Neidio i'r prif gynnwy

Ar ymweliad â’r Rhyl, cyhoeddodd y Gweinidog Tai ac Adfywio, Hannah Blythyn fod dros £1.3 miliwn yn cael ei roi gan gynllun Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio Llywodraeth Cymru i adfywio canol y dref. Cafodd gyfle hefyd i weld beth sydd wedi’i wneud â’r arian a fuddsoddwyd yn y dref eisoes. 

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Ebrill 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Defnyddiodd Cyngor Sir Ddinbych y cyllid, ynghyd â'i arian cyfatebol ei hun, i brynu hen siopau Next a Granite Outdoors ar y Stryd Fawr, yr uned fanwerthu gyfagos yn 4 Wellington Road a'r ystafell ocsiwn yn St Helen's Place. Bydd yn ailwampio'r adeiladau i greu naw o fflatiau preswyl a phedair uned ar gyfer busnesau lleol bach. 

Mae hyn yn dilyn cyhoeddi buddsoddiad o £2.5 miliwn gan Lywodraeth Cymru i brynu Adeiladau'r Frenhines, £40 miliwn o gyllid ar gyfer ysbyty gymunedol newydd yn Ysbyty Brenhinol Alexandra a £900,000 i ddatblygu cartrefi fforddiadwy yng ngorllewin y Rhyl. 

Dywedodd Hannah Blythyn:

Rydym yn buddsoddi yn y Rhyl i adfywio canol y dref ac i helpu i ddenu rhagor o fuddsoddiad busnes i gefnogi'r economi leol. Bydd y buddsoddiad hwn yn creu cartrefi da fel y gall pobl fyw, gweithio, siopa a chymdeithasu yng nghanol y dref, ac ar yr un pryd bydd yn cefnogi twf busnesau lleol. 

Eleni, rydym wedi buddsoddi'n sylweddol mewn gofal iechyd yn y Rhyl ac mewn adfywio'r dref, oherwydd ein bod yn benderfynol o fywiogi calon y dref ac o wella iechyd a llesiant pobl sy'n byw yn yr ardal.

Mae'n wych gweld y gwaith datblygu sy'n digwydd yn lleol, ar y Stryd Fawr ac yn Adeiladau'r Frenhines. Rydw i'n edrych ymlaen at weld sut y bydd y buddsoddiad hwn yn gweddnewid yr ardal.

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Evans OBE, arweinydd Cyngor Sir Ddinbych:

Bydd y cyllid hwn yn helpu'r Cyngor a'i bartneriaid i gwblhau'r uwchgynllun newydd ar gyfer canol tref y Rhyl, drwy ailwampio adeiladau a ddefnyddiwyd ar gyfer manwerthu'n unig yn y gorffennol a'u defnyddio at ddibenion newydd. Bydd yn ategu'r miliynau o bunnoedd y mae'r Cyngor wedi'u buddsoddi yn y dref, gan gynnwys prosiect SC2, a oedd yn cynnwys arian oddi wrth Gyngor Tref y Rhyl, yn ogystal â'n buddsoddiad mewn tai a buddsoddiad o'r sector preifat.

Bydd hyn yn cynyddu nifer y bobl sy'n dod i'r dref ac yn bywiogi canol y dref. Gall ein trigolion ac ymwelwyr weld llwyddiant ein gwaith ar lan y môr a byddwn yn canolbwyntio nawr ar adfywio canol y dref.

Bydd y cartrefi fforddiadwy yn helpu'r Cyngor i gyrraedd ei nod o gyflenwi 260 o gartrefi fforddiadwy newydd a 170 o dai cyngor newydd ychwanegol erbyn 2020.

Bydd strategaeth adfywio Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £800 miliwn ledled Cymru rhwng 2014 a 2023. Mae hyn yn cynnwys tua £250 miliwn gan Lywodraeth Cymru, a mwy na £550 miliwn gan gyrff a busnesau eraill. 

Mae rhaglen flaenllaw Llywodraeth Cymru, Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio yn darparu £100 miliwn o gyllid cyfalaf ar draws Cymru dros dair blynedd i gefnogi prosiectau i adfywio canol trefi ac ardaloedd gerllaw. 

Cefnogir y cyllid hwn gan amcangyfrif o £60 miliwn o leiaf gan sefydliadau a busnesau eraill, gan ddarparu, gyda'i gilydd, hwb o £160 miliwn i gymunedau ledled Cymru.