Neidio i'r prif gynnwy

Daeth Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ("y Ddeddf") i rym yng Nghymru ar 6 Ebrill 2016, ac mae'n nodi'r pwerau a'r dyletswyddau sydd gan awdurdodau lleol tuag at blant ac oedolion yng Nghymru.

Mae'r Briff hwn yn nodi'r darpariaethau cyfreithiol perthnasol lle mae awdurdodau lleol yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc ar eu pen eu hunain sy’n ceisio lloches yng Nghymru.

Cysyniadau Cyffredinol

Gwasanaethau ataliol

Mae dyletswydd gyffredinol ar awdurdodau lleol i sicrhau bod gwasanaethau ataliol ar gael yn eu hardaloedd at ddibenion penodol. (1) Manylir ar y dibenion yn adran 15(2) o'r Ddeddf, sef:

  • atal neu ohirio datblygiad anghenion pobl am ofal a chymorth
  • lleihau'r angen am ofal a chymorth ar bobl sydd ag anghenion o'r fath
  • hyrwyddo magwraeth plant gan eu teuluoedd, lle mae hynny'n gyson â llesiant y plant
  • lleihau effaith eu hanableddau ar bobl anabl
  • lleihau'r angen am achosion gofal, achosion eraill a allai arwain at roi'r plant mewn gofal, achosion o dan awdurdodaeth ymlynol yr Uchel Lys; ac achosion troseddol yn erbyn plant
  • osgoi'r angen i roi plant mewn llety diogel
  • annog plant i beidio â chyflawni troseddau
  • galluogi pobl i fyw eu bywydau mor annibynnol â phosibl

Dylai ymarferwyr ymgyfarwyddo â'r gwasanaethau sydd eisoes ar gael i blant ar eu pen eu hunain sy’n ceisio lloches yn eu hardal. Mae'n ofynnol yn y Ddeddf bod awdurdodau lleol yn hyrwyddo mentrau cymdeithasol, cwmnïau cydweithredol, gwasanaethau trydydd sector a gwasanaethau a arweinir gan ddefnyddwyr fel ffordd o ddarparu gwasanaethau ataliol neu ddiwallu anghenion gofal a chymorth yn eu hardal. Efallai y bydd adnoddau arbenigol ar gael yn lleol gyda phrofiad o weithio gyda phlant a phobl ifanc ar eu pen eu hunain sy’n ceisio lloches.

Efallai y bydd gan rai awdurdodau lleol fwy o brofiad o gefnogi plant yn y sefyllfaoedd anodd hyn oherwydd eu daearyddiaeth a'u hagosrwydd at borthladdoedd a phwyntiau mynediad eraill i'r DU.  Anogir awdurdodau lleol i rannu arfer gorau ac arbenigedd ynghylch y mathau o wasanaethau sydd wedi bod yn llwyddiannus o ran cefnogi plant a phobl ifanc ar eu pen eu hunain sy’n ceisio lloches yn eu hardaloedd.

Beth yw llesiant?

Mae llesiant yn gysyniad canolog yn y Ddeddf; ei nod yw sicrhau bod ymarferwyr yn ystyried anghenion pob unigolyn mewn ffordd gyfannol (waeth a yw'r person hwnnw'n oedolyn neu'n blentyn). Disgrifir y gwahanol agweddau sy'n cyfrannu at lesiant person yn adran 2(2) o'r Ddeddf, ac maent yn cynnwys y canlynol:

  • iechyd corfforol a meddyliol a llesiant emosiynol
  • diogelwch rhag camdriniaeth ac esgeulustod
  • addysg, hyfforddiant a hamdden
  • perthnasoedd domestig, teuluol a phersonol
  • y cyfraniad a wneir at gymdeithas
  • sicrhau hawliau
  • llesiant cymdeithasol ac economaidd
  • addasrwydd llety byw

Yn achos plant, dylid ystyried y ddwy agwedd ganlynol hefyd wrth edrych ar eu llesiant cyffredinol:

  • datblygiad corfforol, deallusol, emosiynol, cymdeithasol ac ymddygiadol.
  • lles (2)

