Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit Jeremy Miles, sy'n gyfrifol am gyllid yr UE yng Nghymru, wedi cyhoeddi heddiw gyllid gwerth £2.58 miliwn gan yr UE ar gyfer datblygu safleoedd busnes newydd ger Llantrisant yn Rhondda Cynon Taf.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Hydref 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Dywedodd Mr Miles:

"Bydd datblygiad busnes Coed Ely mewn safle allweddol ar y ffordd i mewn i Gymoedd y Rhondda a bydd yn gwasanaethu'r economi ranbarthol drwy gynnig unedau diwydiannol modern ar gyfer busnesau newydd a busnesau presennol a sbarduno twf yn yr ardal allweddol o fewn Rhondda Cynon Taf.

"Bydd y prosiect newydd a chyffrous hwn yn ymateb i effaith colli safle cyflogaeth mawr yn yr ardal. Bydd yn denu buddsoddiadau diwydiannol ysgafn newydd i Gymoedd y Rhondda, gan greu cyfleusterau y mae galw mawr amdanynt mewn lleoliad gwych a fydd yn annog BBaCh lleol i ehangu a gwella eu cynhyrchiant. Bydd hefyd yn creu swyddi newydd a diogel ar gyfer yr hirdymor, gan roi opsiynau i drigolion lleol a'r cyfle iddynt roi'r gorau i ddibynnu ar fudd-daliadau gan ymuno â'r farchnad lafur.

"Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod Cymru'n wlad fwy ffyniannus a diogel i fyw a gweithio ynddi. Mae cronfeydd yr UE yn cefnogi pobl Cymru ar lawr gwlad, a bydd y prosiect hwn yn creu cyfleoedd lleol a all wneud gwahaniaeth mawr i fywydau pobl Rhondda Cynon Taf, gan helpu i ddiogelu'r economi ranbarthol at y dyfodol mewn termau real iawn."

Mae Rhondda Cynon Taf, a fydd yn arwain y datblygiad, a Llywodraeth Cymru yn cydweithio er mwyn ariannu'r prosiect hwn yn rhannol, ac mae pob partner yn buddsoddi £675,000 a fydd yn ychwanegol at y cyllid gan yr UE. Caiff y parc diwydiannol newydd ei adeiladu ar 15 hectar o gaeau brown sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru ar gyn safle pwll glo a golosg Coed Ely.

Bydd y parc i'r Gogledd-ddwyrain o gylchfan y Bathdy Brenhinol ar yr A4119, a bydd yn creu 2,787m (30,000 troedfedd sgwâr) o arwynebedd llawr ar gyfer busnesau diwydiannol modern. Bydd yn ymateb i'r galw ac yn anelu at annog arallgyfeirio a chystadleurwydd, gan dargedu BBaCh neu gwmnïau mwy a all greu cyfleoedd gwaith parhaol ac o ansawdd uchel.

Mae'r safle tua 4.5 milltir i'r gogledd o'r M4, mae ger yr A4119 ac mae mynediad uniongyrchol ato o Gyffordd 34 yr M4.

Dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth:

"Mae gwella cyfleoedd gwaith mewn ardal sy'n nes at Gymoedd y Rhondda yn agwedd allweddol ar waith Tasglu'r Cymoedd. Bydd y prosiect hwn, o fewn ardal y Tasglu, yn creu cyfleoedd ac yn cyflawni newid economaidd hirdymor ar gyfer cymunedau mewn rhanbarth sy'n cynnig posibiliadau di-ri."

Ychwanegodd y Cynghorydd Robert Bevan, Aelod Cabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar gyfer Mentergarwch, Datblygu a Thai:

"Rwy'n falch iawn o glywed cyhoeddiad Llywodraeth Cymru heddiw, ac mae'r Cyngor yn croesawu'r buddsoddiad sylweddol hwn gwerth £2.58 miliwn er mwyn adfywio rhan fawr o gyn safle pwll glo Coed Ely.  Mae'r tir yn enghraifft o leoliad strategol y mae angen ei ddatblygu, ac mae'n gwbl allweddol fod y Cyngor yn cyflawni twf economaidd drwy roi bywyd newydd i safleoedd o'r fath.

"Gall yr uned fusnes fodern hon greu cyfleoedd gwaith parhaol a gwerthfawr - dyma brosiect sy'n tystio i'r modd y mae'r Cyngor hwn yn cyflawni ei uchelgais ar gyfer y Fwrdeistref Sirol, gan annog datblygiad busnes a datblygiad economaidd mewn mannau o bwysigrwydd strategol. Rhagwelir y bydd y gwaith yn cychwyn ar y safle yn ystod yr wythnosau nesaf, ac mae disgwyl i'r prosiect fod wedi'i gwblhau erbyn hydref 2020."