Neidio i'r prif gynnwy

Gyda chymorth Llywodraeth Cymru, mae Massilly UK yn buddsoddi £1.5 miliwn er mwyn iddo fedru cynhyrchu pedair gwaith yn fwy nag ar hyn o bryd a chreu a diogelu mwy na 40 o swyddi yn Abertawe.

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Ebrill 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ar hyn o bryd, mae'r cwmni'n cynhyrchu 10 miliwn o ganiau erosol y flwyddyn a bydd y buddsoddiad hwn, sy'n cael ei gefnogi gan £200,000 oddi wrth Lywodraeth Cymru, yn golygu y bydd modd uwchraddio'r llinell gynhyrchu bresennol a chyflwyno llinell ychwanegol, a fydd yn galluogi'r cwmni i gynhyrchu hyd at 40 miliwn o ganiau'r flwyddyn erbyn 2018.  

Bydd y buddsoddiad yn sicrhau bod gan y safle ddyfodol cynaliadwy a bydd yn creu 16 o swyddi newydd ac yn diogelu 25 o swyddi sy'n bodoli eisoes.

Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates:

“Mae Massilly yn gweithio mewn marchnad arbenigol sydd wedi hen ennill ei phlwyf, ac sy’n tyfu. Mae'n cyflenwi'r sector BBaChau yn y DU ac mae bellach yn cynhyrchu hyd eithaf ei allu. Mae wedi gweld cynnydd o 25% yn ei drosiant yn ystod y tair blynedd diwethaf a bydd y buddsoddiad hwn mewn peiriannau ac offer ychwanegol yn golygu y bydd yn gallu manteisio ar gyfleoedd pellach i dyfu.

"Dw i'n hynod falch bod cymorth a roddwyd gan Lywodraeth Cymru wedi helpu i sicrhau'r buddsoddiad hwn i Gymru, a fydd yn golygu y bydd y cwmni'n gallu cynhyrchu llawer iawn mwy, gan ddiogelu a chreu swyddi." 


Ar ôl yr ymdrech a wnaed i fuddsoddi, mae grŵp Massilly yn awyddus i gryfhau ei safle yn y  farchnad caniau erosol tunplat yn y DU drwy weithgynhyrchu a chynnig cymorth i'w gwsmeriaid yn lleol. 

"Rydyn ni'n bendant o'r farn mai cynnig ateb lleol i'n cwsmeriaid yw'r ffordd fwyaf effeithlon o wireddu eu disgwyliadau. Rydyn ni wedi datblygu'r un model yn Sbaen ar gyfer de Ewrop, ac wedi gwneud hynny yn yr Almaen a Rwsia hefyd. Mae'n rhwydwaith Ewropeaidd, sy'n gysylltiedig â'n strwythurau lleol, yn ein helpu i gynnig arbenigedd, ac i fod yn hyblyg," 

meddai Thomas Bindschedler, Prif Swyddog Gweithredol y Massilly Group. 

Wrth gyflwyno cais i Lywodraeth Cymru am y grant dewisol hwn, cafodd y cwmni gymorth oddi wrth gwmni cynghori Broomfield; Alexander. Dywedodd Mike Fenwick, y Cyfarwyddwr Grantiau:

"Roedden ni'n falch iawn o gael helpu Massilly UK gyda'r broses ymgeisio, a oedd yn cynnwys cytuno ar delerau ac amodau, a pharatoi'r cynlluniau busnes a'r rhagolygon ariannol ategol er mwyn sicrhau bod y cais yn bodloni meini prawf Llywodraeth Cymru, a'i fod hefyd yn cydymffurfio â rheolau'r UE ar Gymorth Gwladwriaethol. Mae'r buddsoddiad yn newyddion gwych i Gymru ac i'r economi leol a hoffen ni ddymuno pob llwyddiant i Massilly gyda'i fuddsoddiad newydd."


Mae Massilly UK, sydd wedi bod yng Nghymru ers 1984 ac sy’n gweithio o ystad Ddiwydiannol yr Hendy, Pontarddulais, yn is-gwmni sydd ym mherchenogaeth lwyr Massilly Holding SA, cwmni teuluol preifat sydd â'i bencadlys ym Mâcon, Ffrainc, ac sydd â 28 o is-gwmnïau yn Ewrop, yn ogystal ag yng Nghanada, De Affrica, Rwsia ac India.    
Trodd y safle yn Abertawe ei olygon at farchnad erosolau’r DU yn 2012  – y fwyaf ond un yn Ewrop, sy'n cynhyrchu 1 biliwn o ganiau'r flwyddyn – gan dargedu'r sector BBaChau. Mae ansawdd ei gynnyrch, sy'n cael ei ystyried yn well na chynnyrch a fewnforir, wedi rhoi mantais gystadleuol enfawr iddo wrth ennill busnes newydd.