Alun Davies, wedi croesawu’r hwb o £25m i Gymoedd y De, gan ddweud y gallai hyn fod yn fodd i drawsnewid cymunedau am flynyddoedd lawer
Ddydd Mawrth yn y Gyllideb ddrafft amlinellol, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford, fuddsoddiad cyfalaf o £25m i greu saith hyb strategol ar draws Cymoedd y De. Mae hyn yn cyd-fynd â blaenoriaethau’r Tasglu Gweinidogol ar gyfer y Cymoedd, sy’n cael ei gadeirio gan Alun Davies.
Roedd cynllun y Tasglu, Ein Cymoedd, Ein Dyfodol, yn nodi saith hyb strategol ar gyfer y Cymoedd – ardaloedd lle byddai buddsoddi’n cael ei dargedu gan y sector cyhoeddus er mwyn ceisio denu buddsoddiadau gan y sector preifat, gan greu swyddi a chyfleoedd yn y Cymoedd.
Mae’r saith ardal a ddynodwyd yn hybiau strategol yn rhai y gallai’r rhan fwyaf o’r bobl sy’n byw mewn cymunedau yn y Cymoedd eu cyrraedd o fewn 45 munud gan ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Yr ardaloedd yw Gogledd Pen-y-bont ar Ogwr, Glynebwy, Cwmbrân, Merthyr, Pontypridd, Caerffili a Chastell-nedd.
Dywedodd Mr Davies:
“Rydyn ni wedi bod yn gweithio’n galed gyda’n partneriaid yn lleol, gan gynnwys llywodraeth leol, i nodi cynlluniau a fydd yn hybu’r economi yn lleol, os cânt y cymorth cywir. Bydd y cyhoeddiad hwn yn ein galluogi i fwrw ymlaen â’r prosiectau hynny sydd fwyaf tebygol o gyflawni ein hamcanion yn ein barn ni.”
Bydd y cyllid yn cael ei ddarparu drwy gronfa grantiau ar gyfer hybiau strategol, a bydd modd i awdurdodau lleol a chyrff y trydydd sector wneud ceisiadau am gyllid cyfalaf i ddatblygu prosiectau yn eu hardal yn unol â blaenoriaethau’r Tasglu, fel y’u nodir yn Ein Cymoedd, Ein Dyfodol. Bydd y cynllun yn cefnogi prosiectau a fydd yn creu swyddi teg o safon uchel, yn gwella sgiliau ac yn hybu entrepreneuriaeth. Y nod yn y pen draw yw creu ffyniant hirdymor a chynaliadwy yng Nghymoedd y De, gan drawsnewid ardaloedd.
Bydd y meini prawf ar gyfer y gronfa yn sicrhau bod y buddsoddi yn ychwanegu gwerth ac yn meithrin cydweithio ar draws y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector er mwyn targedu’r buddsoddi yn yr ardaloedd strategol a chryfhau effaith buddsoddiadau eraill gan Lywodraeth Cymru.