Heddiw (dydd Iau, 28 Tachwedd), mae'r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, wedi lansio Cynllun Datblygu'r Gweithlu Cenedlaethol i Gymru sy'n canolbwyntio ar staffio mewn ysgolion a chydnabod a gwobrwyo gwaith athrawon.
Mae'r cynllun hefyd yn sôn am gynlluniau i ddatblygu pecyn cymorth yn ystod blynyddoedd cynnar yng ngyrfa athro, a fydd yn golygu bod athrawon newydd yn cael cymorth drwy gydol y pedair blynedd gyntaf o'u gyrfa, yn hytrach na'r system bresennol lle mae'r gefnogaeth yn dod i ben ar ôl ond blwyddyn o addysgu llwyddiannus. Byddai'r pecyn yn golygu cyflwyno rhaglen genedlaethol a phwrpasol ar gyfer hyfforddi a mentora yn ogystal â datblygu cymhwyster gradd Meistr newydd er mwyn cefnogi athrawon newydd gymhwyso ac athrawon mwy profiadol.
Crëwyd y cynllun i helpu i gyflwyno systemau mwy effeithiol ar gyfer cynllunio'r gweithlu er mwyn sicrhau bod digon o athrawon medrus yng Nghymru, gan gynnwys y rhai sy'n gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg a'r rhai sy'n gallu llenwi'r amrywiaeth eang o rolau Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY).
Mae'r ddogfen hon yn cynnwys cynlluniau i ddatblygu ffyrdd o sicrhau bod athrawon cyflenwi o ansawdd ar gael i weithio mewn ysgolion yng Nghymru.
Dywedodd Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg:
“Cenhadaeth ein cenedl ar gyfer addysg yw codi safonau, lleihau’r bwlch cyrhaeddiad a chyflwyno system addysg y gall Cymru fod yn falch ohoni. Er mwyn cyflawni hynny, mae angen gweithlu addysg o safon uchel sy’n egnïol ac yn frwdfrydig ac sydd wedi ymrwymo i sicrhau dysgu parhaus i bawb.
“Mae'r cynllun i ddatblygu’r gweithlu yn cefnogi ein uchelgais i sicrhau bod gan ein hysgolion y gweithlu sydd ei angen arnynt, bod ein hathrawon yn cael eu cydnabod am eu gwaith a bod y gweithlu addysg yn cael ei wobrwyo'n deg ac yn cael y gefnogaeth i fod ar eu gorau.”
Mae'r ddogfen 39 tudalen yn nodi cynlluniau Llywodraeth Cymru a'r mesurau ar gyfer llwyddiant ar draws y prif feysydd o ran datblygu'r gweithlu, sy'n cynnwys:
- cyflog ac amodau athrawon
- gwella llwyth gwaith
- cynyddu nifer yr athrawon cyfrwng Cymraeg
- siapio'r gweithlu mewn ysgolion er mwyn cefnogi cyflwyno'r cwricwlwm newydd
- recriwtio a chadw
Ychwanegodd y Gweinidog:
“Mae'r cynllun hwn yn nodi'r weledigaeth a’r cyfeiriad i gefnogi ein dyheadau ar gyfer y proffesiwn addysgu yma yng Nghymru.”
“Rwyf am i addysgu gael ei weld fel proffesiwn uchelgeisiol a deniadol sy'n denu ac yn cadw unigolion o ansawdd uchel.
“Ni fu addysg yng Nghymru erioed mor bwysig ac mae'n amlwg i mi fod ein gweithlu gwerthfawr yn hanfodol i'n llwyddiant.”
Gellir lawrlwytho'r cynllun llawn yma: https://llyw.cymru/cynllun-datblygur-gweithlu-2019-i-2021