Cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan heddiw y bydd mwy na £86 miliwn ar gael ar gyfer cyfleusterau, offer a meddalwedd newydd ym maes triniaethau canser.
Mae’r buddsoddiad yn rhan o raglen hirdymor yn ne-ddwyrain Cymru i drawsnewid sut caiff gwasanaethau canser eu darparu. Mae’n nodi carreg filltir bwysig yn y gwaith o drawsnewid triniaethau canser ar draws y rhanbarth ac yn cynnig gofal yn agosach at gartrefi’r cleifion.
Mae mwy na £48 miliwn yn cael ei fuddsoddi mewn cyfarpar radiotherapi o’r radd flaenaf, a fydd yn disodli’r fflyd cyflymwyr llinellol a geir yng Nghanolfan Ganser Felindre. Bydd wyth o’r peiriannau hyn yn cael eu disodli yn y ganolfan yn yr Eglwys Newydd, Caerdydd – a bydd dau arall yn mynd i ganolfan radiotherapi newydd yn Ysbyty Nevill Hall yn y Fenni rhwng nawr a 2025.
Bydd hyn yn sicrhau bod gan wasanaethau radiotherapi gyfarpar dibynadwy, eu bod yn gallu darparu’r technegau diweddaraf a bod ganddynt ddau beiriant ychwanegol i fodloni’r galw cynyddol am driniaethau canser.
Bydd y Ganolfan ‘Lloeren’ Radiotherapi newydd, gwerth £38 miliwn yn Ysbyty Nevill Hall yn y Fenni, yn agor erbyn 2024 er mwyn i bobl sy’n byw yng ngogledd a dwyrain dalgylch Canolfan Ganser Felindre gael gwell mynediad at wasanaethau radiotherapi.
Bydd y buddsoddiad cyfunol yn darparu triniaethau newydd a gwell i gleifion canser, yn darparu gwasanaethau radiotherapi diogel, ac yn gwella capasiti ac effeithlonrwydd y gwasanaeth – drwy ddarparu triniaethau cyflymach sydd wedi’u targedu’n well.
Bydd y buddsoddiad hefyd yn darparu meddalwedd cynllunio triniaethau canser wedi’i moderneiddio, y galedwedd ddigidol gysylltiedig ac adnewyddiadau i’r adeilad.
Unwaith y bydd y rhaglen wedi ei chwblhau, bydd de-ddwyrain Cymru yn cael budd o Ganolfan Ganser Felindre newydd, Canolfan Lloeren Radiotherapi ychwanegol, fflyd newydd o beiriannau radiotherapi, a’r feddalwedd ddiweddaraf i gynllunio a chyflawni radiotherapi.
Mae’r gwaith hwn yn mynd rhagddo yn unol â datblygiad y model clinigol ehangach o ofal canser nad yw’n lawfeddygol. Mae hyn hefyd yn cynnwys datblygu gwasanaethau oncoleg acíwt integredig mewn ysbytai cyffredinol dosbarth drwy gydol y rhanbarth.
Wrth ymweld â Chanolfan Ganser Felindre, dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:
Mae agor canolfan lloeren radiotherapi yn ne-ddwyrain Cymru a'n gwaith o ailstrwythuro cyfarpar radiotherapi yn arddangos ein hymrwymiad i wneud buddsoddiadau sylweddol i wella gwasanaethau a chanlyniadau canser yng Nghymru.
Bydd y model lloeren newydd yn gwella mynediad at radiotherapi, gan wasanaethu llawer o’n cymunedau mwyaf difreintiedig yn economaidd- gymdeithasol ym Mlaenau’r Cymoedd a gogledd Gwent.
Mae hyn yn adeiladu ar fuddsoddiadau diweddar yn natblygiad y Ganolfan Ganser Felindre newydd a buddsoddiadau tebyg ym maes radiotherapi, gwaith cynllunio triniaethau, a chyfarpar diagnostig yng nghanolfannau triniaethau canser de-orllewin a gogledd Cymru.
Mae hyn yn rhan o’n dull gweithredu hirdymor o sicrhau bod pobl yn gallu cael mynediad at dechnegau radiotherapi a argymhellir o fewn targedau amseroedd aros canser a safonau mynediad proffesiynol.
Dywedodd Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, Steve Ham:
Bydd ein fflyd newydd o beiriannau radiotherapi yn darparu triniaeth o’r radd flaenaf i gleifion canser yn ne-ddwyrain Cymru a thu hwnt. Rydym yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am ei buddsoddiad ac yn edrych ymlaen at weithio gyda’n partneriaid i ddatblygu gwell gwasanaethau canser ar gyfer y cenedlaethau i ddod. Mae ein staff a’n cleifion yn ganolog i’n gwaith o ddatblygu gwasanaethau ac rydym yn ddiolchgar iawn am eu hymrwymiad parhaus i wella canlyniadau cleifion tra’n darparu gofal o’r radd flaenaf heddiw.
Yn ogystal â datblygu’r Ganolfan Ganser Felindre newydd, bydd hyn yn ein galluogi i barhau i ymateb i’r galw cynyddol wrth i ragor o bobl gael eu hatgyfeirio atom gyda chanser bob blwyddyn.
Dywedodd Nicola Prygodzicz, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan:
Rydym wrth ein bodd bod y cyfleuster gwych, newydd hwn wedi’i gymeradwyo ac rydym yn edrych ymlaen at ei weld yn datblygu. Mae’n ddatblygiad newydd a chyffrous iawn ar gyfer safle Ysbyty Nevill Hall, a fydd yn cynnig gwasanaethau canser arbenigol yn agosach at gartrefi preswylwyr Gwent.
Dywedodd Laurent Amiel, Llywydd Datrysiadau Oncoleg Ymbelydredd Ewrop, y Dwyrain Canol ac Affrica yn Varian:
Mae Varian yn falch o gydweithio ag arweinwyr a llywodraethau byd-eang wrth i ni gyrraedd rhagor o gleifion a datblygu ein cenhadaeth i greu byd nad yw’n ofni canser. Edrychwn ymlaen at y cyfle hwn i ehangu mynediad at well gofal canser i gleifion ar draws de Cymru.