Bydd llyfrgelloedd cyhoeddus yn rhannu platfform llyfrgell ddigidol effeithlon newydd a fydd yn gwneud y gwasanaeth yn fwy cyson ac yn gwella mynediad at lyfrau, e-lyfrau a gwasanaethau llyfrgell eraill.
Gyda chefnogaeth o dros £900,000 gan Lywodraeth Cymru, bydd y platfform a rennir yn cynyddu'r ystod o ddeunyddiau sydd ar gael mewn llyfrgelloedd lleol drwy ganiatáu iddynt rannu eu hadnoddau gyda llyfrgelloedd eraill. Ar ôl ei weithredu, bydd y platfform yn galluogi gwasanaethau llyfrgell i gydweithio ar ddatblygiadau eraill fel un cerdyn llyfrgell yng Nghymru.
Cyngor Gwynedd oedd yn gyfrifol am gaffael y platfform fel prif awdurdod ar gyfer y prosiect hwn. Caiff ei weithredu dros y misoedd nesaf ac mae disgwyl iddo fynd yn fyw yn ddiweddarach eleni.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol, Lesley Griffiths:
Mae llyfrgelloedd yn rhan bwysig o'n cymunedau, maen nhw'n lle gwych i gael gafael ar lyfrau ac adnoddau am ddim ac rydym am eu gwneud yn haws i'w defnyddio. Bydd y platfform llyfrgell ddigidol newydd hwn yn annog ac yn cefnogi hyd yn oed mwy o bobl i elwa o'r gwasanaethau y gall llyfrgelloedd eu cynnig.
Dywedodd Dirprwy Arweinydd ac Aelod y Cabinet dros Economi a Chymunedau, Cynghorydd Nia Jeffreys:
Rydym yn falch iawn o dderbyn cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y prosiect gwirioneddol arloesol a chydweithredol hwn a fydd yn helpu i drawsnewid Gwasanaethau Llyfrgell yng Nghymru. Bydd llwyfan newydd y Llyfrgell Ddigidol Genedlaethol i Gymru yn darparu buddion niferus i gwsmeriaid llyfrgelloedd, staff a rhanddeiliaid eraill, gan roi'r defnyddiwr wrth wraidd popeth a wnawn. Bydd hefyd yn sicrhau ein bod yn darparu gwasanaeth o ansawdd, wedi'i ategu gan welliannau i'r gwasanaeth i'n holl ddefnyddwyr ledled Cymru, wedi'i ddylunio o amgylch eu hanghenion.
Dywedodd Cadeirydd Cymdeithas Prif Lyfrgellwyr Cymru, Nicola Pitman:
Mae hwn yn gyfle cyffrous i wella gwasanaethau i Gwsmeriaid Llyfrgelloedd ledled Cymru ac allwn ni ddim aros i weld beth y gellir ei gyflawni gyda'r Llwyfan newydd. Mae SCL Cymru yn ddiolchgar iawn i Lywodraeth Cymru am y buddsoddiad hwn yn Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru a'u cydnabyddiaeth o'r rôl hanfodol y mae Llyfrgelloedd yn ei chwarae i'w cymunedau yng Nghymru.