Neidio i'r prif gynnwy

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, Mark Drakeford wedi cyhoeddi buddsoddiad gwerth £45m gyda chymorth yr UE i wella sgiliau a chyfleoedd gyrfa ar draws y de.

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Mai 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Diolch i £29m o arian Ewropeaidd rhoddwyd y golau gwyrdd i amrywiol fentrau, gan gynnwys cymorth i bobl ifanc sydd mewn perygl o droi cefn ar fyd addysg neu hyfforddiant, cynllun dysgu yn y gweithle ar gyfer gweithwyr mewn cwmnïau a hyfforddiant arweinyddiaeth i berchnogion a rheolwyr busnes.

Y mentrau newydd yw:

  • Upskilling@Work gwerth £19m, gyda chymorth £10.8m o Gronfa Gymdeithasol Ewrop, a fydd yn darparu rhaglenni hyfforddi yn y gweithle i ddatblygu sgiliau a gyrfaoedd dros 8,000 o weithwyr mewn cwmnïau ar draws y de-ddwyrain, dan arweiniad Coleg y Cymoedd a Coleg Gwent;
  • Sgiliau ar gyfer Diwydiant II gwerth £16.8m,  gyda chymorth £11.8m o Gronfa Gymdeithasol Ewrop, a fydd yn darparu dros 8,800 o gyfleoedd dysgu yn y gweithle i ysgogi gallu cynhyrchu cwmnïau ar draws y de-orllewin, dan arweiniad Coleg Gŵyr, Abertawe;
  • Inspire2Achieve gwerth £9.2m, gyda chymorth £4.2m o Gronfa Gymdeithasol Ewrop, a fydd yn helpu 3,900 o bobl ifanc sydd mewn perygl o ymddieithrio a throi cefn ar fyd addysg a hyfforddiant yng Nghaerdydd, Casnewydd, Sir Fynwy a Bro Morgannwg, dan arweiniad Cyngor Dinas Casnewydd.
  • Arwain Twf Busnes (y Dwyrain) gwerth £4m, gyda chymorth £2.4m o Gronfa Gymdeithasol Ewrop, a fydd yn helpu dros 300 o berchnogion a rheolwyr busnes i ennill sgiliau arwain a rheoli newydd, dan arweiniad Prifysgol Metropolitan Caerdydd.
Daw’r cyhoeddiad heddiw ar ôl i dros £145m o arian Ewropeaidd eisoes gael ei fuddsoddi i hybu sgiliau pobl Cymru ers 2015, gan gynnwys cyllid ar gyfer prentisiaethau, hyfforddiant yn y gweithle a sgiliau arwain yn y Cymoedd, y Gorllewin a’r Gogledd, a sgiliau lefel uwch ar gyfer peirianneg a gweithgynhyrchu uwch.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet, Mark Drakeford:


“Pobl yw’r ased fwyaf sydd gennym ni, ac mae buddsoddi cyllid Ewropeaidd gwerthfawr er mwyn i bobl Cymru gael y sgiliau priodol i gyflawni’u potensial yn uchelgais bwysig i Lywodraeth Cymru. Fel Llywodraeth sydd o blaid Ewrop, dyma enghraifft gadarnhaol arall o fanteision aelodaeth y Deyrnas Unedig o’r Undeb Ewropeaidd.”

Yn gynharach yn yr wythnos, cyhoeddwyd gwerth £25m o arian Ewropeaidd hefyd ar gyfer menter KESS II (Ysgoloriaethau Sgiliau’r Economi Wybodaeth) Prifysgol Bangor, a fydd yn cael ei chyflawni mewn partneriaeth gyda saith o brifysgolion eraill Cymru, gan uno busnesau, academyddion a myfyrwyr ôl-raddedig i weithio ar brosiectau ymchwil.

Ychwanegodd Ysgrifennydd y Cabinet, Mark Drakeford:

“Rhwng 2014 a 2020 bydd Cymru’n elwa ar tua £800m o gyllid yr Undeb Ewropeaidd i helpu pobl i ennill sgiliau a chyfleoedd am swyddi, gyda £1bn i helpu busnesau i dyfu, torri tir newydd drwy ymchwil ac arloesi, a datblygu seilwaith pwysig.

“Yn gyffredinol, gan gynnwys ein rhaglenni gwledig a thaliadau uniongyrchol i fusnesau fferm, mae Cymru’n elwa ar tua £500m o fuddsoddiad gan yr Undeb Ewropeaidd yn yr economi a’r farchnad lafur bob blwyddyn.“