Neidio i'r prif gynnwy

Mae Ken Skates, Gweinidog yr Economi, wedi datgan bod Llywodraeth Cymru wedi cefnogi bron i 40,000 o swyddi yng Nghymru y llynedd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Mai 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cafwyd cadarnhad gan Ken Skates bod 38,497 o swyddi wedi eu cefnogi yng Nghymru yn 2016/17 o ganlyniad i ymyraethau gan Lywodraeth Cymru.    

Dros yr un cyfnod, mae 1086 o unigolion wedi derbyn cymorth i gael gwaith drwy brif raglen Llywodraeth Cymru, rhaglen Twf Swyddi Cymru.  

Dengys y ffigurau diweddaraf bod Llywodraeth Cymru wedi cofnodi ei pherfformiad gorau ond un yn 2016/17 o ran cefnogi swyddi.  Roedd y ffigurau yn is na ffigurau 2015/16 yn unig, pan welwyd Llywodraeth Cymru yn cefnogi 40,044 o swyddi. 

Meddai Ken Skates:

“Yn gynharach heddiw croesawodd y Prif Weinidog ystadegau diweddaraf Marchnad Lafur y Swyddfa Ystadegau Gwladol a ddangosodd bod nifer y bobl sy’n cael eu cyflogi yng Nghymru wedi codi 25,000 dros y tri mis diwethaf, gan olygu bod lefelau cyflogaeth nawr bellach ar 73.7 y cant, sy’n lefel uwch nag erioed.   

“Yn wir, dros y flwyddyn ddiwethaf mae cyfraddau cyflogaeth yng Nghymru wedi gwella o dros ddwbl y cyfartaledd yn y DU.  

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio’n ddi-flino i gynyddu lefelau cyflogaeth ac i gefnogi cwmnïau ledled Cymru i oroesi, ffynnu ac ehangu.  

“Mae’r ffigurau diweddaraf hyn yn dangos bod ein gwaith caled a’n huchelgais yn talu ar ei ganfed, a bod Llywodraeth Cymru wedi cefnogi bron i 80,000 o swyddi yn y 2 flynedd ddiwethaf ac oddeutu 170,000 o swyddi dros y bum mlynedd ddiwethaf. 

“Byddwn yn parhau i gefnogi busnesau ledled Cymru ac yn sicrhau bod yr amodau economaidd iawn gennym i gynyddu lefelau cyflogaeth, cefnogi swyddi cynaliadwy a hyfforddiant, a sicrhau llewyrch ledled Cymru.”