Mae'n debygol iawn y bydd yr amgylchiadau y mae plant a phobl ifanc ar eu pen eu hunain sy’n ceisio lloches yn cael eu hunain ynddynt yn effeithio ar eu llesiant mewn sawl ffordd wahanol; fel arfer bydd effaith ar eu llesiant corfforol, meddyliol ac emosiynol gan eu bod mewn gwlad anghyfarwydd gydag arferion diwylliannol a chrefyddol gwahanol. Efallai na fydd ganddynt unman i fyw neu y byddant yn cael eu hunain yn byw mewn llety anaddas. Mae’n debygol y bydd y plant hyn mewn mwy o berygl o gael eu cam-fanteisio neu eu cam-drin ac efallai na allant fanteisio cystal ar addysg neu gyfleoedd i feithrin perthynas gymdeithasol â chyfoedion oherwydd rhwystrau ieithyddol.

Pam mae llesiant yn bwysig?

Os yw awdurdod lleol yn arfer swyddogaethau o dan y Ddeddf mewn perthynas ag oedolyn neu blentyn, mae dyletswydd gadarnhaol arno i hyrwyddo llesiant y person hwnnw os aseswyd bod angen gofal a chymorth arno. (3) Mae rhai pethau y mae'n rhaid i'r awdurdod lleol eu gwneud i gyflawni'r ddyletswydd benodol hon. (4)

Er mwyn hyrwyddo llesiant plentyn, rhaid i'r awdurdod lleol:-

  • ganfod a rhoi sylw i farn, dymuniadau a theimladau'r plentyn
  • ystyried pwysigrwydd hyrwyddo a pharchu urddas y plentyn
  • rhoi sylw i nodweddion, diwylliant a chredoau'r plentyn
  • rhoi sylw i bwysigrwydd cynorthwyo'r plentyn i gymryd rhan mewn penderfyniadau sy'n effeithio arno (i'r graddau y mae'n briodol gwneud hynny)
  • ystyried pwysigrwydd hyrwyddo magwraeth y plentyn yn y teulu biolegol os yw hyn yn gyson â hyrwyddo llesiant y plentyn; a
  • chanfod a rhoi sylw i ddymuniadau a theimladau'r rhai sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn (os yw'r plentyn o dan 16 oed)

Yn achos plant a phobl ifanc ar eu pen eu hunain sy’n ceisio lloches, bydd rhaid i ymarferwyr awdurdodau lleol edrych ar ffyrdd creadigol o sicrhau eu bod yn cyflawni'r ddyletswydd i hyrwyddo llesiant y plentyn yn llawn. Mae’n debygol y bydd rhwystrau ieithyddol i’w goresgyn er mwyn sicrhau bod y plentyn a'r rhai sydd â chyfrifoldeb rhiant yn gallu cyfleu eu barn yn glir ac yn llawn a mynegi'r hyn sy'n bwysig iddynt. Mae’n debygol y bydd angen darparu cyfieithwyr a chymorth i alluogi unigolion i gymryd rhan lawn mewn trafodaethau gyda'r awdurdod lleol.

Bydd myfyrio ar gredoau diwylliannol y plentyn/person ifanc dan sylw, a bod yn ystyriol ohonynt, yn hanfodol hefyd, yn ogystal â chynnal perthnasoedd teuluol a galluogi teuluoedd i aros gyda'i gilydd lle bynnag y bo modd. Byddai hyn yn cynnwys cefnogi’r plentyn/person ifanc gyda threfniadau i’w aduno â’i deulu (5) ac olrhain ei deulu drwy ddefnyddio gwasanaethau megis gwasanaeth olrhain teuluoedd rhyngwladol y Groes Goch Brydeinig. (6)

Er efallai na fydd hi bob amser yn ymarferol bosibl (neu'n ddymunol) bodloni'r holl ddymuniadau a fynegwyd gan y plant a’r bobl ifanc, mae'n bwysig bod ymarferwyr yn gallu dangos tystiolaeth eu bod wedi ystyried y materion hyn yn llawn.

Pryd mae'n rhaid i awdurdod lleol gwblhau asesiad o blentyn ar ei ben ei hun sy’n ceisio lloches

Plant sydd angen gofal a chymorth

Mae'r term "plentyn mewn angen", a geir yn adran 17 o Ddeddf Plant 1989 yn Lloegr, wedi'i ddisodli yng Nghymru i bob pwrpas gyda'r cysyniad o "blentyn sydd angen gofal a chymorth". Nid oes diffiniad penodol yn y Ddeddf o ystyr "gofal a chymorth" gan mai'r bwriad yw rhoi dehongliad eang iawn i hyn.

