Brother Engineering o Abertawe yw'r gwneuthurwr masgiau cyntaf yng Nghymru i gael y gymeradwyaeth reoleiddiol sydd ei hangen i allu cyflenwi GIG Cymru.
Mae'r cwmni peirianneg wedi addasu ei ffordd o weithio yn ystod y misoedd diwethaf i gefnogi ymdrechion Llywodraeth Cymru i gynhyrchu a chyflenwi cyfarpar diogelu personol (PPE) hanfodol.
Mae'r cam hwn, sy'n cael ei gefnogi gan gronfa gymorth Ymchwil, Datblygu ac Arloesi COVID-19 Llywodraeth Cymru, wedi creu swyddi newydd gan gynnwys cyflogi tri o bobl a ddiswyddwyd gan gwmnïau lleol o ganlyniad i effeithiau economaidd y pandemig.
O dan yr enw Blu Thomas Medical, gellir defnyddio masgiau llawfeddygol y cwmni, sy'n cael eu cynhyrchu yn ei ffatri ym Mhontardawe, mewn ysbytai a lleoliadau gofal iechyd yng Nghymru yn awr.
Mae hefyd yn cyfrannu 60,000 o fasgiau o ansawdd uchel i elusennau lleol yn ardal Abertawe a fydd yn gweithio gyda phobl mewn angen dros gyfnod y Nadolig.
Erbyn hyn, mae gan y cwmni'r capasiti i gynhyrchu hyd at 5 miliwn o fasgiau nod CE math IIR sy'n gallu gwrthsefyll hylifau bob mis ac fe’u defnyddir i ddiogelu gweithwyr rheng flaen y GIG a'r sector gofal iechyd.
Diolch i'r ymdrechion enfawr hyn gan y gymuned fusnes, mae Cymru wedi cynyddu ei gallu i gynhyrchu yn sylweddol ac mae'n meithrin gwydnwch ar draws ystod eang o eitemau PPE.
Dywedodd Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Lee Waters:
"Mae'n newyddion gwych bod Blu Thomas Medical o Brother Engineering bellach yn gallu dechrau cyflenwi masgiau hanfodol bwysig i weithwyr y GIG a gofal iechyd.
"Drwy gydol y flwyddyn hynod anodd hon, rydym wedi gweld ein busnesau'n ymateb yn wych i'r her o'n helpu ni i gynhyrchu PPE y mae ei wir angen.
"Rwyf wedi rhyfeddu'n fawr at gwmnïau sydd wedi mynd yr ail filltir er mwyn addasu eu ffyrdd o weithio a meddwl yn arloesol i ymuno â'n hymdrechion i ddelio â’r coronafeirws a chefnogi'r rhai ar reng flaen ein gwasanaeth iechyd.
"Hoffwn ddiolch i bawb yn Brother Engineering am eu holl waith caled yn cynhyrchu eitem mor hanfodol o PPE ac mae'n dyst i sgiliau a galluoedd y gweithlu."
Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Brother Engineering, Blu Thomas:
"Rydym wrth ein bodd ein bod, drwy ein buddsoddiad a'n gwaith caled, wedi gallu bodloni'r gofynion rheoleiddiol a allai ein galluogi i gyflenwi masgiau i GIG Cymru a thu hwnt.
"Mae'r tîm yma wedi gweithio oriau hir i gyflawni hyn, ond rydym hefyd wedi cael cymorth aruthrol gan Lywodraeth Cymru sydd wedi cynorthwyo gyda chyllid a sicrhau arbenigedd, a gan arbenigwyr ym Mhrifysgol Caerdydd a Labordy Profi Deunyddiau Llawfeddygol y GIG ei hun.”