Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, croesawodd Caergybi un o’r llongau mordeithio mwyaf i ymweld â’r porthladd, llong cwmni’r Royal Caribbean ‘Brilliance of the Seas’.

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Awst 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn ystod yr ymweliad ym Mis Mehefin cafodd y Gweinidog Twristiaeth, yr Arglwydd Elis-Thomas, gyfle i fynd ar y llong i gwrdd â’r Capten a’r criw er mwyn ystyried sut y gall Cymru gynyddu ymhellach ei chyfran o’r farchnad broffidiol yn y sector mordeithio.

Mae’r farchnad llongau mordeithio wedi cael ei nodi’n farchnad dwf i Gymru. Eleni yn unig, mae dros 100 o ymweliadau â phorthladdoedd yng Nghymru wedi'u cynllunio. Golyga hyn y bydd Cymru wedi croesawu dros 51,000 o deithwyr o UDA, Canada, Ffrainc a'r Almaen, ymhlith eraill. Mae hyn hefyd lawer yn fwy na ffigurau 2017 sy'n dangos cynnydd blynyddol o 15%. Bydd Caergybi yn croesawu 54 o’r ymweliadau hyn yn 2018 – cynnydd o 30% ers 2017.

Mae Cymru wedi denu cwmnïau newydd megis Norwegian Cruise Line, Aida, Regent Seven Seas a Phoenix Reissen ac hefyd yn awyddus i ddenu rhagor tra’n gweithio'n galed i gadw'r rhai sydd eisoes yn ymweld â Chymru. Bydd Cruise & Maritime Voyages yn parhau i gynnig mordeithiau dychwelyd yn 2019 i'r Canoldir yn dilyn ail flwyddyn lwyddiannus o hwylio o borthladd Caerdydd lle y gwnaeth 750 o deithwyr fynd ar y llong fordeithio Marco Polo a dod oddi arni.

Mae Llywodraeth Cymru a Cruise Wales wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth ag Awdurdodau Lleol a phorthladdoedd i greu rhaglen farchnata i Gymru, yn ogystal â gwella’r hyn sydd gennym i gynnig i’r farchnad fordeithio yma yng Nghymru.  

Yn Abergwaun, drwy'r Cynllun Cymorth Buddsoddi mewn Twristiaeth, mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi mewn pont gychod er mwyn caniatáu i longau mwy o faint ymweld â Chymru. O ganlyniad i hynny, rydym eisoes yn gweld cynnydd o 30% yn nifer y teithwyr ar gyfer 2019, gan gynnwys ymweliad gan y llong fordeithio Aidabella, sy'n cario 2,500 o deithwyr. Hon fydd y llong fwyaf i ymweld â Chymru hyd yma.

Mae newid ar waith ym mhorthladd Caergybi hefyd gyda'r posibilrwydd o ddatblygu angorfa newydd ar gyfer mwy nag un defnyddiwr yn cael ei ystyried. Yn Aberdaugleddau, mae cynlluniau diwygiedig ar gyfer ailddatblygu marina gwerth miliynau o bunnoedd, gan gynnwys gwestai, siopau a bwytai newydd wedi'u cymeradwyo gan Gyngor Sir Penfro.

Rhan allweddol o sicrhau'r ymweliadau hyn yw'r gwaith i ddatblygu a hyrwyddo teithiau newydd ar y tir i deithwyr ac i ddangos mwy o atyniadau Cymru i gwmnïau mordeithio a threfnwyr lleol; er enghraifft, i deithwyr sy'n cyrraedd Caerdydd, mae  taith newydd i adeilad Canolfan y Mileniwm gyda'r pensaer gwreiddiol wedi’u threfnu; ac i deithwyr sy'n cyrraedd Abergwaun, mae yna prynhawn cyfan o Hwyl sy'n cynnwys adloniant i ddangos treftadaeth a diwylliant Cymru yn cael ei gynnig; ac yng Nghaergybi, mae taith antur i  Zip World Forest Coaster ar gael.

Dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas:

“Roedd gyfle ardderchog ym Mis Mehefin imi weld sut y mae llong fordeithio megis Brilliance of the Seas yn gweithredu ac i ystyried y cyfleoedd y mae ymweliadau’r llongau hyn â Chymru yn eu cynnig i economi ehangach y wlad. Rwy’n falch bod Ynys Môn yn croesawu’r teithwyr eto heddiw. Mae twf y sector yn tystio i’r gwaith ar y cyd rhwng partneriaid yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat, sy’n cydweithio’n agos â’r llongau mordeithio er mwyn sicrhau bod Cymru’n datblygu’r seilwaith a’r cynhyrchion cywir a fydd yn apelio at eu cwsmeriaid. Rwy’n sicr bod y teithwyr wedi cael amser gwych yn gweld amrywiaeth ac ansawdd yr hyn sydd gan Gymru i’w gynnig, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu rhagor o longau i Gymru yn ystod 2018.”  

Yn ôl deiliad y portffolio ar gyfer Prosiectau Mawr a Datblygu Economaidd yn Ynys Môn, y Cynghorydd Carwyn Jones:

“Mae’r manteision economaidd sy’n dod i Ynys Môn a Gogledd Cymru oherwydd y diwydiant mordeithio yn hynod bwysig. Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn falch o arwain y Prosiect Mordeithiau Rhanbarthol ar gyfer Gogledd Cymru, ac mae cymorth drwy’r Gronfa Ymgysylltu Twristiaeth Ranbarthol wedi ein helpu ni i ddenu llawer mwy o deithwyr ar longau mordeithio i’r ardal. Byddwn yn parhau i farchnata Gogledd Cymru fel cyrchfan unigryw, gan adeiladu ar ein llwyddiant eisoes a chadarnhau safle Caergybi fel un o brif borthladdoedd y DU ar gyfer mordeithiau.”

Mae’r diwydiant mordeithio hefyd yn cael cefnogaeth gan Bartneriaeth Cyrchfan Ynys Môn, lle y mae cynrychiolwyr allweddol o’r sector preifat yn cydweithio â’r sector cyhoeddus er mwyn sicrhau’r budd mwyaf posibl.