Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Gofyniad Cod y Gweinidogion

O dan delerau Cod y Gweinidogion, mae’n rhaid i Weinidogion sicrhau nad oes unrhyw wrthdaro’n codi, neu y gellid ystyried yn rhesymol ei fod yn codi, rhwng eu sefyllfa fel Gweinidog a'u buddiannau preifat, yn ariannol neu fel arall. 

Ar gael eu penodi i bob swydd newydd ac ar gyfer pob blwyddyn ariannol ddilynol, rhaid i'r Gweinidogion roi rhestr ysgrifenedig gyflawn i'r Ysgrifennydd Parhaol o'r holl fuddiannau hynny y gellid ystyried eu bod yn arwain at wrthdaro. Yna bydd datganiadau unigol, a nodyn am unrhyw gamau a gymerwyd mewn perthynas â buddiannau unigol, yn cael eu pasio ymlaen at yr Ysgrifennydd Parhaol i ddarparu cyngor ynghylch unrhyw gamau pellach fel y bo'n briodol. Mae rhagor o wybodaeth am gategorïau’r buddiannau sy’n cael eu datgelu ar gael yn yr Atodiad.

Caiff datganiadau a ddarperir gan y Gweinidogion eu trin yn gyfrinachol. Mae hyn yn sicrhau bod modd iddynt ddatgelu eu buddiannau mor llawn â phosibl, hyd yn oed pan na fo materion yn berthnasol o reidrwydd.

Mae'r rhestr sydd wedi'i chyhoeddi yn cynnwys buddiannau gweinidogol perthnasol ar adeg cyhoeddi. Mae hefyd yn cynnwys unrhyw ddatganiadau perthnasol gan Aelodau o’r Senedd. Pan fo Gweinidog wedi gwaredu buddiant perthnasol, neu wedi gwneud hynny cyn cymryd swydd Gweinidog, ni fydd yn cael ei gynnwys ar y Rhestr. Mae'r Rhestr yn nodi buddiannau a ddelir ar hyn o bryd gan Weinidogion, neu gan aelodau agos o'u teuluoedd sy’n uniongyrchol berthnasol i gyfrifioldebau'r Gweinidogion, neu y gellid ystyried yn rhesymol eu bod yn uniongyrchol berthnasol. Mae hefyd yn darparu manylion am elusennau y mae Gweinidogion yn ymddiriedolwyr neu'n noddwyr iddynt. Ar ben hynny, gall Gweinidogion gael cysylltiadau eraill ag elusennau neu sefydliadau nad ydynt yn rai cyhoeddus, er enghraifft, fel Aelodau’r Senedd ar gyfer etholaeth. Gall cysylltiadau o'r fath fod yn rhai hanesyddol, rhai sydd wedi dod i ben, neu efallai'n rhai lle nad yw'r Gweinidog ei hun yn cymryd rhan weithredol ynddynt.

Nid yw'r rhestr a gyhoeddir yn gofnod o holl fuddiannau neu drefniadau ariannol a ddelir gan Weinidog neu aelodau o'i deulu agos. Byddai hynny yn ymyrraeth na ellid ei gyfiawnhau ym materion preifat Gweinidogion ac aelodau agos o'u teuluoedd. Yn hytrach mae'n rhestr o unrhyw fuddiannau o'r fath sydd, neu y gellid yn rhesymol eu hystyried i fod, yn uniongyrchol berthnasol i ddyletswydd gyhoeddus y Gweinidog hwnnw. Mae'r holl fuddiannau sy'n cael eu datgan gan Weinidogion yn cael eu dal gan yr Ysgrifennydd Parhaol.

