Neidio i'r prif gynnwy

Mae gwaith yn mynd rhagddo ar ddau gyfleuster cymunedol Iechyd a Gofal Cymdeithasol integredig newydd yn Sir y Fflint, gyda chymorth mwy nag £14 miliwn o gyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru. Cyhoeddwyd hynny gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan.

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Ionawr 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd un prosiect yn arwain at agor cartref gofal preswyl newydd yn y Fflint, tra bydd y llall yn darparu canolfan gwasanaethau dydd a gwaith i unigolion ag anableddau dysgu, awtistiaeth ac anghenion cymorth iechyd meddwl yn yr Wyddgrug.

Bydd Cartref Gofal Preswyl Croes Atti, yn y Fflint, yn gartref i 56 o bobl hŷn ar safle hen ysbyty cymunedol pan fydd wedi'i gwblhau.

Mae’r cynllun yn werth tua £18 miliwn, ac mae wedi cael ychydig dros £11 miliwn o gyllid drwy raglenni cyfalaf Llywodraeth Cymru, sef y Gronfa Gyfalaf Integreiddio ac Ailgydbwyso (IRCF) a’r Gronfa Tai â Gofal (HCF). Mae gweddill y cyllid yn cael ei ddarparu gan raglen gyfalaf Cyngor Sir y Fflint.

Bydd cartref gofal presennol yn yr ardal yn cael ei adleoli a'i ehangu o'i gapasiti presennol o 31 o welyau. Bydd gwasanaethau gofal cymdeithasol a gofal iechyd integredig yn cael eu darparu gan dimau gwasanaethau cymdeithasol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Chyngor Sir y Fflint.

O dan gynllun Canolfan Gwasanaethau Integredig Maes Gwern bydd gwasanaethau dydd anabledd dysgu presennol Tri Ffordd, Bretton, a gwasanaeth dydd iechyd meddwl Growing Places yn Shotton, yn adleoli i'r Wyddgrug. Mae'r prosiect yn cael £2.9 miliwn o gymorth drwy'r IRCF, ac ariennir yr £1.8 miliwn arall drwy raglen gyfalaf y Cyngor.

Ymwelodd Julie Morgan â'r ddau safle i glywed rhagor am y cynlluniau.

Dywedodd:

Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu modelau gofal integredig newydd a fydd yn sicrhau canlyniadau iechyd a gofal cymdeithasol gwell i bobl Cymru.

Bydd y ddau brosiect pwysig hyn yn helpu i feithrin y capasiti cymunedol y mae ei angen i helpu pobl i fyw'n dda gartref, eu hatal rhag gorfod mynd i'r ysbyty a'u cefnogi i ddychwelyd adref yn gyflym os ydyn nhw wedi cael eu derbyn i'r ysbyty.

Rwy'n edrych ymlaen at weld y prosiectau yn cael eu cwblhau yn y dyfodol agos.

Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James:

Mae'r Gronfa Tai â Gofal yn caniatáu i bobl gadw eu hannibyniaeth drwy eu cefnogi i barhau i fyw yn eu cymuned.

Mae Croes Atti yn enghraifft gadarnhaol o sut mae'r Gronfa Tai â Gofal yn cefnogi ein hymrwymiad i greu datblygiadau tai arloesol sy'n sicrhau bod anghenion gofal a chymorth pobl yn cael eu diwallu mor agos at eu cartrefi â phosibl ledled Cymru.

Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd Neil Ayling, Prif Swyddog Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint, a Dr Michelle Greene, Cyfarwyddwr Cymuned Iechyd Integredig (Dwyrain) Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr:

Mae Cyngor Sir y Fflint a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wrth eu boddau o weld gwaith yn dechrau ar ein prosiectau yn y Fflint a'r Wyddgrug.

Bydd Croes Atti Newydd yn enghraifft flaenllaw o ofal preswyl o ansawdd uchel a bydd yn cynnig gwasanaethau o'r radd flaenaf mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Bydd datblygu canolfan integredig Maes Gwern yn hwyluso darparu gwasanaethau cymunedol rhagorol i unigolion ag anableddau dysgu, awtistiaeth ac anghenion cymorth iechyd meddwl.

Bydd y safle pwrpasol newydd a'r gwaith partneriaeth llwyddiannus yn darparu'r gwasanaethau cynaliadwy o ansawdd uchel y mae eu hangen i ddiwallu anghenion trigolion Sir y Fflint.

Rydyn ni'n croesawu'r cyllid a ddaeth i law oddi wrth y cynlluniau cyllido sy'n cael eu darparu gan Lywodraeth Cymru ac yn cydnabod yr hyder y mae'n ei ddangos yn ymrwymiad Sir y Fflint a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i gynyddu capasiti ac ansawdd gwasanaethau yn yr ardal.

Ychwanegodd y Cynghorydd Christine Jones, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir y Fflint ac Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Llesiant:

Mae'n wych gallu darparu'r gwasanaethau hyn i drigolion Sir y Fflint. Rydym ni'n falch iawn o'r arloesedd yn Sir y Fflint a'r buddsoddiad parhaus yn natblygiad gwasanaethau'r sir.