Araith gan Jeremy Miles, y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit, ar 17 Mehefin 2019 yn nigwyddiad Canolfan Llywodraethiant Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Mehefin 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhannu’r dudalen hon

Bore da. Rwy’n falch iawn o’r cyfle i gymryd rhan yn y digwyddiad hwn heddiw. Ga' i ddechrau drwy ddiolch i Ganolfan Llywodraethiant Cymru am drefnu'r drafodaeth hon, ac i bob cyfrannwr sydd wedi gwneud yr ymdrech i fod yma heddiw. Roedd gen i ddiddordeb mawr yng nghyflwyniad Akash ac Aron ar 20 mlynedd o ddatganoli, ac rwy’n edrych ymlaen at wrando ar yr hyn sydd gan y cyfranwyr eraill i’w ddweud yn ystod y bore.   

Mae’n ddwy flynedd ers cyhoeddi ‘Brexit a Datganoli’, un mewn cyfres o bapurau polisi a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, yn adeiladu ar y themâu a amlinellwyd yn wreiddiol yn ‘Diogelu Dyfodol Cymru'. 

‘Brexit a Datganoli’ oedd ein hymateb ni i oblygiadau Brexit i'r setliad datganoli, o ran y berthynas rhwng y llywodraethau a chyfansoddiad y Deyrnas Unedig. 

Ar ôl tair blynedd o wastraffu amser mewn negodiadau di-ffrwyth ar ran Llywodraeth y DU, rydyn ni'n debygol nawr o wynebu dewis rhwng Brexit heb gytundeb ac aros yn yr Undeb Ewropeaidd. Rydyn ni wedi penderfynu ei bod yn bryd mynd nôl at y bobl. Rydyn ni'n galw ar y Senedd yn San Steffan i ddeddfu ar gyfer refferendwm, a byddwn yn ymgyrchu yn gadarn i aros yn yr Undeb Ewropeaidd.  

Ond p'un a fyddwn ni’n ymadael â'r Undeb Ewropeaidd neu’n aros, mae angen diwygio'r berthynas rhwng y llywodraethau yn sylfaenol ar frys nawr.

Hyd yn oed cyn y refferendwm, roedd y strwythurau rhynglywodraethol yn gwegian, a dweud y lleiaf. Fe ddaeth yn amlwg yn gyflym iawn y byddai penderfyniad y Deyrnas Unedig i ymadael â’r Undeb Ewropeaidd, heb sôn am ganlyniadau hynny, yn ddigon ar ei ben ei hun i olygu bod angen newid yn sylfaenol y ffordd y mae llywodraethau’r Deyrnas Unedig yn cydweithio.   


Felly, roedd 'Brexit a Datganoli' yn cyflwyno ein gweledigaeth ar gyfer dyfodol datganoli a chysylltiadau rhynglywodraethol.  Fe wnaethom ni alw am Gyngor Gweinidogion y Deyrnas Unedig, ac am ffordd well o ddatrys anghydfodau. Er mwyn helpu i adeiladu'r strwythurau cadarn ry'n ni'n credu sydd eu hangen, roedden ni'n argymell sefydlu ysgrifenyddiaeth annibynnol, yn seiliedig o bosib ar yr hyn sydd eisoes yn bodoli ar gyfer y Cyngor Prydeinig Gwyddelig. Ac fe wnaethon ni alw am gonfensiwn cyfansoddiadol ar gyfer y Deyrnas Unedig, i ystyried sut y mae angen i gyfansoddiad y Deyrnas Unedig newid. 

Ni oedd y weinyddiaeth gyntaf, a'r unig weinyddiaeth hyd yma, i gyflwyno gweledigaeth ar gyfer llywodraethiant y Deyrnas Unedig yn y dyfodol. Ond rwy'n edrych ymlaen yn eiddgar at weld Llywodraeth yr Alban yn cyhoeddi ei gweledigaeth hithau ar gyfer y berthynas rhwng llywodraethau'r Deyrnas Unedig. 