Efallai mai dim ond cymorth sydd ei angen ar blentyn neu efallai y bydd angen gofal a chymorth arno. (7) Mae dyletswyddau a phwerau awdurdodau lleol tuag at blant sydd angen gofal a chymorth yn cynnwys:

  1. Dyletswydd i asesu (adran 21 o'r Ddeddf).
  2. Dyletswydd i ddiwallu anghenion gofal a chymorth (adran 37 o'r Ddeddf).
  3. Pŵer i ddiwallu anghenion gofal a chymorth (adran 38 o'r Ddeddf).

Dylai awdurdodau lleol ystyried pob achos o blant ar eu pen eu hunain sy’n ceisio lloches yng ngoleuni amgylchiadau penodol y plant dan sylw. 

Dyletswydd i asesu anghenion

Ceir dyletswydd yr awdurdod lleol i asesu angen plentyn am ofal a chymorth yn adran 21 o'r Ddeddf.

Mae'r sbardun ar gyfer cwblhau asesiad wedi'i osod ar lefel isel. Os yw'n ymddangos efallai bod angen gofal a chymorth ar y plentyn ar ben neu yn lle'r hyn a ddarperir gan ei deulu (ac mae hyn yn debygol iawn yn achos plant a phobl ifanc ar eu pen eu hunain sy’n ceisio lloches), rhaid i'r awdurdod lleol gwblhau asesiad. Gelwir yr asesiad yn "asesiad o anghenion" a'i ddiben yw penderfynu a oes angen gofal a chymorth ar y plentyn ac, os felly, beth yw'r anghenion hynny. 

Rhagdybir bod angen gofal a chymorth ar ben neu yn lle'r gofal a'r cymorth a ddarperir gan ei deulu ar blentyn anabl.(8) 

Mae gan blentyn yr ymddengys fod ganddo anghenion gofal a chymorth hawl i gael asesiad ar sail yr angen hwnnw, a dylai'r asesiad fod yn gymesur â'r cais am asesiad a/neu'r angen amlwg. Mewn achos brys sy'n ymwneud â phlentyn heb unman i aros dros nos, gallai hyn olygu y byddai'n rhaid diwallu ei anghenion uniongyrchol am gysgod a llety tra bo'r asesiad cyffredinol o anghenion yn parhau. Mae gan yr awdurdod lleol y pŵer i ddiwallu anghenion plentyn waeth a yw'n preswylio fel arfer yn ei ardal ai peidio a chyn cwblhau'r asesiad o anghenion ei hun. (9)

Rhaid i'r plentyn gael ei weld at ddibenion cwblhau'r asesiad; gall hyn olygu yr asesydd yn arsylwi ar y plentyn neu, yn amodol ar ei oedran a'i ddealltwriaeth, yn cyfathrebu'n uniongyrchol â nhw.

Nid yw'r ddyletswydd i asesu o dan adran 21 (10) yn gymwys i blant sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol yng Nghymru, Lloegr neu'r Alban neu gan Ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Ngogledd Iwerddon.

Pa awdurdod lleol sy'n cwblhau'r asesiad o anghenion?

Mae'r ddyletswydd yn ddyledus i'r plant hynny sy'n preswylio fel arfer yn ardal yr awdurdod lleol a'r rhai sy'n bresennol yn gorfforol yn ardal yr awdurdod lleol. (11) Y rheswm am hyn yw er mwyn galluogi awdurdodau lleol i fod yn rhagweithiol wrth ddarparu gwasanaethau ac annog awdurdodau lleol i weithredu heb ofni cyfrifoldeb hirdymor dros blant o'r tu allan i'w hardal. Dylai awdurdodau lleol gofio bob amser fod rhaid i lesiant y plentyn unigol fod wrth wraidd yr holl benderfyniadau a wneir ac unrhyw gamau a gymerir.