Y Gwir Anrhydeddus Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru

(Gorllewin Caerdydd)

Aelodaeth o Undeb Llafur

Undeb Unite ac Unsain

Gwybodaeth am Nawdd Undebau Llafur ar gael yn y Gofrestr o Fuddiannau Aelodau o'r Senedd

Cysylltiadau â sefydliadau
Aelod Undeb Credyd Caerdydd a'r Fro
Aelod Action in Caerau and Ely
Aelod Clwb Criced Morgannwg
Aelod Cymdeithas Rhandiroedd Parhaol Pontcanna
Aelod Ymgyrch Tir Llafur
Aelod Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Dinas Caerdydd
Aelod Cefnogol Llafur LGBT

Mick Antoniw, y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad

(Pontypridd)

Buddiannau ariannol Cynllun Pensiwn Personol ond dim rôl mewn penderfyniadau buddsoddi eraill na rheolaeth drostynt.
Aelodaeth o Undeb Llafur

Unsain, GMB, ac Undeb y Cerddorion.

Gwybodaeth am Nawdd Undebau Llafur ar gael yng Gofrestr o Fuddiannau Aelodau o'r Senedd

Cysylltiadau â sefydliadau
Aelod Clwb Gweithwyr Llantrisant
Aelod Gwreiddiau Llafur Cymru
Aelod Y Blaid Gydweithredol
Aelod Y Sefydliad Hawliau Cyflogaeth
Aelod Sefydliad Bevan
Aelod Y Gynghrair yn erbyn Chwaraeon Creulon
Aelod Cymdeithas Wcreiniaid Prydain
Aelod Humanists UK

Hannah Blythyn, y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol

(Delyn)

Aelodaeth o Undeb Llafur

Undeb Unite, GMB ac Unsain

Gwybodaeth am Nawdd Undebau Llafur ar gael yn y Gofrestr o Fuddiannau Aelodau o'r Senedd

Cysylltiadau â sefydliadau
Noddwr Llafur LGBT
Noddwr TheFDF (Fforwm Anabledd Sir y Fflint yn flaenorol)

Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a'r Prif Chwip

(Merthyr Tudful a Rhymni)

Aelodaeth o Undeb Llafur

Unsain

Gwybodaeth am Nawdd Undebau Llafur ar gael yn y Gofrestr o Fuddiannau Aelodau o'r Senedd

Cysylltiadau â sefydliadau
Perchennog Fan Clwb Pêl-droed Tref Merthyr
Is-lywydd Cymdeithas Bysgota Merthyr
Is-lywydd Côr Meibion Ynysowen
Noddwr Grŵp Cymorth Osteoporosis Ardal Merthyr Tudful
Noddwr St David’s Baby Bank (Ardal Weinidogaeth Merthyr Tudful)
Llywydd Anrhydeddus Clwb Rygbi Phoenix Treharris
Unrhyw fuddiant perthnasol arall
Priod yn gyflogedig mewn swyddfa etholaethol

Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

(Gŵyr)

Aelodaeth o Undeb Llafur

Undeb Unite ac Unsain

Gwybodaeth am Nawdd Undebau Llafur ar gael yn y Gofrestr o Fuddiannau Aelodau o'r Senedd

Cysylltiadau â sefydliadau
Hyrwyddwr Internet Watch Foundation
Aelod Cymdeithas Gŵyr
Noddwr Carnifal Pontarddulais a Hendy
Noddwr Band Tref Llwchwr
Aelod Clwb Rygbi Penclawdd
Cyd-lywydd Pwyllgor yr Wyl Gŵyl Werin Gŵyr
Is-lywydd Anrhydeddus Cymdeithas Gefeillio Mwmbwls
Llywydd Clybiau Dydd Dementia Forget-Me Not
Aelod Undeb Credyd Castell-nedd Port Talbot ac Undeb Credyd Bae Abertawe (rhan o Undeb Credyd Celtic)
Aelod Llys Prifysgol Abertawe
Unrhyw fuddiant perthnasol arall
Chwaer yn cael ei chyflogi mewn swyddfa etholaethol

Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi

(De Caerdydd a Phenarth)

Aelodaeth o Undeb Llafur

Undeb Unite, GMB ac Unsain

Gwybodaeth am Nawdd Undebau Llafur ar gael yn y Gofrestr o Fuddiannau Aelodau o'r Senedd

