Neidio i'r prif gynnwy

Canllawiau ar gyfer prosiectau gan fod y DU bellach wedi ymadael â’r UE.

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Mehefin 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Crynodeb

Nid oes unrhyw newid i’r trefniadau presennol ar gyfer prosiectau cyfredol a ariennir gan yr UE.

Nid yw’r ffordd y caiff y prosiectau eu rheoli wedi newid. Mae hyn yn cynnwys:

  • cyflwyno a thalu hawliadau
  • rheoli camau dilysu
  • cadw cofnodion

Dylai prosiectau barhau i ddefnyddio WEFO Ar-lein i gyflwyno a diweddaru gwybodaeth.

Bydd prosiectau yn parhau i gael cyllid gan yr UE hyd nes y bydd y rhaglenni hynny’n cau yn 2023.

Mae hyn yn cynnwys:

  • Rhaglenni’r Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd (Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a Chronfa Gymdeithasol Ewrop)
  • Rhaglenni Cydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd
  • Rhaglen Iwerddon Cymru

Mae’r dyddiad cau presennol ar gyfer cyflawni’r rhaglenni, sef 31 Rhagfyr 2023, yn parhau heb ei newid.

Prosiectau sydd wrthi'n cael eu cyflawni

Bydd prosiectau yn parhau i gael eu cyflawni yn unol â’u cynlluniau busnes cymeradwy, eu proffiliau cyflawni ac fel y nodir o fewn cytundebau cyllid unigol.

Prosiectau a gymeradwywyd ac sy'n cael cyllid

Bydd holl reolau a rheoliadau presennol yr UE yn parhau mewn grym.

Horizon 2020

Cewch wybodaeth am gyllid Horizon Europe yma.

Cydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd a Rhaglen Gydweithredu Iwerddon-Cymru

Bydd cyllid yr UE ar gyfer sefydliadau yn y DU sy’n rhan o’r rhaglenni hyn yn parhau hyd nes y bydd rhaglenni’n cau.

Rheolau ynglŷn â rhannu data personol rhwng yr UE a'r DU

Mae’r UE wedi cymeradwyo penderfyniadau ynghylch digonolrwydd ar gyfer GDPR yr UE a’r Gyfarwyddeb Gorfodi’r Gyfraith (LED). Golyga hyn y gall data gael eu trosglwyddo o hyd o dan y rhan fwyaf o amgylchiadau. Darllenwch y canllawiau gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (Saesneg yn unig).