Mae Kirsty Williams, yr Ysgrifennydd Addysg, wedi cyhoeddi £0.5 miliwn er mwyn buddsoddi yn ysgol uwchradd Cantonian (Dydd Mercher 28 Rhag).
Bydd y cyllid a gyhoeddwyd heddiw yn ei gwneud yn bosibl i Gyngor Caerdydd wella’r safle ar gyfer unedau modiwlar newydd a gwneud gwelliannau pwysig eraill i safle’r ysgol.
Mae’r buddsoddiad yn rhan o Raglen Ysgolion ac Addysg £1.4bn Llywodraeth Cymru ar gyfer yr 21ain Ganrif, sy’n ceisio diweddaru adeiladau ysgolion ledled Cymru.
Mae tua £164miliwn wedi’i neilltuo ar gyfer Cyngor Caerdydd i’w fuddsoddi drwy’r rhaglen ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif. Bydd hanner ohono yn dod oddi wrth Lywodraeth Cymru..
Dywedodd Kirsty Williams:
“Dwi wrth fy modd yn cael cyhoeddi’r buddsoddiad hwn. Fe ddylai olygu bod modd i’r ysgol ymbaratoi’n well ar gyfer y tymor hir wrth i ddisgyblion symud i gyfleusterau mwy addas. Fe fyddwn ni’n parhau i godi safonau ysgolion a buddsoddi yn eu hadeiladau er mwyn darparu’r amgylchedd gorau posibl ar gyfer ein dysgwyr.”
Bydd Cyngor Caerdydd yn derbyn £0.5m tuag at gostau’r prosiect, sef £1 miliwn (50%), er mwyn darparu bloc adeiladau dros dro.