Neidio i'r prif gynnwy

Mae Mark Drakeford, Ysgrifennydd Cyllid Cymru, wedi cyhoeddi bod cronfa newydd sy’n werth £4m wedi’i sefydlu i fuddsoddi yn sector busnes cymdeithasol Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Medi 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y Gronfa Tyfu Busnesau Cymdeithasol yn cael cymorth o £2.3m drwy gronfeydd yr UE a bydd yn darparu pecynnau ariannu o hyd at £15,000 i fusnesau cymdeithasol ledled Cymru.

Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru fydd yn rheoli’r gronfa, a fydd yn rhoi hwb i dwf busnesau cymdeithasol yng Nghymru ac yn helpu i ddatblygu cynnyrch, gwasanaethau a marchnadoedd newydd.

Dywedodd yr Athro Drakeford:

“Mae busnesau cymdeithasol yn gwneud cyfraniad pwysig i adfywio cymunedau a darparu gwasanaethau lleol, yn ogystal â chreu swyddi a mentrau, felly rwy’n falch iawn o allu cyhoeddi’r cymorth hwn i’r sector.

“Mae’r gronfa hon yn ategu’r cymorth arbenigol sydd ar gael yn barod drwy Busnes Cymru a bydd yn helpu busnesau cymdeithasol i ehangu, i chwilio am gyfleoedd newydd ac i barhau i chwarae rhan bwysig yn ein heconomi a’n cymdeithas.”

Bydd y buddsoddiadau a wneir drwy’r gronfa yn cynnwys arian grant yn ogystal â chyllid ad-daladwy, a bydd yn cynnig cymhellion ariannol i fusnesau cymdeithasol sy’n rhagori ar dargedau creu swyddi.

Disgwylir y bydd tua 45 o fusnesau cymdeithasol ar draws Cymru yn elwa ar y gronfa yn ystod y tair blynedd nesaf.

Dywedodd Matthew Brown, pennaeth buddsoddi cymdeithasol Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru:

“Ry’n ni’n gwybod bod busnesau cymdeithasol yng Nghymru yn rhai deinamig a’u bod yn creu swyddi yn y cymunedau sydd fwyaf o’u hangen, ond ry’n ni’n gwybod hefyd bod busnesau cymdeithasol yn gallu cael anhawster i gael gafael ar yr arian angenrheidiol i wireddu eu potensial.  

“Bydd y Gronfa Tyfu Busnesau Cymdeithasol yn helpu i lenwi’r bwlch ariannol trwy ddefnyddio cronfeydd yr UE mewn modd dyfeisgar i dargedu cymorth ariannol at fusnesau cymdeithasol sy’n gallu dangos eu bod yn barod i dyfu. Ry’n ni’n edrych ymlaen at roi’r buddsoddiad hwn ar waith mewn cymunedau ar draws Cymru.”

Daw’r buddsoddiad hwn yn y Gronfa Tyfu Busnesau Cymdeithasol yn dilyn lansio Cronfa Fusnes Cymru yr wythnos hon. Mae’r gronfa hon yn werth £136m ac mae wedi cael cymorth o £76m trwy gronfeydd yr UE. Bydd yn cynnig benthyciadau a buddsoddiadau ecwiti o rhwng £50,000 a £2m i fusnesau bach a chanolig eu maint.

Ychwanegodd yr Athro Drakeford:

“Mae cronfeydd yr UE yn werth tua £650m i Gymru bob blwyddyn ac mae’r buddsoddiadau hyn mewn busnesau cymdeithasol a busnesau bach a chanolig yn enghreifftiau gwych o’r ffordd y mae’r ffynhonnell ariannu bwysig hon yn hybu busnesau ac yn cryfhau ein heconomi.

“Ein blaenoriaeth yw sicrhau nad yw Cymru’n colli ceiniog o’r cyllid ry’n ni’n ei dderbyn gan yr UE ar hyn o bryd pan fydd y DU yn gadael yr UE. Mae trafodaethau ar y gweill rhyngom ni a Llywodraeth y DU er mwyn cael gwarant llawn y bydd Cymru’n cael mynediad llawn at yr holl gyllid sydd wedi’i neilltuo iddi, fel bod busnesau, pobl a chymunedau yn parhau i gael y cymorth sydd ei angen arnynt.”