Neidio i'r prif gynnwy

Bydd dros £260m, sef lefel ddigynsail o gyllid, yn cael ei fuddsoddi mewn hyfforddi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yng Nghymru er mwyn helpu’r GIG i ymateb i’r pandemig a heriau’r dyfodol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Rhagfyr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd y buddsoddiad ar gyfer 2022/23, sef cynnydd o 15% ers 2021/22, yn golygu bod y nifer uchaf erioed o gyfleoedd hyfforddi ar gael yng Nghymru.

Hon fydd yr wythfed flwyddyn yn olynol o gynyddu cyllid ar gyfer addysg a hyfforddiant i weithwyr iechyd proffesiynol yng Nghymru.

Bydd y lleoedd hyfforddi ychwanegol yn gwella capasiti’r gweithlu er mwyn helpu’r GIG i ymateb i heriau’r dyfodol.

Bydd y cyllid yn mynd tuag at leoedd hyfforddi i anesthetwyr ac oncolegwyr, a hefyd y rheini sy’n gweithio ym maes gofal dwys, meddygaeth frys, meddygaeth acíwt, meddygaeth liniarol, a maes seiciatreg.

Daw hyn wrth i fwy o bobl nag erioed yn ei hanes weithio yn y GIG, gyda’r nod o atal salwch a darparu gofal i aelodau pob cymuned yng Nghymru.

Mae’r cyllid ychwanegol yn cynnwys £18m ar gyfer rhaglenni addysg a hyfforddiant i weithwyr gofal iechyd proffesiynol yng Nghymru; £5m yn ychwanegol ar gyfer lleoedd hyfforddiant meddygol, bron £8m i gynnal y niferoedd mewn hyfforddiant meddygon teulu craidd, a chynnydd net o bron £3m ar gyfer hyfforddiant fferylliaeth ar draws Cymru.

Bydd y buddsoddiad yn arwain at gynnydd mewn lleoedd hyfforddiant i weithwyr iechyd proffesiynol a hyfforddiant meddygol yn 2022/23, gan gynnwys:

  • 111 o leoedd Nyrsio Oedolion
  • 73 o leoedd Nyrsio Iechyd Meddwl
  • 22 o hyfforddeion radioleg glinigol (20 yn y De a 2 yn y Gogledd)
  • cynnal y targed presennol o dderbyn 160 o feddygon teulu bob blwyddyn, gydag opsiwn i recriwtio hyd at 200 pan fo hynny’n ymarferol

Yn ystod y pum mlynedd diwethaf, bu cynnydd hefyd o 55.2% mewn lleoedd hyfforddi i nyrsys, ac mae lleoedd i fydwragedd wedi cynyddu 96.8%.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan:

Mae’r buddsoddiad hwn, sef yr wythfed flwyddyn yn olynol o gynyddu’r cyllid i leoedd hyfforddi, yn dangos ein hymrwymiad i wella capasiti’r gweithlu yn ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Mae’r pandemig COVID-19 wedi rhoi pwysau enfawr ar ein gwasanaeth iechyd, ac rydyn ni’n hynod falch o’r ffordd mae pawb wedi ymateb er mwyn rhoi gofal i bobl Cymru.

Mae angen inni barhau i hyfforddi a chryfhau ein gweithlu, er mwyn iddo allu bod yn barod i ymateb i bob math o heriau yn y dyfodol, drwy gryfhau ei allu i wrthsefyll pwysau wrth inni fynd ati i adfer o effeithiau’r pandemig.

Dywedodd Prif Weithredwr AaGIC, Alex Howells:

Rydyn ni wrth ein boddau bod y cynllun addysg a hyfforddiant wedi cael y gefnogaeth hon, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio gyda’n partneriaid i weithredu’r argymhellion.

Mae Cymru yn lle gwych i hyfforddi a dysgu, ac rydyn ni’n ddiolchgar iawn i lawer o’r staff ar draws y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a’n sefydliadau addysg yng Nghymru am eu cyfraniad gwerthfawr i addysg gweithlu’r dyfodol, a’r cymorth y maent yn ei roi iddynt.