Neidio i'r prif gynnwy

Mae prosiect sy'n dathlu treftadaeth gyfoethog criced yng Nghymru yn un o chwe chynllun diwylliannol i dderbyn arian gan Lywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Medi 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd mwy na £246,000 yn cefnogi Amgueddfa Criced Cymru, sydd wedi'i lleoli yng Ngerddi Sophia, ar gyfer eu prosiect 'Mae criced wedi bod, ac yn dal i fod, yn gêm i bawb'

Mae'r arddangosfa'n dathlu diwylliant a hanes criced, gan dynnu sylw at gyfraniadau menywod, pobl LHDTC+ a chymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig. Mae'r cyllid yn cael ei ddefnyddio i wella gofal y casgliadau, ychwanegu technoleg newydd a chreu murluniau celf gyhoeddus.

Mae'r Rhaglen Grant Cyfalaf Trawsnewid Diwylliannol yn helpu sefydliadau i warchod casgliadau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, yn ogystal â gwella hygyrchedd a chynaliadwyedd. Mae mwy na £10.5 miliwn wedi'i ddarparu ers lansio'r grant yn 2017.

Mae cefnogi amgueddfeydd lleol yn rhan allweddol o Flaenoriaethau drafft Llywodraeth Cymru ar gyfer Diwylliant, strategaeth sy'n ceisio sicrhau bod diwylliant yn gadarn, a bod treftadaeth leol yn cael ei chefnogi i ffynnu a bod yn gynaliadwy i genedlaethau'r dyfodol ei mwynhau. Mae’r fframwaith yn destun ymgynghoriad ar hyn o bryd.

Meddai y Gweinidog Diwylliant newydd, Jack Sargeant, a ymwelodd ag Amgueddfa Criced Cymru ddoe i glywed mwy am y prosiect, sy'n derbyn cymorth gan Lywodraeth Cymru:

Mae diwylliant a threftadaeth yn hanfodol i Gymru. O adrodd straeon pwysig ein gorffennol i ddathlu'r Gymru rydym yn byw ynddi heddiw mae'r Rhaglen Trawsnewid Diwylliannol yn ganolog wrth helpu sefydliadau i wneud hynny.

"Mae'r prosiect cyffrous hwn yn Amgueddfa Criced Cymru yn dangos pwysigrwydd cynrychioli ac ymgysylltu â phawb o wahanol gefndiroedd a sut mae pobl yn dod at ei gilydd drwy ddiwylliant.

Dywedodd Mark Frost, Rheolwr Cymunedol a Datblygu Criced Morgannwg:

Mae Criced Morgannwg yn ymdrechu i wneud yn siŵr bod croeso cynnes i bawb yng Ngerddi Sophia a bod pawb yn teimlo'n gartrefol a bod ganddyn nhw bopeth sydd ei angen arnyn nhw i wneud eu hymweliad yn un da. Fel rhan o'n Cynllun Ecwiti, Cynhwysiant ac Amrywiaeth rydym am sicrhau bod yr amgueddfa a'r stadiwm yn adlewyrchu'r gymuned gyfan yr ydym yn estyn allan iddi.

Rydym yn gwybod bod angen i ni sicrhau bod y delweddau o amgylch yr amgueddfa a'r tir cyfan yn fwy cynrychioliadol o'r bobl sy'n chwarae criced heddiw. Rydym yn benderfynol o sicrhau bod unrhyw un sy'n cerdded i mewn i'r safle yn gweld delweddau, lluniau a dyluniadau lle gallant weld pobl fel nhw eu hunain ac felly gallant gredu bod y croeso yn ddilys a bod 'criced yn gêm i mi'.

Rydym yn ddiolchgar iawn i Lywodraeth Cymru am y grant i'r amgueddfa a'r stadiwm yng Nghlwb Criced Morgannwg a fydd yn trawsnewid golwg a theimlad Gerddi Sophia ac rydym yn arbennig o gyffrous y bydd y dyluniadau'n cael eu cynhyrchu ar y cyd â llawer o'n grwpiau cymunedol yn enwedig mewn ysgolion sy’n bartneriaid.

Mae prosiectau eraill sy'n derbyn cyllid yn cynnwys £300,000 ar gyfer adnewyddu a moderneiddio Llyfrgell Cwmbrân, a bron i £300,000 i'r Ganolfan Eifftaidd ym Mhrifysgol Abertawe ar gyfer ailddatblygu oriel llawr gwaelod y Tŷ Marwolaeth.

Mae Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen yn derbyn tua £130,000 ar gyfer Prosiect Moderneiddio Llyfrgell Betws; bydd Cyngor Sir Ceredigion yn elwa o £210,000 ar gyfer datblygu Llyfrgell newydd Aberaeron, ac mae Cyngor Sir Ddinbych yn derbyn dros £82,000 i wella'r brif ystafell arddangos ym Mhlas Newydd yn Llangollen.

Ychwanegodd y Gweinidog:

Mae diwylliant a threftadaeth yn chwarae rhan bwysig yn ein cymunedau, gan gynnwys ein hiechyd a'n lles. Rwy'n falch fy mod wedi rhoi'r cyllid hwn i amgueddfeydd a llyfrgelloedd lleol sy'n gwneud cymaint i gadw a rhannu ein treftadaeth leol.