Mae'r gronfa Buddsoddi i Arbed yn bwll byrdymor o adnoddau sydd ar gael i helpu sefydliadau’r gwasanaeth cyhoeddus i drawsnewid y ffordd y maent yn gweithio.
Cynnwys
Ceisiadau
Mae croeso o hyd ichi anfon ceisiadau ar gyfer blwyddyn ariannol 2019-20 ond mae angen iddynt gael eu cyflwyno cyn 1 Tachwedd. Cysylltwch â ni os hoffech gyflwyno cais ar gyfer y flwyddyn hon ond eich bod yn methu gwneud hynny erbyn y dyddiad targed.
Rydym hefyd yn awyddus i gael cynigion ar gyfer blwyddyn ariannol 2020-21 a dylid cyflwyno’r rheini inni erbyn 1 Mawrth 2020.
Dylai ceisiadau allu dangos eu bod yn gallu:
- nodi a chreu arbedion sylweddol sy'n rhyddhau arian
- darparu gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar y dinesydd
- cefnogi agweddau allweddol ar agenda Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella gwasanaethau cyhoeddus a’u gwneud yn fwy effeithlon.
Y taliadau a wneir o'r gronfa yw:
- yn llawn ad-daladwy
- di-log
- hyblyg ar y cyfnod ad-dalu
Gwneud cais
Darllenwch y canllawiau a’r nodiadau sgorio cyn cwblhau eich ffurflen gais.
Rhaid i’ch ffurflen gais gynnwys disgrifiad clir o’r canlynol:
- y broblem
- yr ateb yr ydych yn ei gynnig
- sut y byddwch y gweithredu’r ateb a gwerthuso’r gwaith hwnnw
- hefyd pwy fydd yn gyfrifol am weithredu’r cynllun
Cymorth
Os hoffech drafod cynnig neu os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â’r tîm Buddsoddi i Arbed a fydd yn gallu eich helpu i brofi’ch cynnig yn erbyn meini prawf y gronfa.
Ffôn: 03000253699/03000615615
e-bostiwch: I2Sinvestmentfund@llyw.cymru.