Neidio i'r prif gynnwy

Brexit heb gytundeb yw’r sefyllfa waethaf un ac mae’n gwbl annerbyniol – dyma fydd neges y Prif Weinidog Mark Drakeford heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Ionawr 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd yn annerch cynhadledd Busnes Brexit Fforwm Busnes Glannau Dyfrdwy yn Theatr Clwyd.

Cyn y digwyddiad dywedodd Mark Drakeford:

“Rydyn ni wedi cyrraedd cam allweddol ym mhroses Brexit ac mae’r neges gan Lywodraeth Cymru yn glir, mae Brexit heb gytundeb yn gwbl annerbyniol a rhaid ei ddiystyru fel opsiwn.  

“Mae gweithgynhyrchu’n allweddol bwysig i Lannau Dyfrdwy. Mae Airbus yn unig yn cyflogi 6,000 o bobl, Toyota 600 a’u cyflenwyr filoedd yn rhagor. Fel mae Airbus a sawl cwmni arall wedi datgan yn glir, byddai canlyniad o ddim cytundeb – a fyddai’n tarfu’n ddifrifol ar gadwyni cyflenwi – yn drychinebus.              

“Mae’n glir y byddai Brexit heb gytundeb yn hynod niweidiol i Ogledd Cymru a rhaid osgoi hynny’n llwyr.  

“Ond hefyd rhaid wrth gytundeb sy’n rhoi’r sicrwydd tymor hir y mae arno ei angen i’r byd busnes. Nid cytundeb fel yr un gan Lywodraeth y DU, sydd ond yn gohirio, ac nid yn dileu, y bygythiad o fod ar ymyl clogwyn.  

“Nid yr UE yw gwraidd y broblem, ond y ffaith bod Llywodraeth y DU yn gwrthod ymrwymo i barhau i fod yn rhan o’r Farchnad Sengl a’r Undeb Tollau, ffurf ar Brexit y byddai’r UE wedi’i ffafrio oni bai am linellau coch y Prif Weinidog.          

“Mae ein neges ni i Lywodraeth y DU yn glir, rhaid cael gwared ar y llinellau coch, mynd yn ôl at y bwrdd o ran y berthynas dymor hir a rhoi’r sicrwydd sydd ei angen ar fusnesau.”