Pan gyhoeddwyd ‘Brexit a Datganoli’, doedden ni ddim yn honni bod gennym ateb i bopeth – roedd yn ffordd o gychwyn y drafodaeth yr oedd angen ei chael a cheisio dylanwadu arni ar sail egwyddor. Fe ddywedom ni: dyma’r materion ry’n ni’n eu hwynebu yn sgil Brexit, dyma’r rhesymau pam na fydd y peirianwaith rhynglywodraethol sydd gennym ar hyn o bryd yn gweithio mwyach, a dyma ry’n ni’n ei gynnig er mwyn newid pethau. 

Roedd hyn o gymorth i osod y trywydd wrth inni ddatblygu ein syniadau a dechrau ar daith gyfansoddiadol anodd.  

Ddwy flynedd yn ddiweddarach, beth sydd wedi newid? Yr ateb byr yw, dim digon. Wrth inni sefyll yma heddiw, smotyn ar y gorwel yw'r gyrchfan a ddisgrifiwyd gennym ni o hyd. Rwy' am siarad am oblygiadau hynny. Ond, yn gyntaf, gadewch inni gymryd munud neu ddwy i ystyried y camau rydyn ni eisoes wedi eu cymryd hyd yma. 

Hoffwn i ddechrau drwy edrych yn ôl yn fras ar y Bil i Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, a'r Cytundeb Rhynglywodraethol a oedd yn gysylltiedig ag ef. Efallai bod hyn yn hen hanes ym marn rhai. Ond rwy'n meddwl bod hyn yn dangos tueddiadau gwaethaf Llywodraeth y Deyrnas Unedig, yn ogystal â'r hyn y gellir ei gyflawni drwy drafodaethau pwrpasol. 

Y cefndir, fel rydych chi'n cofio mae'n siŵr, oedd y cwestiwn o beth ddylai ddigwydd i'r pwerau hynny a oedd yn dod o fewn cymhwysedd datganoledig ond a oedd hyd yma yn cael eu harfer o fewn fframwaith cyfraith yr UE. Ymateb Llywodraeth y Deyrnas Unedig oedd datblygu a chyflwyno Bil Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd a fyddai'n cyfyngu ar ein cymhwysedd deddfwriaethol, gan dybio y dylai’r holl bwerau a fyddai'n dychwelyd o Frwsel aros yn Llundain am gyfnod amhenodol. Aeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig ati i ddatblygu a chyflwyno ei bil heb unrhyw drafodaeth ystyrlon â'r gweinyddiaethau datganoledig. O ran agwedd y Deyrnas Unedig tuag at heriau cyfansoddiadol ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, doedd pethau ddim yn argoeli’n dda. Cawsom hefyd gipolwg pwysig ar reddf gyfansoddiadol Llywodraeth y Deyrnas Unedig pan fydd yn cael ei rhoi o dan bwysau gan ddigwyddiadau sydd y tu hwnt i'w rheolaeth.

Ond, gan weithio gyda Llywodraeth yr Alban, llwyddwyd i ennill consesiynau mawr, ac ymestyn y pwerau sy'n cael eu harfer gan y sefydliadau datganoledig yn sylweddol. Llwyddwyd i sicrhau rhywfaint o reolaeth i ni dros y ffordd y gallai pwerau ym mhob rhan o'r Deyrnas Unedig gael eu rhewi, gan gynnwys ei gwneud yn ofynnol i ddau Dŷ'r Senedd benderfynu ar wahân os ydynt am drechu gwrthwynebiad y gweinyddiaethau datganoledig. Nid yw'r pwerau hynny wedi cael eu defnyddio, wrth gwrs, ac mae Llywodraeth y DU wedi cadarnhau yn y ddau adroddiad sydd wedi eu cyhoeddi ganddi hyd yma nad oes unrhyw reswm ganddi i'w defnyddio. 