Os yw teulu eisoes yn hysbys i awdurdod lleol neu eisoes yn derbyn gwasanaethau ganddo, gallai fod yn ddefnyddiol cysylltu â'r awdurdod lleol hwnnw yn y lle cyntaf oherwydd efallai fod gan yr awdurdod lleol penodol hwnnw rywfaint o wybodaeth am amgylchiadau'r teulu ac efallai y gallai ymateb yn gynt i unrhyw gais am asesiad (cyn belled â'i fod yn preswylio fel arfer yn ardal yr awdurdod lleol hwnnw neu fod y plentyn yn bresennol yn gorfforol yn ei ardal).

Mae'r ddyletswydd i asesu yn berthnasol waeth beth fo barn yr awdurdod lleol am lefel angen y plentyn am ofal a chymorth neu lefel adnoddau ariannol y plentyn neu unrhyw berson â chyfrifoldeb rhiant.

Beth mae'n rhaid i'r asesiad o anghenion ei gwmpasu?

Rhaid i'r asesiad edrych ar anghenion datblygiadol y plentyn a nodi'r canlyniadau dymunol i'r plentyn, o siarad â'r plentyn (yn amodol ar oedran a dealltwriaeth) a'r bobl hynny sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn (gan ragdybio bod hyn yn gyson â'r angen i hyrwyddo llesiant y plentyn). Gallai enghreifftiau o rai o'r canlyniadau tebygol gynnwys canlyniadau sy'n ymwneud â datblygiad corfforol, cymdeithasol neu ymddygiadol ac, i blant hŷn, canlyniadau mewn perthynas â sgiliau hunanofal, mynediad at addysg neu hyfforddiant a llety.

Rhaid i'r asesiad amlinellu'r gwasanaethau a'r categori gwasanaeth y gellid ei gynnig i gyflawni'r canlyniadau a nodwyd neu unrhyw anghenion eraill a nodwyd gan yr asesiad. Gallai'r categorïau priodol amrywiol o ran gwasanaeth gynnwys darparu gofal a chymorth, cynnig gwasanaethau ataliol neu ddarparu gwybodaeth, cyngor neu gymorth.  Gallai cyfuniad o'r gwasanaethau hyn fod yn briodol hefyd (e.e. efallai y bydd person ifanc yn gallu diwallu rhai anghenion cymdeithasu drwy fynd i glwb ieuenctid, ac efallai y bydd angen cynllun gofal a chymorth a reolir i ddiwallu anghenion addysg ac iechyd a nodwyd ar wahân).

Dylai asesiadau edrych ar unrhyw ffactorau eraill neu amgylchiadau eraill a allai effeithio ar lesiant y plentyn (12) ac asesu a allai materion eraill gyfrannu at gyflawni'r canlyniadau neu anghenion eraill a nodwyd (ac, os felly, i ba raddau). Mae’n debygol y bydd materion o'r fath yn cynnwys cefnogi cais y plentyn/person ifanc am loches a darparu llety priodol.

Wrth gynnal yr asesiad, mae'n bwysig helpu’r plentyn/person ifanc i rannu mor agored ac onest â phosibl yr holl wybodaeth sydd ar gael am ei amgylchiadau gyda'r awdurdod lleol. Byddai hyn yn cynnwys sicrhau copïau o unrhyw ddogfennau adnabod swyddogol neu waith papur arall gan y Swyddfa Gartref.

Disgwylir y dylid cwblhau asesiad cynhwysfawr o angen plentyn o fewn 42 diwrnod gwaith i'r atgyfeiriad.

Pŵer unigolyn i wrthod asesiad o anghenion

Nid yw’r gyfraith yn rhagdybio y bydd gan blant o dan 16 mlwydd oed y galluedd i benderfynu gwrthod asesiad o anghenion o dan adran 21 o’r Ddeddf. Fodd bynnag, bydd awdurdod lleol yn cael ei ryddhau o’i ddyletswydd i asesu pan fydd wedi’i fodloni bod gan blentyn o dan 16 mlwydd oed ddealltwriaeth ddigonol i wneud penderfyniad deallus i wrthod yr asesiad. Byddai’n rhaid i ymarferwyr fod wedi’u bodloni bod y person ifanc yn deall canlyniadau gwrthod asesiad yn llawn – canlyniadau a allai fod yn bellgyrhaeddol o ran yr effaith ar ei lesiant – a chofnodi’r rhesymau dros hyn yn fanwl.

