Neidio i'r prif gynnwy

TermCymru ar META-SHARE

Mae fersiwn ddiweddaraf cronfa dermau TermCymru ar gael ichi ei lawrlwytho o wefan META-SHARE.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud trefniant â gweinyddwyr gwefan META-SHARE i gyhoeddi copi o gronfa dermau TermCymru bob pedwar mis. O’r wefan honno, mae modd ichi lawrlwytho’r gronfa at eich defnydd eich hun o dan drwyddedau Creative Commons ac Open Data Commons.

Rydym yn deall bod nifer o unigolion a sefydliadau yn defnyddio’r adnodd hwn at bob math o ddibenion, gan gynnwys ei lwytho i'w systemau cof cyfieithu eu hunain.

Cyhoeddwyd y fersiwn ddiweddaraf o TermCymru ar META-SHARE ar 19/04/2024.

Bydd y ddolen isod yn mynd â chi’n syth at adnodd TermCymru ar wefan META-SHARE.

TermCymru ar META-SHARE