Wrth gwrs, nid oedd pawb yn gytûn bod hwn yn ganlyniad da. O bryd i'w gilydd, ry'n ni'n dal i glywed cyhuddiadau di-sail, hollol hurt mewn gwirionedd, ein bod ni wedi ildio cryn dipyn o gymhwysedd deddfwriaethol. Y gwir amdani yw ein bod ni wedi symud Llywodraeth y DU o’r sefyllfa gychwynnol lle’r oedd y bil yn ceisio cadw gafael ar yr holl bwerau fyddai’n dychwelyd, i ddeddf nad yw'n gwneud hynny o gwbl. 

Llwyddwyd i ddylanwadu cryn dipyn ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig, ond fe wnaethon ni hynny drwy fod yn barod i gyfaddawdu ein hunain hefyd. Pe byddem ni wedi mynnu cael ateb perffaith a fyddai'n rhoi popeth roedden ni'n ei ddymuno i ni, mae'n bosib y byddem wedi gorfod bodloni ar lawer llai yn y pen draw. 

Ac fe lwyddwyd i gyflawni llawer mwy drwy gydweithio â Llywodraeth yr Alban nag y byddai'r un ohonon ni wedi'i gyflawni ar ein pennau ein hunain. Rhaid inni beidio ag anghofio fod cysylltiadau rhynglywodraethol yn golygu mwy na'r cysylltiad rhyngon ni a Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn unig, mae'n golygu'r cysylltiad rhwng y gweinyddiaethau datganoledig hefyd. Ac mae ein perthynas ni â'r Albanwyr mor gryf ag erioed. Er bod ein huchelgeisiau cyfansoddiadol yn wahanol iawn, ry'n ni'n cydweithio'n agos ar amrywiaeth eang o faterion. Rydyn ni'n gwneud hynny drwy ganolbwyntio ar y llawer iawn o faterion sy'n gyffredin rhyngon ni, gan gydnabod y bydd ein llwybrau ni, o bryd i'w gilydd, yn mynd i gyfeiriadau gwahanol. 

Rwy'n gwybod bod ein cynigion ar gyfer diwygio rhynglywodraethol yn synhwyrol ac yn realistig ym marn Llywodraeth yr Alban. Rwy'n rhagweld, felly, pan fyddan nhw'n cyhoeddi eu cynigion nhw yn hwyrach yn yr haf, y bydd yna lawer iawn o dir cyffredin rhyngon ni.

Ond, os ga i droi'n ôl nawr at y Ddeddf Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd a'r Cytundeb Rhynglywodraethol – mae digwyddiadau ers hynny wedi dangos bod mwy o werth i'r cytundeb na'r hyn a fwriadwyd yn wreiddiol. Mae wedi bod yn gynsail defnyddiol o ran yr hyn y mae un rhan o Lywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cytuno iddo, wrth drafod â rhan arall. Gall y cynnydd sy'n cael ei wneud mewn un set benodol o amgylchiadau fod yn dempled defnyddiol ar gyfer set arall o amgylchiadau, ac yn wir ar gyfer dull cyffredinol o weithio.

Os ystyriwn ni un enghraifft, yn y Ddeddf Gofal Iechyd (Trefniadau'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir), llwyddon ni i sicrhau gwelliannau i'r bil a chytundeb rhynglywodraethol, sy'n pennu a diogelu rôl y gweinyddiaethau datganoledig i ddatblygu cytundebau gofal iechyd rhyngwladol, a'r rheoliadau sy'n eu gweithredu. Yn yr un modd, o ran y Bil Amaethyddiaeth, ry'n ni wedi cytuno â Llywodraeth y DU ar gytundeb dwyochrog ynglŷn â dosbarthu cymorth amaethyddol. 

Fe wnaethom ni lwyddo i ddylanwadu'n sylweddol ar safbwynt gwreiddiol Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn y ddau achos, a hynny'n rhannol drwy dynnu ar y cynsail a gafwyd gyda'r Cytundeb Rhynglywodraethol cynharach. Ond – ac mae hwn yn "ond" pwysig, o ystyried y feirniadaeth o ambell du o’r Bil Amaethyddiaeth yn arbennig – fe wnaethon ni gydnabod hefyd y byddai'n rhaid inni gyfaddawdu.