Gall person sydd â chyfrifoldeb rhiant hefyd wrthod asesiad o anghenion ar ran plentyn o dan 16 mlwydd oed, ond byddai’n rhaid i’r awdurdod lleol fod wedi’i fodloni bod gan y person hwnnw alluedd i wneud y penderfyniad ar ran y plentyn a’i fod yn deall y byddai’r penderfyniad i beidio â chynnal asesiad yn anghyson â llesiant y plentyn.

Beth mae'n rhaid i awdurdod lleol ei wneud mewn perthynas â diwallu anghenion?

Mae gan awdurdodau lleol bwerau i ddiwallu pob angen, ond dim ond o dan rai amgylchiadau y maent o dan ddyletswydd i ddiwallu anghenion asesedig.

Dyletswydd i ddiwallu anghenion

Mae'r ddyletswydd i ddiwallu anghenion plant yn eang. Os yw'r plentyn yn bresennol yn ardal yr awdurdod lleol ac na fydd y plentyn yn cael ei ddiogelu rhag cael ei gam-drin neu ei esgeuluso (neu risg o gael ei gam-drin neu ei esgeuluso) neu niwed arall (neu rhag risg o niwed o'r fath), mae dyletswydd gyfreithiol gadarnhaol ar yr awdurdod lleol i ddiwallu anghenion a nodwyd y plentyn. Yn achos plant ar eu pen eu hunain sy’n ceisio lloches, mae'n gwbl bosibl y gallent fod yn wynebu risg o gael eu cam-drin, eu hesgeuluso neu niwed arall. Yn y sefyllfaoedd hynny, rhaid i'r awdurdod lleol weithredu a diwallu'r anghenion hynny drwy ddarparu gwasanaethau priodol.

Bydd dyletswydd ar yr awdurdod lleol hefyd i ddiwallu anghenion penodol a nodwyd plentyn os yw'r plentyn yn ardal yr awdurdod lleol a bod ei anghenion yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd. (13) 

Bydd angen a nodwyd yn dod o dan y meini prawf cymhwysedd os yw'n dod o dan unrhyw un o'r amgylchiadau canlynol:-

  1. Mae'r angen yn deillio o salwch corfforol neu feddyliol y plentyn, ei oedran, anabledd, dibyniaeth ar alcohol neu gyffuriau neu amgylchiadau tebyg eraill, neu mae'r angen yn un sy'n debygol o gael effaith andwyol ar ddatblygiad y plentyn os na chaiff ei ddiwallu.
     
  2. Mae'r angen yn ymwneud ag un neu fwy o'r canlynol:
  • y gallu i gyflawni arferion hunanofal neu ddomestig
  • y gallu i gyfathrebu
  • diogelwch rhag camdriniaeth neu esgeulustod
  • cymryd rhan mewn gwaith, addysg, dysgu neu weithgareddau hamdden
  • cynnal neu ddatblygu perthnasoedd teuluol neu berthnasoedd personol arwyddocaol eraill
  • datblygu a chynnal perthnasoedd cymdeithasol a chyfranogiad yn y gymuned; neu
  • gyflawni nodau datblygiadol
  1. Mae'r angen yn un na all y plentyn, rhieni'r plentyn na phobl eraill sydd mewn rôl rhiant ei ddiwallu, naill ai:
  • ar eu pen eu hunain neu gyda'i gilydd
  • gyda gofal a chymorth eraill sy'n barod i ddarparu'r gofal a'r cymorth hwnnw, neu
  • gyda chymorth gwasanaethau yn y gymuned y mae gan y plentyn, y rhieni neu bobl eraill sydd mewn rôl rhiant fynediad atynt

ac os yw'r plentyn yn annhebygol o gyflawni un neu fwy o ganlyniadau personol y plentyn oni bai bod yr awdurdod lleol yn darparu neu'n trefnu gofal a chymorth i ddiwallu'r angen neu os yw'r awdurdod lleol yn galluogi bod modd i’r angen gael ei ddiwallu drwy wneud taliadau uniongyrchol.

