Mae buddsoddiad Cymru Greadigol mewn cynyrchiadau wedi rhoi hwb o £187 miliwn i economi Cymru ers iddi gael ei chreu yn 2020, meddai Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth, Dawn Bowden heddiw.
Datgelodd y Dirprwy Weinidog y ffigurau yn nigwyddiad arddangos personol cyntaf Cymru Greadigol sy'n cael ei gynnal yng Nghaerdydd heddiw, a fydd yn dathlu llwyddiannau'r sector ac yn amlinellu cynlluniau ar gyfer twf a datblygiad yn y dyfodol.
Ers ei sefydlu, mae Cymru Greadigol, asiantaeth greadigol Llywodraeth Cymru, wedi buddsoddi £16.3 miliwn mewn cyllid cynhyrchu i 31 o brosiectau, gan gynhyrchu dros £187 miliwn i economi Cymru a dangos mwy na 11:1 o Enillion ar Fuddsoddiad ar gyfer yr economi.
Mae'r buddsoddiad hwn hefyd wedi creu miloedd o gyfleoedd i weithlu talentog Cymru ac mae eisoes wedi arwain at fwy na 265 o leoliadau â thâl i hyfforddeion sy'n ceisio torri i mewn i'r diwydiant.
Mae rhai prosiectau diweddar sydd wedi eu cefnogi yn cynnwys The Way; Lost Boys and Fairies, Creisis; y Steeltown Murders hynod lwyddiannus a'r ffilm gyffro dditectif, Wolf, a fydd yn cael ei darlledu ddechrau mis Gorffennaf fel rhan o flwyddyn y ddrama Gymreig y BBC.
Mae Cymru Greadigol hefyd yn cefnogi pobl greadigol sy'n gweithio yn y cyfryngau digidol sy’n gwneud pethau anhygoel ledled y byd. Yng Ngŵyl ddiweddar Annecy, cafodd animeiddiad Kensuke Kingdom - sy'n addasiad o nofel lwyddiannus Michael Morpurgo i blant ei rhoi ar y rhestr fer am wobr ac fe'i crëwyd gyda chefnogaeth Bumpybox, cwmni o Gymru.
Gyda Diwrnod Cerddoriaeth y Byd yn cael ei gynnal yr wythnos hon, gall Cymru ddathlu sîn gerddoriaeth Gymreig lewyrchus gyda llawer o ddatblygiadau cyffrous. Mae ail rownd Cronfa Gyfalaf Cerddoriaeth Cymru Greadigol bellach ar agor ar gyfer ceisiadau gan fusnesau neu sefydliadau cerddoriaeth. Mae'r gronfa yn rhan o raglen ehangach o gymorth gan Cymru Greadigol ar gyfer y diwydiant cerddoriaeth i helpu i ddatblygu'r sector a meithrin talent.
Mae’r Sectorau Creadigol sy’n cael eu blaenoriaethu gan Lywodraeth Cymru hefyd yn cynnwys ffilm a theledu, cerddoriaeth, animeiddio, gemau a chyhoeddi, sy’n cynnwys 3,423 o fusnesau sy'n cyflogi 34,900 o bobl â throsiant blynyddol o £1.7 biliwn.
Er mwyn hybu creadigrwydd pellach, bydd y Dirprwy Weinidog hefyd yn cyhoeddi'r don nesaf o gyllid datblygu ar gyfer y diwydiant. Bydd £1 miliwn ar gael i geisiadau o fis Gorffennaf eleni ymlaen a bydd yn agored i bobl greadigol gyda syniadau i ddatblygu cynnwys ffilm, teledu, gemau ac animeiddio o ansawdd uchel sy'n cael ei greu yng Nghymru ac sydd â'r potensial i gyrraedd cynulleidfaoedd byd-eang.
Meddai Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth, Dawn Bowden:
Rwy'n falch iawn ein bod yn gallu dod â'r sector creadigol ynghyd i glywed am yr ystod eang o brosiectau a mentrau cyffrous ac arloesol sy'n cael eu datblygu yng Nghymru.
"Trwy fuddsoddi a chefnogi'r diwydiant, gallwn wireddu ei botensial yn llawn. Rydym yn genedl fach ond yn genedl gref sy'n sefyll yn falch ymhlith rhai o chwaraewyr mwyaf y byd.
"Mae ein pobl dalentog, ein lleoliadau trawiadol, ein seilwaith a'n cyfleusterau yn gwneud Cymru y lle gorau ar y ddaear i bobl greadigol weithio ac i ffynnu."