Neidio i'r prif gynnwy

Buddsoddiad sylweddol yn arwydd o hyder yn economi Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Mawrth 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae prosiect gwerth £127 miliwn ar safle Valero yn Sir Benfro wedi cael y golau gwyrdd, yn sgil cymorth gan Lywodraeth Cymru.

Fe gafodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones gyfarfod â Valero yn ystod ei ymweliad â Washington yr wythnos hon. Croesawodd y newyddion, gan ddweud ei fod yn bleidlais o hyder yn safle Sir Benfro ac yn economi ehangach Cymru.

Bydd y prosiect gwerth £127 miliwn yn creu Uned Cydgynhyrchu Gwres a Phŵer Cyfunedig ym Mhurfa Valero ym Mhenfro. Bydd yr uned 45 megawatt yn darparu pŵer i'r burfa, yn helpu Valero i reoli costau trydan yn well yn y dyfodol, ac yn arbed ynni.

Bydd y newidiadau hyn yn sicrhau hyfywedd y busnes yn y dyfodol ac yn helpu i gynnal swyddi'r 1000 a mwy o weithwyr a chontractwyr sydd ar y safle. Ar ben hynny, bydd prif gontractwr yn cael ei benodi ac yn cynnal diwrnod agored i’r bobl leol er mwyn trafod cyfleoedd am swyddi gyda’r prosiect.

Dywedodd Is-lywydd a Rheolwr Cyffredinol Purfa Valero, Ed Tomp, 

"Mae'r prosiect hwn yn bwysig iawn ar gyfer cynnal hyfywedd y burfa yn y tymor hir. Mae penderfyniad rheolwyr Valero i gymeradwyo ein cynlluniau ar gyfer yr Uned yn benllanw blwyddyn o ymdrech aruthrol i sicrhau'r buddsoddiad sylweddol hwn yn economi Cymru. Rydyn ni’n gwerthfawrogi cymorth Llywodraeth Cymru a’r penderfyniad i roi caniatâd cynllunio, sy’n brawf o'r cydweithio cadarnhaol rhwng y cwmni a Llywodraeth Cymru, rheoleiddwyr a'r cyhoedd.”

Dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones:

"Mae'r prosiect hwn yn hwb aruthrol i economi'r de-orllewin, ar raddfa debyg i brosiectau trawsnewidiol eraill fel safle Aston Martin yn Sain Tathan a Chanolfan Confensiynau Rhyngwladol Cymru.

"Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn cydweithio’n agos â Valero i gefnogi’r buddsoddiad hwn, a fydd yn caniatáu i Valero dyfu a chystadlu'n llwyddiannus mewn marchnad fyd-eang. Bydd yn diogelu swyddi ymhell i'r dyfodol. Dyma newyddion ardderchog i'r 1000 a mwy o weithwyr sydd ar y safle, a hwb sylweddol i economi Cymru wrth i ni ddathlu Dydd Gŵyl Dewi."

Yr Uned Cydgynhyrchu Gwres a Phŵer Cyfunedig yw'r prosiect cyntaf o'i fath i gael caniatâd cynllunio fel rhan o'r broses Datblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol dan Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015.

Mae Valero Energy Ltd yn un o gwmnïau angori Llywodraeth Cymru, wedi'i leoli yn Ardal Fenter Dyfrffordd y Ddau Gleddau.