Neidio i'r prif gynnwy

Statws termau

Mae gan bob term yn TermCymru un o dri statws, sef Statws A, Statws B neu Statws C.

Statws A (gwyrdd)

Safonwyd yn llawn.

Dyma’r statws a roddir i dermau a safonwyd yn llawn gan y Gwasanaeth Cyfieithu. Os ydych yn ymgymryd â gwaith ar ran Llywodraeth Cymru, gallwch fod yn gwbl hyderus bod y termau hyn yn rhai safonol.

Hefyd dyma’r statws a roddir i enwau a theitlau nad oes modd eu newid, megis enwau cyrff allanol a theitlau dogfennau cyhoeddedig. Nid yw cofnodion enwau a theitlau o’r fath, o reidrwydd, wedi bod drwy’r broses safoni.

Statws B (melyn)

Safonwyd yn rhannol.

Dyma’r statws a roddir i dermau a fu’n destun peth gwaith ymchwil gan y Gwasanaeth Cyfieithu ond nad ydynt wedi bod drwy’r broses safoni gyflawn. Mae’r categori hwn hefyd yn cynnwys termau o gasgliadau allanol nad ydynt wedi bod drwy broses safoni lawn y Gwasanaeth Cyfieithu. Os ydych yn ymgymryd â gwaith ar ran Llywodraeth Cymru, gallwch fod yn lled hyderus bod y termau hyn yn rhai safonol.

Statws C (coch)

Gwiriwyd yn ieithyddol.

Dyma’r statws a roddir i dermau a wiriwyd yn ieithyddol, ond nad ydynt eto wedi bod drwy unrhyw gam safoni yn y Gwasanaeth Cyfieithu. Cynigion gan gyfieithwyr ac eraill yw’r rhain yn bennaf. Os ydych yn ymgymryd â gwaith ar ran Llywodraeth Cymru, gallwch fod yn hyderus bod y termau hyn yn ieithyddol gywir ond dylid eu defnyddio â gofal gan nad ydynt eto wedi cael eu safoni.