Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r prosiect yn cael buddsoddiad o £2.5 miliwn dros gyfnod o dair blynedd i ariannu’r system newydd ar draws Cymru.  

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Mai 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:
Gwelodd Mr Gething drosto’i hun sut mae technoleg uwch yn darparu dull diagnostig moleciwlaidd i brofi samplau, gan gyflymu’r broses o gael canlyniadau gastroberfeddol a nodi marcwyr genetig sy’n gallu helpu i deilwra gofal i’r claf unigol. Dylai hyn olygu profion mwy cywir gyda chanlyniadau cyflymach, fydd yn gwella triniaeth i gleifion. Mae’r prosiect yn cael buddsoddiad o £2.5 miliwn dros gyfnod o dair blynedd i ariannu’r system newydd ar draws Cymru.  


Eleni, buddsoddodd Llywodraeth Cymru fwy na £7m drwy’r Gronfa Effeithlonrwydd drwy Dechnoleg, mewn prosiectau sy’n defnyddio technoleg arloesol i wella effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd gwasanaethau gofal iechyd. 

Dywedodd Mr Gething: 

“Mae’n hanfodol bod Cymru bob amser yn gallu manteisio ar y dechnoleg feddygol ddiweddaraf. Mae’r labordy newydd yn cynnig system brofi fwy cywir, sy’n ei gwneud yn haws teilwra gofal ar gyfer yr unigolyn. 

“Mae’r Gronfa Effeithlonrwydd drwy Dechnoleg wedi buddsoddi mewn prosiectau ledled Cymru er mwyn ddod â thechnoleg arloesol i’r GIG yng Nghymru. Bydd y prosiectau hyn yn gwella canlyniadau i gleifion, ac yn cyflawni mwy gyda chyllid cyhoeddus. 

“I ddechrau, cafodd y tîm dros £144,000 ar gyfer gwerthusiad sydyn o effeithiolrwydd y prosiect peilot. Rydyn ni wedi gweld y canlyniadau cadarnhaol, a dyna pam rydyn ni’n cynyddu’r cyllid ar ei gyfer, er mwyn i bobl o bob rhan o Gymru gael elwa ar y gwaith hwn.”

Dywedodd Dr Quentin Sandifer, Cyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd a Chyfarwyddwr Meddygol Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Bydd y gwaith o ddatblygu ein gallu moleciwlar yn ein labordai yn waith hynod bwysig inni dros y tair blynedd nesaf, a chyllid y Gronfa Effeithlonrwydd drwy Dechnoleg sydd wedi gwneud y gwaith hwnnw’n bosibl.

“Ymysg ein prif flaenoriaethau fydd darparu gwasanaeth diagnostig ar gyfer salwch gastroberfeddol, sy’n achosi llawer o salwch a marwolaeth ledled Cymru. Mae hwn yn ddatblygiad cyffrous i’r labordai, ond yn fwy na hynny bydd yna fantais fawr i gleifion o gael diagnosis cyflym a chywir. Bydd cleifion ym mhob rhan o Gymru yn cael yr un cyfle i elwa ar y profion gorau sydd ar gael, a bydd hynny’n caniatáu i weithwyr gofal iechyd proffesiynol ddefnyddio meddyginiaethau darbodus sy’n seiliedig ar dystiolaeth wrth drin y cleifion hyn ac wrth ddarparu gofal ar eu cyfer”.

Ymysg y prosiectau eraill sydd wedi cael cyllid gan y Gronfa Effeithlonrwydd drwy Dechnoleg, mae’r Ganolfan Arloesi ym maes Gwella Clwyfau sydd wrthi’r datblygu system ddigidol ar gyfer cofnodi wlserau pwysedd mewn cartrefi gofal. Bydd y system hon helpu i gynorthwyo staff a’u haddysgu er mwyn iddynt allu sicrhau bod y driniaeth a roddir yn fwy effeithiol.

      

Mae Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro yn gwerthuso system ar gyfer helpu i leihau nifer y bobl sy’n galw am ambiwlansiau ac sy’n mynychu adrannau Damweiniau ac Achosion Brys yn aml, gan eu helpu i gael y gofal mwyaf priodol.