Ry'n ni wedi cael llwyddiannau eraill hefyd. Er enghraifft, ry'n ni wedi sicrhau cytundeb i sefydlu’r hyn sydd i bob pwrpas yn Gyd-bwyllgor y Gweinidogion ar Fasnach – un o ofynion allweddol ein papur polisi ar fasnach. Yn dilyn pwysau gan Lywodraeth Cymru, sefydlwyd Cyfarfod Pedairochrog o'r Gweinidogion Iechyd. Cynhaliwyd y cyfarfod cyntaf yn gynharach eleni, ac mae cyfarfodydd 'Pedairochrog' tebyg eraill yn cael eu datblygu mewn meysydd eraill. Yn gyffredinol, mae yna arwyddion cadarnhaol bod rhai rhannau o Whitehall o leiaf wedi dechrau 'ei deall hi'.  

Y broblem yw diffyg cysondeb hynny. Hyd yn oed pan fo cysylltiadau yn gadarnhaol ac yn adeiladol, maen nhw'n or-ddibynnol ar y berthynas rhwng unigolion. Bydd ansawdd y berthynas rhwng unigolion bob amser yn ddimensiwn hanfodol mewn gwleidyddiaeth, ond ar yr un pryd mae hyn yn peri risg mewn adeg o newid.

Mae digon o le i feirniadu’r ffordd y mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ymdrin â'r gweinyddiaethau datganoledig. Ond mae David Lidington, sy'n arwain Llywodraeth y DU ar gysylltiadau cyfansoddiadol â'r gweinyddiaethau datganoledig, bob amser wedi ceisio chwarae rhan gadarnhaol ac adeiladol. Ei ymrwymiad ef i feithrin cysylltiadau sydd i ddiolch, yn rhannol o leiaf, am y cynnydd sydd wedi cael ei weld. 

Ond, mae gweinidogion yn mynd a dod wrth gwrs, ac nid yw system sy'n ddibynnol – hyd yn oed yn rhannol – ar bersonoliaethau unigol ac ar y berthynas rhwng unigolion os yw hi am weithio, yn gadarn nac yn gynaliadwy. A phan fo'r system honno yn ganolog i'r setliad cyfansoddiadol, mae’r seiliau yn ansefydlog iawn. 

Ac mae hynny nawr yn risg go iawn, wrth inni baratoi at benodiad Prif Weinidog a chabinet newydd yn San Steffan – a fydd yn dangos llai o gydymdeimlad o bosibl â phryderon dilys y gweinyddiaethau datganoledig. Dyna pam mae'n bwysig ein bod ni'n adeiladu strwythur llawer cadarnach y gall y llywodraethau ei ddefnyddio fel sylfaen ar gyfer rhyngweithio.  

Dylid seilio cysylltiadau cyfansoddiadol ar strwythurau teg a chadarn ar gyfer gwneud penderfyniadau a datrys anghydfodau, yn hytrach na dibynnu ar berthynas gymodlon.

Mae hyn yn dod â mi at y pellter sydd gennym eto i deithio ar y daith gyfansoddiadol hon. 

Rwy’ am ddarllen darn o baragraff cyntaf y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth ar ddatganoli, 2013, ry’n ni’n parhau i weithredu oddi tano: this memorandum sets out the understanding of, on the one hand, the United Kingdom Government, and on the other, the devolved administrations of the principles that will underlie relations between them. 

Ar yr un llaw, Llywodraeth y DU, ac ar y llaw arall y gweinyddiaethau datganoledig. Mae hyn yn dangos wrth gwrs bod cyfansoddiad y Deyrnas Unedig - ac yn wir, y cysyniad o ddatganoli ei hun - yn seiliedig ar gyfres o sawl perthynas ddwyochrog â Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Perthynas lle mae San Steffan a Whitehall ar y brig, a'r gweinyddiaethau datganoledig oddi tanynt yn hytrach na pherthynas gytbwys rhwng pedair senedd a phedair llywodraeth. 

