Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford fuddsoddiad newydd gwerth £26m gyda chefnogaeth yr UE i helpu pobl ifanc o bob rhan o Gymru i gael gwaith.

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Tachwedd 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y pecyn ariannol, sy'n cynnwys £17.5 miliwn o arian yr UE, yn cael ei ddefnyddio i ariannu tri chynllun sydd â'r nod o helpu 7,000 o bobl ifanc 16-24 oed o bob cwr o'r wlad i gael mynediad at hyfforddiant a chyfleoedd am swyddi.

Yn dilyn y cyhoeddiad diweddaraf hwn, daw cyfanswm y buddsoddiad i bobl ifanc drwy raglenni'r UE ar gyfer 2014-2020 i £193m.

Wrth siarad mewn digwyddiad yn Abertawe i nodi cynnydd a llwyddiant cronfeydd yr UE yng Nghymru, ac i ddathlu 60 mlynedd ers lansio Cronfa Gymdeithasol Ewrop, dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford:

"Rwy'n falch iawn ein bod ni wedi buddsoddi £193m o arian yr Undeb Ewropeaidd hyd yma i helpu ein pobl ifanc i wireddu eu potensial ac i wella eu cyfleoedd gyrfa. Mae'r prosiectau hyn yn enghreifftiau pellach o ba mor bwysig ydyw i Gymru gael yr un lefel o gyllid ag yr ydyn ni’n ei gael ar hyn o bryd gan yr Undeb Ewropeaidd, o goffrau’r Deyrnas Unedig ar ôl Brexit, er mwyn inni allu parhau i gefnogi pobl ifanc a'u helpu i sicrhau dyfodol ffyniannus."

Dyma'r cynlluniau fydd yn cael eu datblygu:

  • Ysbrydoli i Gyflawni 
  • Ad Trac
  • Cam Nesa

Bydd y cynlluniau'n darparu cymorth pwrpasol i bobl ifanc sy'n wynebu heriau sylweddol. Byddan nhw'n cynnig mentora un i un, help i ddatblygu sgiliau personol a sylfaenol yn ogystal â llythrennedd digidol a hunan-barch er mwyn i bobl ifanc ennill cymwysterau, cael eu derbyn i addysg bellach a chael swyddi.

Bydd y prosiect Ysbrydoli i Gyflawni gwerth £10m, gyda chefnogaeth gwerth £6.7m gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop, yn cael ei arwain gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent a Chyngor Dinas Casnewydd. Bydd yn cynnig cyngor, cymorth a hyfforddiant i bobl ifanc ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf, Caerffili, Merthyr Tudful, Torfaen, Caerdydd, Bro Morgannwg, Casnewydd a Sir Fynwy.

Bydd y prosiect Cam Nesa gwerth £5.7m, gyda chefnogaeth gwerth £4m gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop, yn cael ei arwain gan Gyngor Sir Penfro a bydd yn darparu cyngor, cymorth a hyfforddiant yn y de-orllewin. Bydd y prosiect Ad Trac gwerth £10.4m, dan arweiniad Grŵp Llandrillo-Menai a chyda chefnogaeth gwerth £6.8m o gyllid yr UE, yn darparu'r gwasanaethau hyn yn y gogledd.

Dywedodd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Eluned Morgan: 

"Mae llawer o bobl ifanc yn wynebu rhwystrau sylweddol i gael gwaith gan nad oes ganddyn nhw'r sgiliau priodol na'r cymorth sydd ei angen arnyn nhw i lwyddo. Bydd y cynlluniau hyn yn eu helpu i fagu hunan-hyder a datblygu'r sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw i oresgyn y rhwystrau hyn a chael swyddi.”