Clefyd hynod heintus ar anifeiliaid yw brwselosis, sy'n cael ei achosi gan facteria.
Mae'n gallu effeithio ar amrywiaeth o da byw gan gynnwys:
- gwartheg
- defaid
- moch
- geifr
Mae e'n gallu effeithio ar bobl hefyd (milhaint). Adroddwyd yr achos diwethaf mewn da byw yn 2004 ym Mhrydain.
Mae yna hefyd fath o Brwselosis (Brucella Canis) sydd yn effeithio ar gŵn. Nid yw hon yn hysbysadwy yn anifeiliaid. Ymwelwch â Brucella canis: gwybodaeth i'r cyhoedd a perchnogion cŵn (ar gov.uk) i ddarganfod fwy o wybodaeth.
Mae’r wybodaeth isod yn ymwneud a brwselosis mewn da byw.
Amheuon a chadarnhad
Os oes gennych unrhyw amheuon y gall brwselosis fod ar eich anifeiliaid, cysylltwch â'ch swyddfa Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion leol ar 0300 303 8268 ar unwaith.
Bydd milfeddygon APHA yn archwilio'r achosion hynny.
Arwyddion clinigol
Mae'r arwyddion yn amrywio yn ôl rhywogaeth. Gallwch ddisgwyl gweld:
- lloi wedi'u herthylu a'u geni cyn pryd
- cadeiriau (pyrsau) a cheilliau wedi chwyddo mewn defaid a geifr
- nerfusrwydd
- gwres
Trosglwyddo, atal a thriniaeth
Mae'r clefyd yn cael ei ledaenu trwy gysylltiad â deunydd sydd wedi'i heintio â'r bacteria. Mae gan anifeiliaid heintiedig lefelau uchel iawn o'r bacteria yn eu hylifau geni.
Prif ffyrdd heintio:
- yfed neu fwyta dŵr neu fwyd heintiedig
- yfed llaeth anifail heintiedig
Ar gyfer pobl, gall hyn gynnwys:
- cysylltiad uniongyrchol ag anifeiliaid heintiedig neu eu hylifau a'u tail
- yfed neu fwyta llaeth a chynnyrch llaeth heb eu pasteureiddio (mewn gwledydd lle ceir brwselosis)
Gallwch helpu i atal y clefyd trwy gadw at fesurau bioddiogelwch da ar eich fferm. Mae hyn yn arbennig o bwysig wrth drin ffetysau sydd wedi'u herthylu. Rhowch wybod i APHA am bob erthyliad a genedigaeth cyn pryd.
Nid oes modd trin brwselosis. I rwystro'r clefyd rhag lledaenu, rhaid difa anifeiliaid heintiedig, yn unol â chyfarwyddyd APHA.