Ar ben hynny, mae’r cywair a ddefnyddir i ddisgrifio'r berthynas braidd yn elyniaethus – hyn ar un llaw, hyn ar y llall – gan awgrymu bod y gweinyddiaethau datganoledig yn greaduriaid newydd, anwadal, y mae angen eu corlannu a’u rheoli! Yn nyddiau cynnar datganoli, efallai y byddai'n hawdd rhagweld nerfusrwydd o'r fath. Ond mae’r gweithrediaethau a’r deddfwrfeydd datganoledig yn rhan annatod o dirwedd Cymru a’r Deyrnas Unedig erbyn hyn. Byddai’n anodd i bobl o dan 40 ddychmygu byd heb ddatganoli, byd lle cafwyd dau ddegawd o fanteision gwirioneddol i bobl Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.    

Ond mewn sawl ffordd mae agwedd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dal i adlewyrchu’r ieithwedd hynod hen ffasiwn honno. Fel y dywedodd Prif Weinidog Cymru yn ei araith i’r Ganolfan Lywodraethiant y mis diwethaf, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig fel pe bai'n dal i deimlo'n ansicr iawn am ddatganoli. Neu’n waeth na hynny, rhyw agwedd os byddwn ni’n ufudd, y bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig allan o garedigrwydd ei chalon yn rhoi rhywfaint o bwerau hunan lywodraethu inni. Datganoli â’r agwedd "byddwch yn ddiolchgar am yr hyn rydych chi'n ei gael". 

Efallai mai dyna pam, 15 mis yn ddiweddarach, nad oes unrhyw gynnydd gwirioneddol i'w adrodd gan yr adolygiad o gysylltiadau rhynglywodraethol a gomisiynwyd gan Brif Weinidog y Deyrnas Unedig a Phrif Weinidogion datganoledig. Mae’r trefniadau a strwythurau presennol, sy’n annigonol, yn parhau, heb unrhyw gytundeb hyd yn oed ar gynllun ar gyfer eu diwygio. Does dim wedi digwydd ynglŷn â’n galwad am Gyngor Gweinidogion, nac am well trefn ar gyfer datrys anghydfodau. Ac mae hynny’n destun siom aruthrol. 

Mae trafodaethau wedi bod ar y gweill wrth gwrs rhwng swyddogion gydol y cyfnod hwn, ac mae’r berthynas wedi bod yn gadarnhaol os nad yn gynhyrchiol. Ry’n ni wedi gweld rhywfaint o gynnydd, er enghraifft, o ran cytuno ar egwyddorion newydd ar gyfer cysylltiadau rhynglywodraethol, y mae Llywodraeth Cymru yn arwain arnyn nhw. Ond dyw hi ddim yn ddigon da nad yw hyn wedi arwain at strwythur gwell ar gyfer gweithio a gwneud penderfyniadau rhynglywodraethol erbyn hyn.

Rwy'n cydnabod nad yw hi'n broses hawdd: mae gan y gwahanol lywodraethau ddyheadau cyfansoddiadol gwahanol. Mae diffyg arweinyddiaeth wleidyddol yng Ngweithrediaeth Gogledd Iwerddon hefyd yn her. Ond all hynny ddim esgusodi’n llwyr y ffaith nad oes dim wedi newid mewn gwirionedd o ran cynnydd sylweddol ac amlwg ar lawr gwlad.

Os ydym am weld cynnydd gwirioneddol, mae angen ymroddiad o’r newydd, ac ymroddiad cryfach, i’r adolygiad gan Weinidogion y Deyrnas Unedig. Bydd rhaid iddyn nhw ymrwymo i’r ffaith y bydd angen i bob ochr gyfaddawdu, a sicrhau y bydd popeth yn agored i’w drafod, fel bod swyddogion ar bob ochr yn teimlo y gallan nhw gymryd rhan yn y trafodaethau manwl sydd eu hangen. 

