Neidio i'r prif gynnwy

Bydd safle masnachol newydd ger yr A55 yng Nghonwy yn elwa ar £1.5m o gyllid yr UE.

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Awst 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y datblygiad newydd yn Ffordd Penmaen, Conwy, yn cael ei adeiladu ar 2.4 hectar o dir y mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn berchen arno. Bydd y Cyngor hefyd yn rhoi cyllid cyfatebol i'r prosiect.

Mae Parc Cae'r Seion, parc menter Conwy Morfa, mewn lle delfrydol gan ei fod o fewn cyrraedd hawdd i goridor yr A55. Mae yna alw yn lleol am unedau diwydiannol canolig a mawr dros 1000 o fetrau sgwâr, gan fod prinder ohonynt yn ardal Conwy.

Ar ôl i fusnesau symud i'r pedair uned gyntaf, caiff yr unedau eraill eu hadeiladu mewn ymateb i anghenion busnesau sydd â diddordeb. Disgwylir i'r datblygiad greu hyd at 150 o swyddi newydd.

Dywedodd y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit, Jeremy Miles, sy'n gyfrifol am gyllid yr UE yng Nghymru:

“Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod Cymru yn wlad fwy ffyniannus a diogel i bobl fyw a gweithio ynddi.

“Mae'r Gogledd yn ardal twf o flaenoriaeth, felly dw i'n croesawu'n fawr y buddsoddiad hwn yn ardal Conwy.

“Dyma enghraifft wych arall o brosiect yn elwa ar gyllid yr UE i helpu sefydliadau partner drwy'r cyfnod pontio, ac i ddiogelu'r economi ranbarthol ar gyfer y dyfodol."

Dywedodd y Cyng. Goronwy Edwards, yr Aelod dros Ddatblygu Economaidd ar Gabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy:

“Dyma newyddion rhagorol. Rydyn ni'n bwriadu gwario'r grant ar y seilwaith ar draws y safle cyfan, gan adeiladu pedair uned i ddechrau.

“Mae Ffordd Penmaen mewn ardal sydd wedi ei dynodi'n ardal twf mewn cyflogaeth - mae galw sylweddol yn y sectorau ynni a'r amgylchedd, bwyd, ac adeiladu, yn ogystal â'r sector creadigol, felly ein bwriad yw canolbwyntio ar y sectorau hyn gan ategu gwaith y busnesau sydd ar safle Parc Cae’r Seion gerllaw.”

Yn ystod y degawd diwethaf, mae prosiectau sydd wedi cael eu hariannu gan yr UE yng Nghymru wedi creu mwy na 48,000 o swyddi ac 13,000 o fusnesau newydd, yn ogystal â helpu 86,000 o bobl i gael gwaith.