarnhau na fydd Cymru yn colli ceiniog o'r cyllid hwn o ganlyniad i'r penderfyniad i adael yr UE.
"Wrth i drefniadau gael eu gwneud i'r DU adael yr UE, rydyn ni'n parhau i sicrhau bod prosiectau presennol yr UE yng Nghymru yn mynd yn eu blaenau, gan fuddsoddi ynddynt er mwyn gwneud yn siŵr nad oes gormod o newid i ddinasyddion, cymunedau a busnesau."
Nod cynllun Cynnydd yw helpu pobl ifanc i aros yn hirach ym myd addysg a hyfforddiant er mwyn gwella eu cyfleoedd ar gyfer swyddi a gyrfaoedd yn y dyfodol.
Bydd y bobl ifanc yn cael cefnogaeth megis mentora, coetsio a chwnsela un i un; cyrsiau i wella eu sgiliau sylfaenol, eu hunan-hyder a'u sgiliau bywyd a chyfleoedd profiad gwaith a gwirfoddoli.
Daw'r buddsoddiad i gynllun Cynnydd yn dilyn buddsoddiad o £30m o gyllid yr UE yn gynharach eleni i gynlluniau tebyg sy’n rhoi cymorth i bobl ifanc y Gogledd, y De-ddwyrain a'r Cymoedd.
Dywedodd y Cynghorydd Keith Lewis, aelod cabinet ar gyfer yr economi a chymunedau Cyngor Sir Penfro:
"Mae prosiect Cynnydd yn gyfle gwych i wella dyfodol y bobl ifanc hynny fyddai o bosib wedi gorfod brwydro'n erbyn heriau bywyd heb y cymorth hwn.
"Nid yw hwn yn brosiect sy'n peintio pawb â'r un brwsh, bydd yn cael ei addasu ar gyfer anghenion a dyheadau pob unigolyn."
Bydd y Gronfa Cynhwysiant Gweithredol, sy'n cael ei rheoli gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC), o fudd i bron i 5,000 o bobl ifanc drwy gynnig rhaglenni i ddatblygu sgiliau a phrofiadau gwaith â thâl i'r di-waith.
Yn ôl Phil Fiander, cyfarwyddwr gweithrediadau CGGC:
"Bydd bron i 5,000 o bobl ifanc yn elwa o'r arian ychwanegol hwn i'r Gronfa Cynhwysiant Gweithredol. Â nifer ohonynt yn dod o gefndiroedd difreintiedig, mae angen y math hwn o gefnogaeth arnynt er mwyn newid eu bywydau.
"Bydd yr arian yn creu cyfleoedd sydd wedi eu lleoli yn y gymuned ar gyfer pobl ifanc rhwng 16 a 24 mlwydd oed i wella eu sgiliau ac i fanteisio ar brofiadau gwaith â thâl, gyda rhywbeth gwahanol at ddant bawb, beth bynnag eu diddordebau, eu talentau a'u gallu."