Neidio i'r prif gynnwy

Buddsoddi £1.28 miliwn i gwtogi ar fiwrocratiaeth - Kirsty Williams

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Medi 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y cyllid yn helpu i greu rheolwyr busnes newydd i ysgolion mewn un ar ddeg ardal awdurdod lleol. 

Yn ystod y cynllun peilot dwy flynedd, bydd yna reolwr busnes ar gyfer grwpiau o ysgolion cynradd i roi cymorth penodol i benaethiaid ac athrawon fel y gallant ganolbwyntio'n well ar godi safonau ac ar anghenion disgyblion.

Gall rheolwyr busnes ysgolion helpu i drefnu a chynnal gweithgarwch amrywiol nad yw'n ymwneud ag addysgu, ee materion cyllid, gweinyddu a chaffael, gan ryddhau penaethiaid a staff i ganolbwyntio ar arweinyddiaeth ac addysgu.

Mae'r prosiect yn un o amryw o gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â phryderon athrawon ynghylch eu llwyth gwaith, gan gynnwys canllaw newydd a lansiwyd heddiw ynghylch sut y gall athrawon leihau gweithgarwch diangen, sy'n rhoi cyngor ar gynllunio gwersi, marcio ac asesu a chasglu data.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams:

"Dwi wrth fy modd yn cael cyhoeddi cyllid o bron i £1.3 miliwn i dalu am reolwyr busnes newydd i ysgolion i ysgwyddo rhai o'r cyfrifoldebau nad ydyn nhw'n ymwneud ag addysgu.  Bydd hyn yn rhyddhau'r penaethiaid a'r athrawon i ganolbwyntio ar yr hyn sydd bwysicaf - eu disgyblion.

"Rydyn ni'n gweithio'n agos gyda'r proffesiwn i helpu athrawon i fod cystal ag y gallan nhw fod, er lles y disgyblion. Dwi am inni wneud y pethau sylfaenol yn iawn a chaniatáu i athrawon fwrw ymlaen â'r gwaith addysgu fel y gallwn ni barhau i godi safonau.

"Mae lleihau llwyth gwaith diangen a galluogi athrawon i dreulio mwy o amser yn helpu disgyblion i ddysgu mor bwysig. Bydd yr adnoddau sydd wedi'u datblygu ochr yn ochr ag undebau ac eraill ac a gafodd eu cyhoeddi gan Estyn heddiw yn helpu i sicrhau bod materion llwyth gwaith yn cael eu hystyried, ac fe fyddwn ni'n parhau i gymryd camau yn y maes hwn."