Neidio i'r prif gynnwy

Meysydd TermCymru

Dysgwch am y meysydd gwybodaeth sy’n ymddangos gyda phob term yn TermCymru.

Yn achos pob term Cymraeg yn TermCymru, cofnodir pwnc, rhan ymadrodd a statws. Yn achos rhai termau, cofnodir hefyd ddiffiniad, brawddeg o gyd-destun a/neu nodiadau defnydd. Ers lansio BydTermCymru yn 2015, cofnodir diffiniad a/neu frawddeg o gyd-destun wrth ychwanegu unrhyw dermau newydd ac wrth ddiwygio unrhyw dermau sydd eisoes yn y gronfa.

Os oes diffiniad, brawddeg o gyd-destun neu nodiadau defnydd yn gysylltiedig â therm, bydd y geiriau “Dangos mwy” yn ymddangos gyda’r term hwnnw ar y dudalen ganlyniadau. Cliciwch ar y geiriau hynny i weld yr wybodaeth ychwanegol. Fe’ch anogir chi yn gryf iawn i wneud hynny yn achos unrhyw dermau sy’n berthnasol i’ch chwiliad.

 

Statws
Yma y cofnodir statws y term dan sylw. Cewch esboniad o drefn y statysau yn y ddewislen ar y dde.

Diffiniad
Yma y cofnodir unrhyw ddiffiniad o’r term dan sylw. Yn gyffredinol, bydd diffiniadau yn cael eu dyfynnu yn iaith wreiddiol y testun y maent yn deillio ohono.

Pwnc
Dyma’r pwnc y mae’r term yn berthnasol iddo.

Rhan ymadrodd
Yma y cofnodir manylion gramadegol y term.

Cyd-destun
Yma y cofnodir brawddegau sy’n dangos enghraifft o’r  term yn cael ei ddefnyddio.

Cyn lansio BydTermCymru yn 2015, defnyddiwyd y maes Cyd-destun i gofnodi pob math o nodiadau amrywiol. Dros amser, bydd y nodiadau hynny yn cael eu symud i’r maes Nodiadau. Yn achos pob term a ychwanegwyd neu a ddiwygiwyd ers  lansio haf 2015, dim ond brawddegau sy’n dangos y term yn ei gyd-destun  sydd i’w gweld  yn y maes hwn. 

 

Lluosog
Yma y cofnodir ffurf luosog safonol y term dan sylw.

Nodiadau
Yma y cofnodir unrhyw nodiadau defnydd ar gyfer y term dan sylw.