Heddiw, croesawodd Caergybi un o’r llongau mordeithio mwyaf i ymweld â’r porthladd erioed.
Mae llong cwmni’r Royal Caribbean ‘Brilliance of the Seas’ yn llong fordeithio 90,090 tunnell, sy’n gallu cludo 2,112 o deithwyr, a bydd y teithwyr ar y fordaith hon yn dod yn bennaf o UDA.
Cafodd y Gweinidog Twristiaeth, yr Arglwydd Elis-Thomas gyfle i fynd ar y llong i gwrdd â’r criw a’r capten er mwyn ystyried sut y gall Cymru gynyddu ymhellach ei chyfran o’r farchnad broffidiol yn y sector mordeithio.
Mae’r farchnad llongau mordeithio wedi cael ei nodi’n farchnad dwf i Gymru. Yn 2016, gwerth y diwydiant mordeithio i economi Cymru oedd tua £7 miliwn.
Yn 2018, mae 103 o fordeithiau’n bwriadu ymweld â Chymru, sef cynnydd blynyddol o 15%. Bydd Caergybi yn croesawu 53 o’r ymweliadau hyn - cynnydd o 30% ers 2017.
Mae Llywodraeth Cymru a Cruise Wales wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth ag Awdurdodau Lleol a phorthladdoedd i greu rhaglen farchnata i Gymru, yn ogystal â gwella’r hyn sydd gennym i gynnig i’r farchnad fordeithio yma yng Nghymru.
Dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas:
“Roedd heddiw’n gyfle ardderchog imi weld sut y mae llong fordeithio megis Brilliance of the Seas yn gweithredu ac i ystyried y cyfleoedd y mae ymweliadau’r llongau hyn â Chymru yn eu cynnig i economi ehangach y wlad. Mae twf y sector yn tystio i’r gwaith ar y cyd rhwng partneriaid yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat, sy’n cydweithio’n agos â’r llongau mordeithio er mwyn sicrhau bod Cymru’n datblygu’r seilwaith a’r cynhyrchion cywir a fydd yn apelio at eu cwsmeriaid. Rwy’n sicr bod y teithwyr wedi cael amser gwych yn gweld amrywiaeth ac ansawdd yr hyn sydd gan Gymru i’w gynnig, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu rhagor o longau i Gymru yn ystod 2018.”
Er mwyn datblygu’r sector mordeithio, mae Porthladd Caergybi yn datblygu ei seilwaith gan gynnig angorfa newydd ar gyfer mwy nag un defnyddiwr a fydd yn caniatáu i longau mordeithio mwy (hyd at 365 o fetrau) angori yno. Mae’r gwaith hwn yn cael ei wneud ar sail cyngor gan gwmni’r Royal Caribbean o ran sut y dylai’r angorfa gael ei dylunio.
Yn ôl deiliad y portffolio ar gyfer Prosiectau Mawr a Datblygu Economaidd yn Ynys Môn, y Cynghorydd Carwyn Jones:
“Mae’r manteision economaidd sy’n dod i Ynys Môn a Gogledd Cymru oherwydd y diwydiant mordeithio yn hynod bwysig.”
“Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn falch o arwain y Prosiect Mordeithiau Rhanbarthol ar gyfer Gogledd Cymru, ac mae cymorth drwy’r Gronfa Ymgysylltu Twristiaeth Ranbarthol wedi ein helpu ni i ddenu llawer mwy o deithwyr ar longau mordeithio i’r ardal.
“Mae ein rhaglen flynyddol ar gyfer llongau mordeithio yn mynd o nerth i nerth. Byddwn ni’n croesawu 53 o longau mordeithio i Ynys Môn yn ystod yr haf hwn, o gymharu â 43 yn 2017, gan ddod â thua 30,000 o ymwelwyr a chriw o’r llongau i’r ardal. Byddwn yn parhau i farchnata Gogledd Cymru fel cyrchfan unigryw, gan adeiladu ar ein llwyddiant eisoes a chadarnhau safle Caergybi fel un o brif borthladdoedd y DU ar gyfer mordeithiau.”
Mae’r diwydiant mordeithio hefyd yn cael cefnogaeth gan Bartneriaeth Cyrchfan Ynys Môn, lle y mae cynrychiolwyr allweddol o’r sector preifat yn cydweithio â’r sector cyhoeddus er mwyn sicrhau’r budd mwyaf posibl.