Neidio i'r prif gynnwy

Sut i chwilio TermCymru

Mae dulliau chwilio TermCymru wedi’u gwella gyda diweddariad mis Mehefin 2017.

Ers mis Mehefin 2017, nid oes raid dewis iaith cyn chwilio am derm. Bydd TermCymru yn chwilio’r cofnodion Cymraeg a Saesneg ar yr un pryd. Serch hynny, gan mai cronfa Saesneg>Cymraeg yw’r gronfa sy’n sail i TermCymru, sylwch nad oes manylion fel rhannau ymadrodd ac ati wedi’u cofnodi ar gyfer y termau Saesneg. 

Dyma rai cynghorion i’ch helpu chi i chwilio yn fwy effeithiol.

Ar y dudalen chwilio

Chwilio am derm Cymraeg ynte am derm Saesneg?
Gallwch chwilio am dermau Cymraeg neu Saesneg gan ddefnyddio’r blwch chwilio; nid oes raid ichi ddewis iaith cyn chwilio am derm.

Chwilio am ymadrodd penodol?  
Does dim angen ichi roi dyfynodau dwbl am y geiriau hynny. Bydd unrhyw gofnodion cyfatebol llawn yn y gronfa yn ymddangos tua brig  y rhestr. 

Chwilio am derm neu deitl â sawl gair ynddo? 
Gall fod yn gynt chwilio am ambell un o’r geiriau mwyaf anarferol yn hytrach na chwilio am bob gair, ee “housing fraud detection” yn hytrach na “prevention of social housing fraud (detection of fraud) (wales) regulations”

Eisiau cyfyngu’r canlyniadau i bwnc arbennig? 
Dewiswch y pwnc hwnnw o’r gwymplen a chlicio ar ‘Chwilio’.

Cynghorion eraill
Gallwch chwilio am ran o air neu eiriau, ee chwiliwch am “soc rent hous” i ddod o hyd i “social rented housing”.

Bydd TermCymru yn chwilio am ffurfiau treigledig ar eiriau Cymraeg sydd yn y gronfa, yn ogystal â’r ffurf gysefin, ee bydd chwilio am “Cymru” yn dod o hyd i dermau sy’n cynnwys y ffurfiau "Cymru", “Gymru”, “Chymru” a/neu “Nghymru”. Bydd y ffurfiau treigledig i’w gweld yn is i lawr y rhestr ganlyniadau na’r ffurf gysefin.

Ar y dudalen ganlyniadau

Os bydd TermCymru yn dod o hyd i dermau Saesneg yn unig, dangosir y termau Saesneg hynny.

Os bydd TermCymru yn dod o hyd i dermau Cymraeg yn unig, dangosir y termau Cymraeg hynny.

Os bydd TermCymru yn dod o hyd i dermau Saesneg a Chymraeg, dangosir y tri chanlyniad uchaf yn y ddwy iaith a gallwch ddewis a ydych am weld rhagor o ganlyniadau yn y naill iaith neu’r llall drwy glicio ar yr enghraifft berthnasol o’r geiriau “Gweld y cyfan”.

Byddwch yn gweld y prif fanylion sy’n gysylltiedig â’r termau y deuir o hyd iddynt. 

Os oes diffiniad, brawddeg gyd-destunol neu nodiadau yn gysylltiedig â therm, bydd y geiriau “Dangos mwy” yn ymddangos gyda’r cofnod hwnnw. Cliciwch ar y geiriau hynny i weld yr wybodaeth ychwanegol. Fe’ch anogir chi yn gryf iawn i wneud hynny gydag unrhyw dermau sy’n berthnasol i’ch chwiliad. 

Ar y cam hwn hefyd gallwch ddefnyddio’r cwymplenni perthnasol i:

  • addasu nifer y canlyniadau sy’n ymddangos fesul sgrin (50 canlyniad fesul sgrin yw'r dewis diofyn, ond gallwch addasu hyn i 10 neu 25 o ganlyniadau fesul sgrin)
  • trefnu’ch canlyniadau yn ôl perthnasedd neu drefn yr wyddor
  • cyfyngu’ch canlyniadau i bwnc arbennig.

Cliciwch ar y blwch bach â’r saeth sydd yng nghornel dde uchaf unrhyw gofnod i arddangos dim ond manylion y cofnod hwnnw ar y sgrin.

Cewch esboniad o’r gwahanol feysydd ar y dudalen Meysydd TermCymru.