Ffyrdd y gall awdurdod lleol ddiwallu anghenion

Mae adran 34 o'r Ddeddf yn nodi'r ffyrdd posibl y gall awdurdod lleol ddiwallu anghenion gofal a chymorth plentyn, ond nid yw'n nodi sut yn union y dylid gwneud hyn. Mae'r pwerau'n eang ac yn hyblyg fel bod yr awdurdod lleol yn gallu ymateb i anghenion penodol ac amgylchiadau cyffredinol y plentyn/person ifanc.

Gall yr awdurdod lleol ddarparu'r gwasanaethau ei hun neu drefnu i'r gwasanaethau gael eu darparu drwy berson neu sefydliad arall. Gallai methu ag edrych ar anghenion y plentyn/person ifanc mewn modd cyfannol a rhoi ystyriaeth lawn i'r holl ffactorau sy'n mynd tuag at wella ei lesiant olygu methu â chyfarwyddo'r cymorth cywir yn y ffyrdd cywir ar yr adegau cywir.

Yr allwedd yw y dylai pa bynnag gymorth a ddarperir ddiwallu'r anghenion gofal a chymorth penodol a nodwyd.

Dyletswydd i ddarparu eiriolaeth – hawl plentyn i eiriolwr  

Caiff “gwasanaethau eirioli” eu diffinio yn y Ddeddf (14) fel gwasanaethau sy’n darparu cynhorthwy (ar ffurf cynrychiolaeth neu fel arall) i bersonau at ddibenion sy’n ymwneud â’u gofal a chymorth.

Mae sawl darpariaeth yn y Ddeddf sy’n caniatáu i awdurdod lleol benderfynu darparu gwasanaethau eirioli. Er enghraifft, gallai awdurdod lleol benderfynu darparu gwasanaethau eirioli fel ffordd o ddiwallu anghenion gofal a chymorth plentyn a gafodd eu nodi. (15)

Mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ddarparu eiriolwr i blentyn ar ei ben ei hun sy’n ceisio lloches, sy’n ‘derbyn gofal’ ac sy’n cyflwyno, neu’n bwriadu cyflwyno, sylwadau (gan gynnwys cwynion) ynglŷn â’r ffordd y mae’r awdurdod lleol wedi cyflawni ei ddyletswyddau. (16) 

Mae’r ‘Cynnig Gweithredol’ o eiriolaeth annibynnol ar gael ledled Cymru ac mae’n cael ei roi ar waith drwy ddarparwyr gan gynnwys Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol Cymru. Mae gan blant hawl i gynnig gweithredol o eiriolaeth gan eiriolwr proffesiynol annibynnol statudol pan fyddant yn dechrau derbyn gofal – mae’r hawl hon yn cynnwys plant ar eu pen eu hunain sy’n ceisio lloches ac sy’n dechrau derbyn gofal.(17) Mae eiriolaeth statudol ar gael i blant sy’n derbyn gofal a phlant sy’n gadael gofal, ac sy’n ceisio lloches, hyd at 25 mlwydd oed (cyhyd â’u bod mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant). 

Gellir darparu eiriolaeth ‘Cynnig Gweithredol’ yn ogystal i blant sy’n ceisio lloches nad ydynt yn ‘derbyn gofal’ ond a allai fod ag anghenion gofal a chymorth ac sy’n bwriadu cyflwyno sylwadau (gan gynnwys cwynion) ynglŷn â’r ffordd y mae’r  awdurdod lleol wedi cyflawni ei ddyletswyddau (18). Mae hyn yn cyd-fynd â’r gofyniad yn y Cod Ymarfer i eiriolaeth gael ei threfnu ar gyfer ‘plentyn sy’n derbyn gofal, neu blentyn nad yw’n derbyn gofal ond a allai fod ag anghenion gofal a chymorth. (19)

Pan fo person ifanc wedi’i asesu gan yr awdurdod lleol (neu’r Swyddfa Gartref) i fod dros 18 mlwydd oed, darperir eiriolaeth ‘anghydfod oed’ gan Tros Gynnal Plant (TGP Cymru). (20)