Cysylltiadau â sefydliadau
Noddwr Clwb Gwaith Cartref SEF Cymru
Is-lywydd Cadetiaid Môr Penarth
Aelod Anrhydeddus Cymdeithas Milfeddygon Prydain
Aelod Anrhydeddus Cymdeithas Dinesig Penarth
Aelod Ymddiriedolaeth Rygbi Parc yr Arfau CF10
Aelod Undeb Credyd Caerdydd a'r Fro
Aelod Y Blaid Gydweithredol
Unrhyw fuddiant perthnasol arall
Priod yn Gyfarwyddwr yn Thompsons Solicitors LLP

Lesley Griffiths, Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd

(Wrecsam)

Aelodaeth o Undeb Llafur

Unsain

Gwybodaeth am Nawdd Undebau Llafur ar gael yn y Gofrestr o Fuddiannau Aelodau o'r Senedd

Cysylltiadau â sefydliadau
Noddwr Gardd Erlas, Wrecsam
Noddwr Clwb New Steps, Life After Stroke Wrecsam
Noddwr Dynamic, Wrecsam
Noddwr The Venture, Wrecsam
Noddwr Friends of Pedal Power, Wrecsam
Noddwr Dragonsong (côr ieuenctid cymuned), Wrecsam
Noddwr Partneriaeth Ieuenctid a Chwarae Wrecsam
Is-lywydd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen
Is-lywydd Côr Meibion Froncysyllte
Aelod Anrhydeddus Clwb Rotari Wrecsam
Aelod Cyfeillion Canolfan Ieuenctid y Vic
Unrhyw fuddiant perthnasol arall
Partner yn gweithio i Lywodraeth Cymru

Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol

(Bro Morgannwg)

Aelodaeth o Undeb Llafur

Unison

Gwybodaeth am Nawdd Undebau Llafur ar gael yn y Gofrestr o Fuddiannau Aelodau o'r Senedd

Cysylltiadau â sefydliadau
Ymddiriedolwr Fforwm Ieuenctid y Fro
Llywydd Anrhydeddus Ymatebwyr Cyntaf y Barri
Ymddiriedolwr Pobl y Fro yn Gyntaf
Ymddiriedolwr Ocean Water Sports Trust, y Barri
Aelod Soroptimyddion Rhyngwladol (Y Barri a'r Cylch)
Priod Ymddiriedolwr a Chyfarwyddwr - Gŵyl Gerddoriaeth Bro Morgannwg
Priod Uwch Gymrawd Ymchwil Anrhydeddus - Prifysgol Caerdydd
Priod Ymddiriedolwr a Chyfarwyddwr - Cyngor ar Bopeth Caerdydd a'r Fro

Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd

(Gorllewin Abertawe)

Swyddi cyfarwyddwr Priod yn Gyfarwyddwr Flattout Design Ltd (dylunio peirianneg electronig)
Aelodaeth o Undeb Llafur

Unsain

Gwybodaeth am Nawdd Undebau Llafur ar gael yn y Gofrestr o Fuddiannau Aelodau o'r Senedd

Cysylltiadau â sefydliadau
Aelod Gerddi Aberglasne
Aelod Amnesty International
Aelod Greenpeace
Aelod Y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol (RHS)
Aelod Y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar (RSPB)
Aelod Coed Cadw
Aelod Cronfa Bywyd Gwyllt y Byd (WWF)
Aelod Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Aelod Y Blaid Gydweithredol
Unrhyw fuddiant perthnasol arall
Mab yn cael ei gyflogi mewn swyddfa etholaethol

Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

(Castell-nedd)

Eiddo buddsoddi Cyd-berchennog eiddo preswyl ar rent yn Abertawe
Aelodaeth o Undeb Llafur

Undeb Unite, GMB ac Unsain

Gwybodaeth am Nawdd Undebau Llafur ar gael yn y Gofrestr o Fuddiannau Aelodau o'r Senedd

