Neidio i'r prif gynnwy

O gartrefi gofal i barciau gwledig, mae rhyngrwyd cyflym yn chwyldroi bywyd ledled Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Medi 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae busnesau a chymunedau ledled Cymru yn gweld manteision buddsoddiad bron i £12 miliwn o arian Llywodraeth Cymru mewn band eang lleol cyflym a dibynadwy. Mae'r hwb sylweddol hwn mewn cysylltedd yn trawsnewid bywyd bob dydd, gwella gwasanaethau cyhoeddus, ac agor cyfleoedd newydd ar gyfer twf economaidd.

Mae sawl ardal ar draws Cymru eisoes wedi gweld gwelliannau rhyfeddol.

Bellach mae gan dri chartref gofal preswyl i oedolion yng Nghasnewydd, gan gynnwys Cartref Gofal Parklands, fand eang ffeibr llawn a all drosglwyddo data ar gyfradd gigabeit am y tro cyntaf. Mae hyn wedi ei gwneud hi'n haws i breswylwyr gadw mewn cysylltiad â'u teuluoedd drwy apiau fel Skype a Zoom. Mae'r cartrefi hefyd wedi cyflwyno technoleg gynorthwyol i helpu aelodau staff i fonitro preswylwyr â chyflyrau iechyd yn effeithlon.

Dywedodd Sian Nicholls, Rheolwr y Tîm:

Mae ein gwaith i uwchraddio band eang wedi chwyldroi'r ffordd yr ydym yn darparu gofal, gan alluogi gwasanaethau teleofal uwch sy'n gwella ansawdd bywyd ein preswylwyr yn sylweddol. Mae hefyd wedi bod yn hwb enfawr i'n staff, gan wella eu sgiliau digidol a darparu gofal yn fwy effeithlon.

Dywedodd Stephen Bath, sy'n byw yng Nghartref Gofal Parklands:

Mae'n wych cael cysylltiad diogel i allu siarad â theulu a ffrindiau. Ers y pandemig rydym wedi dod i ddibynnu ar y ddarpariaeth hon ac mae'n gwneud gwahaniaeth enfawr i'r ffordd rydych chi'n teimlo o ddydd i ddydd.

Ym Mro Morgannwg, mae band eang lleol cyflym o hyd at 100Mbps bellach ar gael mewn safleoedd poblogaidd fel Parc Gwledig Llynnoedd Cosmeston ac Arfordir Treftadaeth Morgannwg. Mae'r uwchraddiad hwn yn gwella profiadau ymwelwyr ac yn cefnogi cyfleoedd i ddod o hyd i addysg a chyflogaeth yn lleol.

Yn ogystal, mae gan 17 o wasanaethau'r sector cyhoeddus yng Ngogledd Cymru - gan gynnwys llyfrgelloedd gwledig a chynghorau cymuned - gysylltiadau ffeibr i adeiladau erbyn hyn, gyda chyflymder llwytho i lawr o leiaf 80Mbps.

Yng Nghaerdydd, mae’r cam cyntaf sy'n cynnwys 83 adeilad, a oedd gynt wedi'u cyfyngu i wasanaethau is na 30Mbps, bellach yn gysylltiedig â chyflymder rhyngrwyd gigabit. Mae'r cam nesaf ar y gweill ac yn gweithio i ddarparu cysylltedd tebyg i 632 adeilad arall. Mae'r prosiect hwn hefyd yn darparu band eang "am ddim am oes" a all drosglwyddo data ar gyfradd gigabit i bymtheg o fannau canolfannau cymunedol, gan gefnogi mentrau lleol a rhaglenni addysgol.

Mae'r gwaith i ehangu band eang yn parhau gyda nifer o brosiectau parhaus i'w cwblhau erbyn mis Mawrth 2025 yn Sir Fynwy, Castell-nedd Port Talbot, Sir Gaerfyrddin a Phowys.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Rebecca Evans:

Mae band eang cyflym a dibynadwy yn hanfodol i'n cymunedau a'n busnesau. Mae'r Gronfa Band Eang Lleol eisoes wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, gan gyflawni gwelliannau amlwg i fusnesau, gwasanaethau cyhoeddus a chymunedau ledled Cymru. Drwy ehangu mynediad digidol, rydym yn helpu i greu cyfleoedd newydd ar gyfer twf economaidd, cyflogaeth ac addysg, yn ogystal â gwella ansawdd bywyd trigolion.

Mae'r fenter hon yn rhan o strategaeth ehangach Llywodraeth Cymru i wella seilwaith digidol, gan sicrhau bod gan bob cymuned fynediad at y cysylltedd sydd ei angen arnynt i ffynnu. Mae'r Gronfa Band Eang Lleol, a lansiwyd yn 2020, wedi dyrannu £12 miliwn ar draws pedwar cam cyllido, gyda'r bwriad o gwblhau'r holl brosiectau erbyn mis Mawrth 2025.