Neidio i'r prif gynnwy

Mae Jeremy Miles, y Gweinidog Addysg, wedi cyhoeddi y bydd £3.31 miliwn ar gael i wella dulliau awyru mewn ysgolion, colegau a phrifysgolion yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Hydref 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Defnyddir yr arian i wella dulliau awyru mewn lleoliadau addysg fel ystafelloedd dosbarth ysgolion, colegau a neuaddau darlithio. A hynny er mwyn lleihau'r risg o ledaenu COVID-19 a chreu amgylcheddau dysgu mwy diogel i ddisgyblion, myfyrwyr a staff.

Daw'r cyhoeddiad hwn wrth i beiriannau monitro CO2 newydd ddechrau cael eu cyflwyno mewn lleoliadau addysgol ledled Cymru yr wythnos hon. Disgwylir i 30,000 o beiriannau monitro 'goleuadau traffig' CO2 gael eu darparu i awdurdodau lleol i'w dosbarthu i ystafelloedd dosbarth, ystafelloedd seminarau a neuaddau darlithio yng Nghymru. Disgwylir i'r broses o’u cyflwyno gael ei chwblhau erbyn canol mis Tachwedd. 

Rhoddwyd canllawiau i leoliadau addysgol ar sut i ddefnyddio'r peiriannau monitro CO2 newydd sy’n cynnwys synwyryddion. Bydd y peiriannau'n rhybuddio athrawon a darlithwyr pan fydd lefelau CO2 yn codi, gan roi gwybod iddynt fod angen gwella dulliau awyru.  Bydd hyn yn helpu i gynnal tymheredd cyfforddus i ddysgwyr a staff yn ystod cyfnodau oerach, gan leihau'r gwres sy'n cael ei golli ac arbed costau ynni. 

Os bydd y peiriannau monitro yn nodi bod problem barhaus o ran CO2, gall ysgolion, colegau a phrifysgolion gael cyllid o'r buddsoddiad a gyhoeddwyd heddiw i wneud gwaith i wella dulliau awyru. 

Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg:

Mae wedi bod yn dda gweld plant yn ôl yn yr ysgol y tymor hwn. Rydyn ni'n gwybod pa mor bwysig y mae hi o ran eu lles iddyn nhw allu bod yn yr ysgol gyda'u ffrindiau a'u hathrawon. Ac rydyn ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod yr ystafelloedd dosbarth yn fannau diogel i ddisgyblion ddysgu ynddyn nhw. 

Bydd y buddsoddiad hwn ar gyfer gwella dulliau awyru, ynghyd â chyflwyno peiriannau monitro CO2, yn helpu i gadw cyfraddau trosglwyddo'r feirws yn isel. Ond mae'n dal yn bwysig iawn ein bod ni i gyd yn gwneud ein rhan i leihau lledaeniad COVID-19 – ac mae hynny'n cynnwys golchi dwylo'n rheolaidd a chadw pellter os gallwn.