Neidio i'r prif gynnwy

Yn ystod y flwyddyn nesaf bydd Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mwy na £21m  mewn ymchwil o’r radd flaenaf yn y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Gorffennaf 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r cyllid hwn yn dangos bod Llywodraeth Cymru yn parhau i fuddsoddi er mwyn sicrhau bod pob Bwrdd ac Ymddiriedolaeth Iechyd trwy Gymru mewn sefyllfa gref i gynnal gwaith ymchwil, ac er mwyn sicrhau bod cleifion yng Nghymru yn cael cyfle i gymryd rhan mewn treialon clinigol a rhaglenni byd-eang i ddarganfod cyffuriau.

Y llynedd, cymerodd mwy na 17,000 o gleifion ran mewn bron 480 o astudiaethau ymchwil clinigol mewn amrywiaeth o feysydd yn ymwneud â chlefydau - gan gynnwys dementia, strôc, canser, diabetes ac iechyd meddwl. Bydd hyn i gyd yn helpu i sicrhau bod Cymru mor gystadleuol ag y bo modd ar lefel ryngwladol fel cyrchfan ymchwil.

Ymhlith yr enghreifftiau o waith ymchwil sy’n cael ei arwain yng Nghymru mae’r treial PARAMEDIC 2, a fu’n ymchwilio i ddarganfod a yw’r cyffur adrenalin yn gwneud lles neu’n gwneud niwed wrth drin ataliad y galon y tu allan i’r ysbyty. Bydd yr ymchwil hwn yn helpu i wella’r driniaeth i bobl sy’n cael ataliad calon, nid yn unig yng Nghymru ond ar draws y byd. Mae hynny yn ei dro yn gwneud Cymru’n wlad fwy cystadleuol yn y maes ymchwil yn rhyngwladol.

Gwnaeth yr Ysgrifennydd Iechyd y cyhoeddiad wrth ymweld â’r Ganolfan Ymchwil ac Arloesi Clinigol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Beran.

Mae’r Ganolfan yn enghraifft o fuddsoddiad strategol gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, sy’n rhoi man canolog i ymchwilwyr a staff cyflenwi allu cymryd rhan mewn ymchwil sy’n torri tir newydd. Mae’r ganolfan wedi sicrhau hefyd bod cleifion yn gallu cael triniaeth yn nes at ble maen nhw’n byw. 

Wrth gyhoeddi’r cyllid, dywedodd Vaughan Gething:

“Rydyn ni’n sylweddoli mor bwysig yw swyddogaeth ymchwil o ran gwella canlyniadau iechyd. Dyna pam mae Llywodraeth Cymru wedi neilltuo mwy na £21m fel rhan o becyn cymorth i gryfhau’r amgylchedd ymchwil yn y GIG yng Nghymru. 

“Mae cyfleusterau fel y Ganolfan Ymchwil ac Arloesi Clinigol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn chwarae rhan bwysig o ran cynyddu’r cyfle sydd ar gael i gleifion ymuno ag astudiaethau ymchwil cenedlaethol a rhyngwladol o ansawdd uchel, a hynny yn eu hardal eu hunain.

“Mae mwy a mwy o dystiolaeth ar gael bod amgylcheddau ymchwil yn arwain at ganlyniadau gwell i gleifion. Mae angen inni gefnogi ac annog cleifion, gofalwyr a staff i gymryd rhan lawn mewn gwaith ymchwil a sicrhau ei fod yn weithgarwch craidd o fewn y GIG.   

“Rydym am i Gymru fod yn un o’r llefydd mwyaf atyniadol yn y byd ar gyfer ymchwil academaidd a chlinigol. Fel rhan o’r pecyn hwn, rydym yn parhau i fuddsoddi’n helaeth mewn ymchwil Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a fydd yn helpu i ddenu’r doniau gorau i Gymru.”

Dywedodd Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Frank Atherton:
“Pan fydd ymchwilwyr yn mynd ati i ddarganfod a yw triniaeth yn gweithio, maen nhw’n edrych ar fwy o gleifion nag y bydd un meddyg unigol fyth yn eu trin. Y llynedd, dewisodd mwy na 17,000 o bobl yng Nghymru gymryd rhan mewn ymchwil glinigol. Y cyllid hwn yw’r cam cyntaf allweddol tuag at gasglu’r dystiolaeth sydd ei hangen arnom er mwyn ateb y cwestiynau sydd gennym am ystod eang o gyflyrau meddygol. 
“Fe wyddom hefyd fod cleifion yn elwa ar ymchwil glinigol. Dyna pam mae cymryd rhan mewn astudiaeth ymchwil yn rhywbeth i’w groesawu yn aml, gan ei fod yn gallu rhoi dewis arall iddynt o ran eu triniaeth - a hwnnw weithiau’n ddewis allweddol. Ond mae’n werth cofio nad oes raid ichi fod yn sâl i allu cymryd rhan a gwneud gwahaniaeth. Un o’r ffyrdd hawsaf o gymryd rhan mewn ymchwil a gofal iechyd yw trwy gofrestru gyda Doeth am Iechyd Cymru.”