Rhybuddiodd yr Ysgrifennydd Iechyd mai Brexit heb gytundeb fyddai'r sefyllfa waethaf bosib i gleifion Cymru.
Rhybuddiodd yr Ysgrifennydd Iechyd mai Brexit heb gytundeb fyddai'r sefyllfa waethaf bosib i gleifion Cymru, wrth iddo yntau a’r Gweinidog dros Blant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol, Huw Irranca-Davies ymuno ag arweinwyr iechyd a gofal cymdeithasol Cymru i drafod goblygiadau Brexit ar gyfer y sector.
Elfen ganolog o'r trafodaethau oedd cynllunio wrth gefn rhag ofn na fyddai cytundeb, gan gynnwys sicrhau cyflenwad di-dor o feddyginiaethau a chadarnhau hawliau a statws gwladolion yr UE sy'n gweithio yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol.
Dywedodd Vaughan Gething:
"Mae'r trafodaethau heddiw wedi fy nghalonogi, gan ddangos bod ewyllys ym mhob rhan o'r sector i gydweithio i warchod buddiannau cleifion Cymru.
"Rhaid i Lywodraeth y Deyrnas Unedig wneud mwy i osgoi'r sefyllfa waethaf bosib o weld Brexit heb gytundeb, a allai effeithio'n ddifrifol ar ein gwasanaethau, unigolion, teuluoedd a chymunedau Cymru am amser hir.
"Ond, gan fod popeth mor ansicr ar hyn o bryd, rhaid i ni weithredu mewn ffordd gyfrifol a pharatoi ar gyfer sefyllfa o'r fath. Mae'n sefydliadau ni wedi hen arfer ag edrych ar risgiau a heriau; roedd heddiw yn gyfle i ddod ynghyd a thrafod ein parodrwydd mewn ffordd adeiladol, er mwyn sicrhau - boed Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dod i gytundeb neu beidio - ein bod yn parhau i ddarparu gofal a chymorth o ansawdd uchel i'r rhai sydd eu hangen."
Dywedodd Huw Irranca-Davies:
"Rhaid i ni gydweithio i oresgyn yr heriau mae Brexit yn eu cyflwyno ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol. Roedd y cyfarfod heddiw yn dangos ymrwymiad i wneud hyn, gyda chynrychiolaeth o bob cwr o'r sector.
"Rydyn ni eisoes wedi neilltuo rhywfaint o'n Cronfa Bontio Ewropeaidd i ymchwilio i weld sut gallai proses Brexit effeithio ar y gweithlu gofal cymdeithasol a gofal plant yng Nghymru, a helpu'r sectorau i baratoi ar gyfer unrhyw sefyllfa sy'n codi. Roedd heddiw yn gyfle i glywed yn uniongyrchol gan y rhai o fewn y sector am eu pryderon, a thawelu eu meddyliau ein bod yn gweithio i'w cefnogi i gynllunio ar gyfer gofynion y gweithlu ar ôl Brexit."
Trefnwyd y digwyddiad bord gron gan Gonffederasiwn GIG Cymru, gyda'i haelodau a chynrychiolwyr eraill o bob cwr o'r sector.