Ond yn fwy sylfaenol na hynny, mae angen newid agweddau tuag at ddatganoli fel y dywedodd Prif Weinidog Cymru yn ei araith ym mis Mai, a hynny ar sail parch o'r ddwy ochr a chyfranogaeth gyfartal rhwng y gwahanol lywodraethau, yn hytrach na'r datganoli fel "cymwynas" a welir ar hyn o bryd. Os gwnawn ni hynny, bydd gennym siawns o gyflawni’r newid sydd ei angen. 

I wneud hyn, rhaid deall nad yw'r cysyniad o oruchafiaeth y Senedd – man cychwyn confensiynol unrhyw drafodaeth ar gyfansoddiad Prydain – bellach yn addas i'r diben. Caiff y cysyniad ei gyflwyno yn aml fel mater cyfansoddiadol tragwyddol, nad oes modd ei newid, ond nid yw hyn yn wir. Fe gafodd ei greu ganol yr ail ganrif ar bymtheg, a phwy a ŵyr, efallai y bydd yn cael ei ddisodli yn yr unfed ganrif ar hugain? Mae datganoli yn dangos i ni yng Nghymru bod ffynonellau awdurdod yn ymestyn ymhell y tu hwnt i Senedd y Deyrnas Unedig. Ac mae Brexit wedi dangos hynny yn weddol ddramatig, ar draws y Deyrnas Unedig.  Tra byddwn yn parhau i lynu at gysur cyfansoddiadol goruchafiaeth Senedd y Deyrnas Unedig, byddwn yn methu yn ein tasg o ail-lunio setliad cyfansoddiadol Prydain ar gyfer y 21ain ganrif. 

Neu yr hyn y cyfeiriodd yr Arglwydd Sumption ato yn ei ddarlith Reith yng Nghaerdydd yn ddiweddar, o bosib yn anfwriadol, fel "gwladwriaeth Lloegr".

Gadewch i ni ddweud yn glir, yn ogystal â herio goruchafiaeth Senedd y Deyrnas Unedig, mae Brexit anhrefnus, caotig hefyd yn fygythiad i fodolaeth y Deyrnas Unedig ei hun - rydyn ni'n gwybod yn iawn beth yw dyheadau cyfansoddiadol Llywodraeth yr Alban, ac mae'n debyg bod Gweinidogion Llywodraeth y Deyrnas Unedig hyd yn oed yn rhagweld posibilrwydd o bleidlais ar ffin Iwerddon pe bai hynny'n digwydd. Yn sicr, gallai Brexit caled ddatgymalu'r Deyrnas Unedig. Ac ni fydd diwygiadau rif y gwlith i gysylltiadau rhynglywodraethol yn gallu lliniaru'r risg honno. 

Ond hyd yn oed os llwyddwn ni, drwy ryw ryfedd wyrth, i adael ar yr 31ain gyda chytundeb, dyna pryd y bydd y straen ar ein hadeiladwaith presennol yn dechrau dangos mewn gwirionedd. 

Felly rwy’ am ddirwyn i ben drwy sôn am yr her fawr nesaf i gysylltiadau rhynglywodraethol.  Mae'r posibilrwydd y byddwn yn ymadael â'r Undeb Ewropeaidd yn creu tensiynau newydd a sylfaenol i'n cyfansoddiad a'r berthynas rhwng llywodraethau, o safbwynt yr hyn sy'n digwydd ar y llwyfan rhyngwladol. Gweithredoedd sy'n bwysicach nag erioed wrth i ni ystyried bywyd y tu allan i strwythurau gwleidyddol yr Undeb Ewropeaidd. 

Bydd datrys y tensiwn hwn yn bwysicach nag erioed wrth i ni symud o negodi telerau ein hymadawiad at negodi ein perthynas yn y dyfodol â'r Undeb Ewropeaidd a'r byd yn ehangach. 

Mae’n hawdd disgrifio beth yw’r broblem: mae llunio cytundebau rhyngwladol sy’n rhwymo mewn cyfraith wedi ei gadw yn ôl, ond mae rhoi cytundebau rhyngwladol ar waith wedi ei ddatganoli. 
 
