Treiglad llaes sydd ei angen ar ôl y cysylltair ‘a’, nid treiglad meddal. Felly, defnyddiwch a chyda, a chan, a thros, nid ‘a gyda’, ‘a gan’, ‘a dros’ etc.
Peidiwch â defnyddio ‘&’ (yr ampersand) yn y Gymraeg.
Yn aml rhoddir ‘and’ ar ddiwedd y pwynt olaf ond un mewn rhestrau Saesneg sydd yn defnyddio’r wyddor. Mae hyn yn gallu achosi problemau yn y Gymraeg – ee yn yr enghraifft isod byddai rhai pobl yn ynganu’r trydydd pwynt c) fel ‘éc’ ac eraill yn dweud ‘cý’, felly byddai anghysondeb yn codi o ran defnyddio ‘a’ neu ‘ac’ o’i flaen.
Bydd angen ystyried:
a) costau’r gwaith addasu;
b) yr amserlen; ac/a
c) materion iechyd a diogelwch.
Mewn gwirionedd, gellir hepgor y cysylltair yn llwyr mewn testunau Cymraeg gan nad yw’n ychwanegu dim at eglurder y testun. Ond, o’i gynnwys, dylid trin y llythyren sy’n dod ar ei ôl fel pe bai’n cael ei hynganu yn y dull traddodiadol (hynny yw, ‘éc’ ac nid ‘cý’).
Mewn ymadroddion yn mynegi meddiant defnyddir ‘a/ac’ (cysylltair) yn hytrach nag ‘â/ag’ (arddodiad):
gŵr a chanddo dri o blant, cynllun ac iddo rinweddau arbennig
Negydd ‘a’ yw ‘na’ (o flaen cytseiniaid):
nid oes ganddi wres na golau yn ei chartref
Negydd ‘ac’ yw ‘nac’ (o flaen llafariaid):
nid oedd ganddo ddillad nac arian