Mae'r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething wedi cyhoeddi buddsoddiad o £3.082m i wasanaethau dadheintio eleni er mwyn gwella cyfleusterau endoscopi a cholonosgopi byrddau iechyd Cymru.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething:
"Ry'n ni eisiau gwneud yn siŵr bod yr holl gleifion yng Nghymru sy'n cael triniaethau archwilio a sgrinio fel endosgopi yn cael profiad diogel. Rhaid i endoscopau gael eu dadheintio'n llwyr ar ôl cael eu defnyddio er diogelwch y cleifion ac i osgoi trosglwyddo heintiau.
"Bydd buddsoddi mewn rhaglen ddadheintio effeithiol yn gwella'r gwasanaethau ac yn sicrhau bod y cleifion yn ddiogel."
- Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn cael £0.928m i fynd tuag at ystafell driniaeth ychwanegol ac ardal ddadheintio newydd o fewn yr Uned Endoscopi yn Ysbyty Gwynedd.
- Caiff swm o £1.346m ei roi i Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg i'w fuddsoddi yn y gwaith o wella cyfleusterau Ysbytai Tywysoges Cymru a Singleton.
- Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn cael £0.370m i wella cyfleusterau a chael offer newydd yn Ysbyty Brenhinol Gwent.
- Bydd £0.438m yn cael ei roi i Fwrdd Iechyd Addysgu Powys er mwyn sicrhau bod offer diagnostig Ysbyty Cymunedol Ystradgynlais yn gallu cael ei ddadheintio yn Ysbyty Coffa Brycheiniog.