Mae’r Prif Weinidog, Carwyn Jones, wedi croesawu cynlluniau i greu clwstwr technoleg o safon ryngwladol yng Nghasnewydd.
Y cyfleuster arloesol hwn yw’r prosiect cyntaf i dderbyn nawdd y Fargen Ddinesig gwerth £1.2bn a dyma’r datblygiad diweddaraf yng nghynlluniau Llywodraeth Cymru i wneud Cymru’n ganolfan ryngwladol o arbenigwyr ym maes lled-ddargludyddion cyfansawdd.
Bydd y ganolfan Lled-ddargludyddion Cyfansawdd yn gwneud Cymru’n geffyl blaen o ran datblygu technoleg y maes a disgwylir iddi ddenu hyd at £365 miliwn o arian preifat i fuddsoddi ynddi dros y pum mlynedd nesaf.
Mae lled-ddargludyddion cyfansawdd yn allweddol yn nhechnoleg amrywiaeth o feysydd, o dechnoleg ddiwifr a ffonau clyfar i ynni solar a phwerdai, o ddyfeisiau delweddu newydd a diagnosteg mewn gofal iechyd i drafnidiaeth.
Wrth ddisgrifio’r prosiect fel pluen fawr yn het y de ddwyrain, dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones:
“Rwy’n falch iawn iawn bod ein buddsoddiad cychwynnol o £12m wedi bod yn gymaint o hwb i greu clwstwr cynta’r byd o’r diwydiant lled-ddargludyddion cyfansawdd yng Nghasnewydd.
“Mae ein cefnogaeth i Athrofa Technoleg Lled-ddargludyddion Cyfansawdd wedi cael llawer o ganmoliaeth fel y sbardun i ddatblygu’r clwstwr rhyngwladol bwysig hwn. Disgwylir iddo greu mwy na 2,000 o swyddi bras gan ddod yn gonglfaen i brosiect fydd yn gweddnewid yr ardal.
“Mae ein buddsoddiad mawr heddiw yn golygu bod gan Gymru le blaenllaw ym myd y dechnoleg gyffrous hon all newid ein ffordd o fyw. Dyma newyddion gwych i Gymru – a’r cyntaf mewn cyfres o brosiectau newydd cyffrous fydd yn gwneud gwahaniaeth go iawn i economi’r De-Ddwyrain.”