Cysylltiadau â sefydliadau
Aelod Fforwm Economaidd Ardal Castellnedd
Aelod CAMRA
Is-lywydd Anrhydeddus Cymdeithas Hynafiaethwyr Castellnedd
Noddwr Canolfan Deulu Building Blocks Resolfen
Noddwr YMCA Castell-nedd
Aelod Undeb Credyd Castell-nedd Port Talbot (hefyd yn cael ei adnabod fel Undeb Credyd Celtic)
Aelod Sefydliad Bevan
Llywydd Anrhydeddus Y Lleng Brydeinig Pontardawe
Noddwr Anrhydeddus Little Theatre Castell-nedd
Noddwr Llafur LGBT
Noddwr Côr Polyffonig Castell-nedd
Aelod Fy Nghwm Gwyrdd

Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

(Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Buddiannau ariannol Ymddiriedolaeth ddall / trefniant rheoli dall
Aelodaeth o Undeb Llafur

Undeb Unite

Gwybodaeth am Nawdd Undebau Llafur ar gael yn y Gofrestr o Fuddiannau Aelodau o'r Senedd

Cysylltiadau â sefydliadau
Aelod Amnesty International UK
Aelod Tŷ'r Arglwyddi (caniatâd i fod yn absennol)
Aelod Mudiad Ewropeaidd
Aelod Mudiad Llafur dros Ewrop
Trefnydd Gŵyl Syniadau Tyddewi
Hyrwyddwr Ewrop Menter yr Economi Llesiant, Sefydliad Iechyd y Byd
Unrhyw fuddiant perthnasol arall
Priod – Partner mewn Practis Meddygon Teulu
Brawd yn Gyfarwyddwr Addysg yr Academi Frenhinol Peirianneg

Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol

(Gogledd Caerdydd)

Aelodaeth o Undeb Llafur

Undeb Unite ac Unsain

Gwybodaeth am Nawdd Undebau Llafur ar gael yn y Gofrestr o Fuddiannau Aelodau o'r Senedd

Cysylltiadau â sefydliadau
Noddwr Cymdeithas Cyrhaeddiad Menywod Cymru o Leiafrifoedd Ethnig
Ymddiriedolwr Life for African Mothers
Is-lywydd Hosbis y Ddinas (Hosbis George Thomas gynt)
Llywydd Anrhydeddus (swydd wedi'i rhewi) Hawliau Erthylu Caerdydd
Aelod Y Blaid Gydweithredol
Aelod Y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar (RSPB)
Aelod Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Unrhyw fuddiant perthnasol arall
Merch yn gweithio i Iechyd Cyhoeddus Cymru

Lynne Neagle, y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant

(Torfaen)

Aelodaeth o Undeb Llafur

Undeb Unite

Gwybodaeth am Nawdd Undebau Llafur ar gael yn y Gofrestr o Fuddiannau Aelodau o'r Senedd

Cysylltiadau â sefydliadau
Noddwr Grŵp Cyfleoedd Torfaen
Noddwr Anrhydeddus Partneriaeth Garnsychan
Is-lywydd Ymddiriedolaeth Amgueddfa Torfaen
Aelod Y Blaid Gydweithredol

Lee Waters, Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd

(Llanelli)

Aelodaeth o Undeb Llafur

GMB

Gwybodaeth am Nawdd Undebau Llafur ar gael yn y Gofrestr o Fuddiannau Aelodau o'r Senedd

Cysylltiadau â sefydliadau
Cymrodor Oes Y Sefydliad Materion Cymreig
Aelod Oes Clwb Cymdeithasol Rhydaman
Aelod Gerddi Aberglasne
Unrhyw Fuddiant Perthnasol Arall
Priod – Gweithio i Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru

Atodiad: Categorïau'r Buddiannau sy'n cael eu datgelu

Ar gael eu penodi, gofynnir i Weinidogion nodi eu buddiannau perthnasol mewn nifer o gategorïau. 