Dyletswydd i gefnogi’r rhai sy’n gadael gofal

Mae gan bobl ifanc ar eu pen eu hunain sy’n ceisio lloches hawl i gymorth gan eu hawdurdod lleol yn y cyfnod sy’n arwain at adael gofal a phan fyddant yn gadael gofal. (21) Mae’r cymorth hwnnw’n cynnwys paratoi asesiad o anghenion, llunio cynllun llwybr (y dylid ei adolygu’n rheolaidd) a phenodi Cynghorydd Personol i ddarparu cymorth parhaus. Dylai’r gwaith cynllunio llwybr gynnwys parhau i ddarparu cymorth gydag unrhyw gais cyfredol am loches a gweithio’n rhagweithiol tuag at ei gwblhau. Dylai cynlluniau fod wedi’u seilio ar amcanion byrdymor, cyraeddadwy ar gyfer y person ifanc tra mae ei statws mudo yn aneglur. Dylid hefyd lunio cynllun mwy hirdymor ar gyfer y posibilrwydd bod y person ifanc yn cael caniatâd i aros yn y wlad, gan gynnwys gwybodaeth ynglŷn â chymorth yn y gymuned. Os na roddir caniatâd, gan gynnwys ar ôl apelio a mynd ar drywydd hawliau apelio, dylid llunio cynllun i’r person ifanc ddychwelyd i’w wlad wreiddiol.

A ellir helpu'r person ifanc i ddychwelyd i'w wlad wreiddiol?

Bydd angen i awdurdodau lleol ystyried a ellid osgoi torri hawliau dynol drwy ddychwelyd y person ifanc i'w wlad wreiddiol, neu a fyddai gwneud hynny’n torri hawliau dynol. Os gall yr awdurdod lleol gyflawni ei ddyletswydd fel hyn, ni ddarperir cymorth hirdymor. I asesu a ellir osgoi torri hawliau dynol, bydd angen i awdurdodau lleol ystyried yr wybodaeth yn y Canllawiau Gwledydd a gyhoeddir gan y Swyddfa Gartref. (22) a hefyd RefWorld (23). Byddai angen cynnal asesiad o hawliau dynol, gan ddadansoddi a yw unrhyw rai o’r eithriadau i’r cyfyngiadau yn berthnasol.

Weithiau, gallai'r unig rwystr i ddychwelyd y person ifanc fod yn rhwystr ymarferol megis methu â fforddio'r costau teithio. Os felly, gall yr awdurdod lleol atgyfeirio’r achos at dimau Dychwelyd yn Wirfoddol â Chymorth y Swyddfa Gartref a all ddarparu costau teithio ac arian parod i’r unigolyn pan fydd yn cyrraedd ei wlad wreiddiol. Gallai’r awdurdod lleol hefyd gynnig talu'r costau teithio dychwelyd ei hun neu gefnogi'r person ifanc dros dro wrth weithio gydag asiantaethau eraill i hwyluso'r broses o ddychwelyd adref.

Gallai rhesymol cyfreithiol neu ymarferol sy'n atal person ifanc rhag dychwelyd i'w wlad wreiddiol gynnwys:

  • bod y person ifanc yn disgwyl penderfyniad gan y Swyddfa Gartref ar ei gais am ganiatâd i aros a bod y cais yn seiliedig ar resymau hawliau dynol heb fod yn anobeithiol nac yn gamdriniol (24)
  • bod y person ifanc yn apelio yn erbyn penderfyniad mewnfudo (nad yw'n anobeithiol nac yn gamdriniol) neu wedi cychwyn hawliad am adolygiad barnwrol; neu
  • fod rhesymau dilys pam na all ddychwelyd i'w wlad wreiddiol (e.e. mewn cyfnod beichiogrwydd hwyr neu resymau meddygol eraill sy'n golygu na all deithio)

Os nad yw'r asesiad o hawliau dynol yn nodi unrhyw broblemau gyda dychwelyd, gall yr awdurdod lleol helpu'r person ifanc i ddychwelyd. Dylai’r awdurdod lleol ddarparu llety neu gymorth ariannol tra bo unrhyw drefniadau yn cael eu cwblhau.

Troednodiadau

(1) Adran 15(1) o'r Ddeddf

(2) [Mae gan 'lles' yr un ystyr ag yn adran 1(3) o Ddeddf Plant 1989 – (a) the ascertainable wishes and feelings of the child concerned (considered in light of his age and understanding); (b) the child’s physical, emotional and educational needs; (c) the likely effect on him of any change in circumstances; (d) his age, sex, background and any characteristics of his considered relevant; (e) any harm he has suffered or is at risk of suffering; (f) how capable each of his parents, and any other person in relation to whom the court considers the question to be relevant, is of meeting his needs; (g) the range of powers available to the court under the Act in the proceedings in question.

