Croeso i Fro Tathan
Busnes, Awyr, Arloesedd
Ym mharc busnes Bro Tathan mae tuag 1.6 miliwn o droedfeddi sgwâr o ofod cyflogaeth ac mae’n gartref i gwmnïau mawr gan gynnwys Aston Martin Lagonda, eCube Solutions a Bristow Helicopters.
Mae Bro Tathan yn dechrau ar y cam nesaf yn ei ddatblygiad cyffrous i greu cyrchfan arloesol i fusnesau.
Ar safle o tua 1,200 o erwau gyda’i redfa ei hun, mae Bro Tathan mewn lleoliad strategol o fewn Ardal Fenter Maes Awyr Caerdydd a Bro Tathan, 5 milltir o Faes Awyr Caerdydd ac o fewn cyrraedd yn gyfleus i draffordd yr M4 a phrif ddinasoedd y DU.
Mae Bro Tathan yn cynnig ystod eang o gyfleoedd datblygu yn yr ardal awyrennau ac ardaloedd eraill i ddatblygwyr a busnesau fel ei gilydd. Mae eiddo ar gael ar amrywiaeth o gytundebau lesddaliad tymor byr a thymor hwy.
Bydd rhagor o fanylion ar gael cyn bo hir, ond ar gyfer ymholiadau cychwynnol, cysylltwch â’r unig asiant.
Scott Caldwell
Savills
Rhif ffôn: +44 (0) 2920 368943
E-bost: scaldwell@savills.com
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Chloe Beard
Savills
Rhif ffôn: +44 (0) 2920 368967
E-bost: chloe.beard@savills.com
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.