Bydd mwy na £1.5 miliwn o gyllid gan Lywodraeth Cymru a'r Undeb Ewropeaidd yn cael ei ddefnyddio i drawsnewid hen Lys Ynadon Port Talbot at ddefnydd busnesau newydd.
Cyhoeddodd Rebecca Evans, y Gweinidog Tai ac Adfywio, y byddai'r arian ar gael i greu swyddfeydd o'r safon uchaf yn yr adeilad rhestredig drwy gronfa Adeiladu ar gyfer y Dyfodol, sydd werth £110 miliwn, gan Lywodraeth Cymru.
Dywedodd Rebecca Evans:
"Bydd ein buddsoddiad ni, ar y cyd â chymorth gan awdurdod lleol Castell-nedd Port Talbot, yn trawsnewid yr hen Lys Ynadon i greu Terminws. Bydd yr adeilad yn cynnwys swyddfeydd modern, hyblyg i ddenu rhagor o fuddsoddiad economaidd.
"Bydd y datblygiad hefyd yn cynnig cyfleoedd hyfforddi a chyflogaeth i grwpiau o dan anfantais drwy gysylltu â phrosiectau cyflogadwyedd fel Workways+ a Chymunedau am Waith sydd hefyd yn derbyn cymorth gan yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru.
"Mae'r rhan yma o Bort Talbot yn elwa ar yr ailddatblygu ac adfywio sylweddol sydd ar y gweill ynghyd â'r gwell cysylltiadau trafnidiaeth yn dilyn creu hyb trafnidiaeth integredig newydd a datblygu'r Harbwr, rhan o Ardal Fenter Port Talbot.
"Mae galw go iawn am swyddfeydd o safon i helpu busnesau lleol i dyfu a datblygu a chredaf y bydd y buddsoddiad hwn yn fan cychwyn i lwyddiant busnesau o'r dref."
Mae cyllid ar gyfer y Terminws yn cynnwys tua £500,000 gan Lywodraeth Cymru ac £1 filiwn gan yr Undeb Ewropeaidd.
Bydd Adeiladu ar gyfer y Dyfodol yn adfywio canol trefi a'r ardaloedd cyfagos drwy ailwampio neu ailddatblygu tir ac adeiladau segur neu nad ydynt yn cael eu defnyddio ryw lawer a rhoi bywyd newydd iddynt.
Bydd y rhaglen sy'n werth miliynau o bunnoedd, ac a gefnogir gan £38 miliwn gan yr Undeb Ewrop, ac £16 miliwn gan Lywodraeth Cymru, yn cefnogi twf busnes, yn creu cyflogaeth ac yn cynyddu nifer yr ymwelwyr yng nghanol trefi. Caiff cynlluniau a gefnogir drwy raglen Adeiladu ar gyfer y Dyfodol arian cyfatebol o ystod o ffynonellau yn y sectorau cyhoeddus a phreifat a'r trydydd sector.