Neidio i'r prif gynnwy

Ynghylch TermCymru

Casgliad yw TermCymru o’r termau y bydd cyfieithwyr Llywodraeth Cymru yn eu defnyddio yn eu gwaith bob dydd.

Dyma grynodeb o rai o brif nodweddion TermCymru.

Meysydd TermCymru
Yn achos pob term yn TermCymru, cofnodir pwnc, rhan ymadrodd a statws. Yn achos rhai termau, cofnodir hefyd ddiffiniad, brawddeg o gyd-destun a/neu nodiadau defnydd. O haf 2015 ymlaen, cofnodir diffiniad a/neu frawddeg o gyd-destun wrth ychwanegu termau newydd neu ddiwygio hen rai.

Cewch esboniad o’r drefn statysau, ac o holl feysydd TermCymru, ar y tudalennau perthnasol ar y dde. 

Diweddaru TermCymru

Ychwanegir termau at gronfa dermau TermCymru yn rheolaidd. Mae’n graddol dyfu yn gronfa helaeth o dermau safonol a chyfoes a ddefnyddir yn y gwahanol feysydd y mae’r Llywodraeth yn ymdrin â hwy.

Caiff TermCymru ei ddiweddaru’n awtomatig unwaith yr wythnos, yn oriau mân bore Gwener.

Cofiwch y gallwch hefyd lawrlwytho cronfa TermCymru yn ei chrynswth o wefan META-SHARE.

Cofnodion eraill yn TermCymru

Yn ogystal â thermau, mae TermCymru hefyd yn cynnwys llawer o gofnodion eraill megis enwau, teitlau, ymadroddion a segmentau. Maes o law byddwn yn tynnu'r cofnodion hyn o TermCymru ac yn eu trosglwyddo i gronfeydd data eraill y bydd modd eu chwilio ar yr un pryd â TermCymru.

Cewch esboniad o ystyr y gair ‘term’, a diben safoni termau, ar y dudalen am ystyr ‘term’ a ‘safoni termau’