1. Buddiannau ariannol – Mae'r Rhestr yn cynnwys buddiannau uniongyrchol berthnasol a ddelir gan Weinidog. Nid yw felly yn rhestr o'r holl fuddiannau ariannol gan gynnwys pob buddsoddiad neu fenthyciad a ddelir gan Weinidog. Mae'n nodi pan fo buddiannau ariannol yn cael eu cadw mewn ymddiriedolaeth ddall neu drefniant rheoli dall tebyg. Mae ymddiriedolaethau dall a threfniadau rheoli dall yn ddulliau hirdymor ar gyfer diogelu Gweinidogion wrth reoli eu buddiannau. Maent yn sicrhau nad yw Gweinidogion yn ymwneud â phenderfyniadau ynghylch rheoli, caffael na gwaredu eitemau yn y trefniant, ac nad oes ganddynt wybodaeth fyw am gynnwys trefniadau o’r fath.

2. Cyfarwyddiaethau a chyfranddaliadau – Ni restrir cyfranddaliadau yr ystyrir eu bod de minimus o ran eu natur. Er na fyddai Gweinidogion fel arfer yn cadw cyfarwyddiaethau pan fyddant yn eu swyddi, o dan rai amgylchiadau penodol gall fod yn dderbyniol i Weinidog gadw cyfarwyddiaeth, er enghraifft, mewn cysylltiad â rheoli eiddo preswyl neu fenter deuluol, yn amodol ar gymryd camau penodol er mwyn osgoi unrhyw wrthdaro.

3. Partneriaethau neu fuddiannau busnes eraill.

4. Eiddo buddsoddi – Yn unol â’r Gofrestr o Fuddiannau Aelodau o'r Senedd, nid yw eiddo y mae Gweinidogion yn berchnogion arno a/neu yn byw ynddo at eu defnydd eu hunain yn cael ei gynnwys ar y Rhestr.

5. Unrhyw nawdd gan Undeb Llafur neu aelodaeth ohono (nawdd fel y'i datganwyd yn eu datganiad Aelod o'r Senedd).

6. Unrhyw Benodiadau Cyhoeddus a ddelir – caiff y rhan fwyaf o benodiadau cyhoeddus eu hildio pan gaiff rhywun ei benodi i swydd Gweinidog. Pan gynigir, fel eithriad, y dylid cadw penodiad o’r fath, disgwylir y bydd Gweinidogion yn gofyn am gyngor eu Hysgrifennydd Parhaol.

7. Cysylltiadau â sefydliadau gan gynnwys elusennau, sefydliadau nid-er-elw, sefydliadau cymunedol ac ati. Ar ben y cysylltiadau a restrir, mae’n bosibl y bydd gan weinidogion gysylltiadau eraill ag elusennau neu sefydliadau nad ydynt yn sefydliadau cyhoeddus, nad ydynt yn berthnasol i’w buddiannau Gweinidogol, er enghraifft, fel Aelodau etholaethau. Gall cysylltiadau o’r fath fod yn hanesyddol neu wedi dod i ben, neu efallai nad yw’r Gweinidog yn cymryd rhan weithgar ynddynt mwyach.

8. Unrhyw fuddiannau perthnasol eraill gan gynnwys buddiannau perthnasol aelod agos o’r teulu. Gall fod buddiannau gan aelod agos o deulu Gweinidog yr ystyrir eu bod yn arwain at wrthdaro â’i gyfrifoldebau fel Gweinidog, ond mae hefyd yn bwysig cofio hawl Gweinidogion i rywfaint o breifatrwydd ynghylch eu materion. Felly, nid yw buddiannau nad ydynt yn uniongyrchol berthnasol neu nad ydynt, o ystyried y mater, yn arwain at wrthdaro ond a all arwain at sylw gan y cyhoedd, o fewn cwmpas y Rhestr. Pennir yr hyn a olygir wrth deulu agos fesul achos unigol. Ni ellir disgwyl y bydd Gweinidogion yn gwybod manylion materion pob person sy’n perthyn iddynt, ond pan fônt mewn cysylltiad agos a pharhaus â’r person o dan sylw, dylent gymryd camau rhesymol i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’u cyfrifoldebau a nodir yng Nghod y Gweinidogion.

9. At hynny, gofynnir i Weinidogion gadarnhau nad oes unrhyw anghydfodau byw ynghylch eu materion trethi personol.