(3) Adran 5 o'r Ddeddf

(4) Adran 6 o'r Ddeddf

(5) https://commonslibrary.parliament.uk/research-briefings/cbp-7511/

(6) https://www.redcross.org.uk/get-help/find-missing-family

(7) Adran 4 o'r Ddeddf

(8) Adran 3(5) o'r Ddeddf sy'n diffinio "anabl" fel person ag anabledd at ddibenion Deddf Cydraddoldeb 2010

(9) Adran 38 o'r Ddeddf

(10) Mae adran 21(8) yn darparu nad yw’r ddyletswydd i asesu o dan adran 21 yn gymwys mewn perthynas â phlentyn sy’n derbyn gofal gan fod y dyletswyddau sy’n ddyledus i blant sy’n derbyn gofal yn cael eu nodi ar wahân yn Rhan VI o’r Ddeddf. Mae angen i ymarferwyr fod yn ymwybodol o’r dyletswyddau cyfreithiol gwahanol sy’n gymwys gan ddibynnu ar statws cyfreithiol y plentyn.

(11) Adran 21(2) o'r Ddeddf.

(12) Adran 21(4)(e) o'r Ddeddf

(13) Adran 37 a Rheoliadau Gofal a Chymorth (Cymhwystra) (Cymru) 2015

(14) Gweler adran 181(2) o’r Ddeddf

(15) Mae adran 34(2)(e) yn cynnwys eiriolaeth yn benodol fel enghraifft o’r ffyrdd y gallai awdurdod lleol ddiwallu anghenion plentyn ar gyfer gofal a chymorth

(16)] Gweler adran 178 o’r Ddeddf pennod 20  https://llyw.cymru/sites/default/files/publications/2019-12/deddf-gwasanaethau--cymdeithasol-a-llesiant-cymru-2014-cod-ymarfer-rhan-10-eiriolaeth.pdf

(17) Pennod 20  https://llyw.cymru/sites/default/files/publications/2019-12/deddf-gwasanaethau--cymdeithasol-a-llesiant-cymru-2014-cod-ymarfer-rhan-10-eiriolaeth.pdf

(18) Gallai’r sylwadau ymwneud â’r ffordd y mae’r awdurdod lleol efallai wedi asesu anghenion y plentyn, sut y mae’r awdurdod lleol yn bwriadu diwallu unrhyw anghenion a nodwyd neu’r ffordd y mae’r awdurdod lleol efallai wedi cyflawni ei ddyletswyddau tuag at blant sy’n derbyn gofal/sy’n cael eu lletya neu wedi cyflawni ei ddyletswyddau diogelu.

(19) Paragraff 103 https://llyw.cymru/sites/default/files/publications/2019-12/deddf-gwasanaethau--cymdeithasol-a-llesiant-cymru-2014-cod-ymarfer-rhan-10-eiriolaeth.pdf

(20) https://www.tgpcymru.org.uk/cy/beth-rydyn-nin-ei-wneud/rhaglen-ffoaduriaid-a-cheiswyr-lloches-ifanc/

(21) Adran 73 https://gov.wales/sites/default/files/publications/2019-05/part-6-code-of-practice-looked-after-and-accommodated-children.pdf

(22) https://www.gov.uk/government/collections/country-policy-and-information-notes

(23) https://www.refworld.org

(24) Achos yn y Llys Apêl - Birmingham City Council v Clue [2010] EWCA Civ 460. Edrychodd yr achos ar gwmpas dyletswydd awdurdod lleol i ddarparu cynhorthwy a chymorth ariannol i deulu wrth ddisgwyl canlyniad cais am ganiatâd amhenodol i aros yn y DU ac roedd y cais yn codi materion hawliau dynol. Penderfynodd y Llys y dylai’r awdurdod lleol fod wedi ystyried a oedd y teulu yn ddiymgeledd ac os felly, a oedd y cais am ganiatâd yn gamdriniol neu’n anobeithiol. Os nad oedd y cais yn anobeithiol neu’n gamdriniol, ni ddylai’r awdurdod lleol fod wedi gwrthod cynhorthwy.