Ond mae mwy o ddadlau ynghylch sut mae sicrhau bod buddiannau datganoledig yn cael eu cynrychioli’n briodol wrth i’r Deyrnas Unedig geisio meithrin cysylltiadau newydd – gyda’r Undeb Ewropeaidd a thu hwnt.  Yn wir, roedd y ffordd yr oedd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn bwriadu llunio cytundebau rhyngwladol a fyddai’n effeithio ar gymhwysedd datganoledig, heb gydnabod buddiannau dilys y gweinyddiaethau datganoledig, yn rhan ganolog o’r anghytuno a fu ar y cychwyn rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig ynghylch y Ddeddf Gofal Iechyd a’r Bil Amaethyddiaeth fel ei gilydd. 

Gadewch i mi ddweud yn glir. Rhaid i’r gweinyddiaethau datganoledig chwarae rhan lawn wrth negodi ein cysylltiadau rhyngwladol yn y dyfodol. Ein barn ni, gan fabwysiadu iaith Confensiwn Sewel, yw na ddylai Llywodraeth y Deyrnas Unedig fel arfer fwrw ymlaen â safbwynt negodi’r Deyrnas Unedig sy’n effeithio ar gymhwysedd datganoledig oni bai bod hynny wedi ei gytuno ymlaen llaw gyda’r gweinyddiaethau datganoledig. A hyd yn oed pan fydd mater wedi'i gadw yn ôl yn llwyr, mae'n aml yn debygol o effeithio ar agweddau o fywyd sydd wedi'u datganoli, a'r egwyddor yw y dylai Llywodraeth y Deyrnas Unedig geisio cytundeb i symud ymlaen, er ein bod, wrth gwrs, yn derbyn mai Llywodraeth y Deyrnas Unedig fydd yn pennu safbwynt y Deyrnas Unedig ar y materion hynny. 

Ond allwn ni ddim derbyn unrhyw ymgais gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ddibynnu ar y ffaith bod cysylltiadau rhyngwladol yn fater sydd wedi ei gadw yn ôl fel ffordd o ‘gadw’r gweinyddiaethau datganoledig yn eu bocs’ ar bob cyfle.    

Ar hyn o bryd, mae'r drafodaeth hon rhwng llywodraethau, deddfwyr a'r rhai â diddordeb mewn materion cyfansoddiadol. Ond yn y pen draw bydd y trafodaethau a'r penderfyniadau yn effeithio'n uniongyrchol ar fywydau unigolion. Mae pobl Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi pleidleisio dros weld eu llywodraethau a'u seneddau datganoledig yn gwneud penderfyniadau ar agweddau pwysig o'u bywydau, o fewn undeb ehangach. Rhaid i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ddeall mai'r ffordd orau o sicrhau bod yr undeb yn gweithio, ac yn gweithio mewn ffordd well, yw parchu, cefnogi ac yn wir gwella datganoli.

Dyma mae Llywodraeth Cymru wedi'i ddweud yn gyson, a phan fo Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cydnabod hynny, gallwn weld llwyddiant amlwg. Mae arwyddion cadarnhaol ledled Whitehall fod y geiniog yn dechrau cwympo. Ond mae'r newid mewn arweinyddiaeth wleidyddol a thryblith Brexit yn golygu bod rhaid i ni fod yn fwy effro fyth nawr, a mynd ati'n bendant i bwyso'r achos. 

Wrth roi sylw i'r pwysau mae Brexit wedi'i osod ar ein cyfansoddiad datganoledig, mae Llywodraeth Cymru wedi ceisio arwain y drafodaeth. Ac fe fyddwn yn parhau i wneud hynny wrth i ni geisio llunio cyfres o strwythurau rhynglywodraethol sy'n medru bodloni ystod a graddfa'r heriau sydd ger ein bron heddiw mewn ffordd gywir a chynaliadwy, heriau sydd mewn sawl ffordd ond yn rhagflas o'r rhai y byddwn yn eu hwynebu dros y blynyddoedd i ddod. 

Diolch yn fawr iawn.