Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw [dydd Mawrth, 24 Hydref], mae Llywodraeth Cymru wedi amlinellu pecyn cyllid gwerth £310m i wella sgiliau ledled Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Hydref 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cyn cyhoeddi cynlluniau gwario adrannol Llywodraeth Cymru yn ddiweddarach heddiw, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams, y bydd £50m o gyllid cyfalaf yn cael ei roi i'r sectorau Addysg Bellach ac Addysg Uwch i wella cyfleusterau ac amgylcheddau dysgu i fyfyrwyr.

Dros y ddwy flynedd nesaf, bydd £10m yn cael ei roi i sefydliadau Addysg Bellach i fuddsoddi mewn cyfarpar hyfforddiant sy'n bodloni safonau diwydiant, ynghyd â £10m arall ar gyfer gwaith cynnal a chadw hanfodol i sicrhau amgylcheddau dysgu diogel.

Bydd £30m ychwanegol (£10m ym mhob un o'r tair blynedd nesaf) yn cael ei roi i gefnogi'r gwaith o ad-drefnu'r ystâd addysg uwch. Bydd hyn yn ehangu’r rhaglen lwyddiannus i sicrhau addysg ac ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif fel ei bod yn cynnwys cronfa benodol ar gyfer ystadau addysg uwch. Bydd hyn yn lleihau’r capasiti sydd dros ben ac yn creu ystâd sy'n fwy effeithlon o ran ynni ar draws Cymru.

Fe wnaeth y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James, hefyd gadarnhau heddiw y bydd £260m yn cael ei fuddsoddi mewn prentisiaethau dros y ddwy flynedd nesaf (£130m ym mhob blwyddyn) er mwyn cefnogi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i greu 100,000 o brentisiaethau ar gyfer pobl o bob oed yn ystod tymor y Cynulliad hwn.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams:

"Bydd ein buddsoddiad cyfalaf gwerth £50m ar gyfer y sectorau Addysg Bellach ac Addysg Uwch yn eu galluogi i ddarparu cyfleusterau o'r radd flaenaf, gan wella amgylcheddau dysgu ar gyfer myfyrwyr a diwallu anghenion cyflogwyr lleol. Mae'r buddsoddiad hwn yn hanfodol ar gyfer ein dysgwyr a'r economi yn ehangach.

Dywedodd y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James: 

"Ry'n ni'n ymrwymo i wella safonau sgiliau yn gyffredinol yng Nghymru, a thrwy ein cyllideb ddrafft ry'n ni'n buddsoddi er mwyn gwireddu hynny.

“Mae prentisiaethau yn fan cychwyn i yrfa gyffrous, a all roi boddhad mawr. Maen nhw'n gyfle i gael profiad wrth weithio, gan ennill y sgiliau a'r cymwysterau sydd eu hangen ar yr un pryd.  

"Ry'n ni eisoes yn cynnal un o'r rhaglenni prentisiaeth mwyaf llwyddiannus drwy Ewrop. Bydd y £260m y byddwn ni'n ei fuddsoddi dros y ddwy flynedd nesaf yn atgyfnerthu hyn ac yn ein galluogi i gyflawni ein hymrwymiad o greu 100,000 o brentisiaethau i bobl o bob oed yn ystod tymor y Cynulliad hwn."