Neidio i'r prif gynnwy

Cyhoeddodd Vaughan Gething, yr Ysgrifennydd Iechyd, y cam diweddaraf o gyllid ar gyfer y gwaith ailddatblygu mawr sy'n cael ei wneud yn Ysbyty Treforys.

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Ionawr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd £5.11 miliwn yn cael ei ddefnyddio i ddymchwel adeiladau ar y safle nad ydynt yn cael eu defnyddio mwyach, datblygu crèche newydd ar y safle a darparu seilwaith TG newydd ar gyfer yr ysbyty. 

Gwnaeth Mr Gething y cyhoeddiad yn ystod ymweliad â'r Uned Ymchwil Fiomeddygol i Haemostasis.  

Mae'r cyllid hwn yn ychwanegol at y £142.539m sydd eisoes wedi'i roi i wella cynlluniau o dan y rhaglen Gweledigaeth Iechyd Abertawe yn Ysbyty Treforys.

Mae rhai rhannau o'r ysbyty yn cael eu defnyddio ers mwy na 30 o flynyddoedd, ac mae rhannau eraill yn dyddio yn ôl i gyfnod yr Ail Ryfel Byd. Nid yw'r adeiladau a fydd yn cael eu dymchwel yn bodloni safonau a chanllawiau adeiladu presennol.  

Dywedodd Vaughan Gething: 

“Mae'r buddsoddiad hwn yn rhan o gynllun moderneiddio ehangach ar gyfer Ysbyty Treforys. Bydd yn gwneud y safle yn fwy diogel ac yn creu mwy o le ar gyfer datblygiadau wrth i Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg gynllunio ar gyfer dyfodol gofal iechyd ar y safle.”

Dywedodd Sian Harrop-Griffiths, Cyfarwyddwr Strategaeth, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg:
"Rydyn ni mor falch bod Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid i gefnogi'r cam nesaf o ddatblygu safle Ysbyty Treforys. Bydd y cyllid hwn yn golygu bod modd dymchwel nifer mawr o adeiladau hen ffasiwn gan fod y gwasanaethau a oedd yn arfer cael eu darparu ohonynt wedi cael eu symud erbyn hyn i adeiladau eraill ar y safle sy’n fodern, ac yn addas at y diben.  

“Bydd hyn hefyd yn sicrhau bod lle ar gael dros dro i barcio ceir wrth i'r gwaith o gynllunio a datblygu maes parcio aml-lawr ar y safle fynd rhagddo, ac mae’r cynllunio ar gyfer hyn wedi hen ddechrau."